Cost
Yn economeg, busnes, a chyfrifeg, cost yw gwerth y mewnbynnau sydd wedi cael eu dihysbyddu er mwyn cynhyrchu rhywbeth, ac sydd o'r herwydd ddim ar gael bellach.
Yn nhermau busnes, gallai cost fod yr hyn a werir i gael rhywbeth, ac os felly mae cyfanswm yr arian a werir yn cyfrif fel cost; yn yr achos hwn arian yw'r mewnbwn oedd yn rheidiol i gael y peth. Gall y gost hon, a elwir yn 'gost meddiannu', fod y cyfanswm o'r gost cynhyrchu gan y cynhyrchydd gwreiddiol, ynghyd â chostau ychwanegol a ddaw i ran y prynwr/meddiannwr yn ychwanegol i'r pris a delir i'r cynhyrchydd ei hun. Fel rheol, mae'r pris hwnnw yn cynnwys elw farcio i fyny dros ben y gost cynhyrchu.
🔥 Top keywords: XXX: Return of Xander CageHafanArbennig:SearchCarles PuigdemontWicipedia:Cysylltwch â niMarie AntoinetteXxx: State of The UnionDisturbiaDelwedd:XHamster logo.svgWicipedia:Porth y GymunedWicipedia:Ynglŷn â WicipediaFfilm llawn cyffroEagle EyeArbennig:RecentChangesKathleen Mary FerrierWicipedia:CymorthUnol Daleithiau AmericaYr Ail Ryfel BydDwylo Dros y MôrDriggThe Salton SeaWicipedia:CyflwyniadRhestr llynnoedd CymruDelwedd:XXx REACTIVADO Conferencia de Prensa.jpgWicipedia:Y CaffiCymruMichael D. JonesSimon BowerWicipedia:Gwadiad CyffredinolWikipediaSpecial:SearchYasser ArafatDefnyddiwr:Stefanik/Pwll TywodCaethwasiaethCymraegY Weithred (ffilm)Bartholomew RobertsWicipedia:CymraegCategori:Pentrefi Dyfnaint