Cyfrifeg

Mae cyfrifeg (enw b.) yn faes sy'n ymwneud ag arian, gwybodaeth ariannol, economeg a busnes. Fe'i sefydlwyd gan y mathemategydd Eidalaidd Luca Pacioli ym 1494.[1][2] Gelwir cyfrifeg, weithiau'n "iaith busnes", gan ei bod yn mesur canlyniadau gweithgareddau economaidd sefydliad neu gwmni, gan gyfleu'r wybodaeth hon i amrywiaeth o ddefnyddwyr a chwsmeriaid, gan gynnwys buddsoddwyr, credydwyr, rheolwyr a rheoleiddwyr.[3][4] Adnabyddir ymarferwyr cyfrifeg fel cyfrifwyr. Mae'r termau "cyfrifo" ac "adroddiadau ariannol" yn aml yn cael eu defnyddio fel cyfystyron.

Portread o Luca Pacioli, tad cyfrifeg, wedi'i beintio gan Jacopo de' Barbari, 1495, (Museo di Capodimonte).

Gellir rhannu'r maes cyfrifeg yn sawl is-faes, gan gynnwys cadw cyfrifon, cyfrifyddu ariannol (financial accounting), cyfrifeg i reolwyr, cyfrifyddu allanol, archwilio (neu 'awdit'), cyfrifo treth a cyfrifeg costau.[5][6] Ceir nifer o systemau cyfrifo wedi'u cynllunio'n arbennig ar gyfer yr is-feysydd hyn, a maesydd cysylltiedig e.e. taenlenni megis LibreOffice Calc ac Excel (Microsoft) . Mae cyfrifyddu ariannol yn canolbwyntio ar adrodd yn ôl ar wybodaeth ariannol y sefydliad, gan gynnwys paratoi datganiadau ariannol; mae'r adroddiad hwn, fel arfer, yn cael ei gyflwyno i ddefnyddwyr allanol y sefydliad e.e. buddsoddwr, rheoleiddwyr a chyflenwyr. Gelwir y weithred o gofnodi'r manylion ariannol hyn yn "gadw cownt" a'r llyfr yn "llyfr cownt", ond ers y 1980au ychydig iawn o gadw cownt sy'n digwydd ar bapur. Y system fwyaf cyffredin yw'r dull a elwir yn 'gofnod dwbl'.[6][7]

Termau eraill

  • Pwyllgor Safonau Cyfrifeg: accounting Standards Committee
  • System gyfrifydda: accounting system
  • trywydd archwiliad: audit trail

Cyfeiriadau