Culfor
Sianel forol sy'n cysylltu dau fôr neu ddwy ran o fôr yw culfor. Yn aml bydd culfor yn dramwyfa bwysig i longau ac felly o bwysigrwydd economaidd a stragegol. Yr unig enghraifft o gulfor yng Nghymru yw Afon Menai, rhwng Môn ac Arfon.
Math | water area, tirffurf |
---|---|
Y gwrthwyneb | culdir |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rhai culforoedd enwog
- Culfor Bab el-Mandeb, rhwng y Môr Coch a Chefnfor India
- Culfor Bass, rhwng Tasmania a thir mawr Awstralia
- Culfor Bering, rhwng Alaska, UDA a Siberia, Rwsia
- Bosphorus, rhwng Môr Marmara a'r Môr Du
- Culfor Cook, rhwng Ynys y De ac Ynys y Gogledd yn Seland Newydd
- Culfor Corea, rhwng De Corea a Siapan
- Culfor Davis, rhwng Yr Ynys Las ac Ynys Baffin, Canada
- Dardanelles (Hellespont yr Henfyd), rhwng Môr Marmara a'r Môr Aegeaidd
- Culfor Denmarc, rhwng Yr Ynys Las a Gwlad yr Iâ
- Culfor Dover, rhwng Caint a Fflandrys yn y Môr Udd
- Culfor Fflorida, rhwng Fflorida a Chiwba a'r Bahamas
- Culfor Gibraltar, rhwng Cefnfor Iwerydd a'r Môr Canoldir
- Culfor Hormuz, rhwng Y Gwlff a Gwlff Oman
- Culfor Magellan, De America
- Culfor Makassar, rhwng Borneo a Sulawesi
- Culfor Melaca, rhwng Môr Andaman a moroedd Indonesia yn ne-ddwyrain Asia
- Culfor Messina, rhwng tir mawr Yr Eidal a Sisili
- Culfor Palk, rhwng India a Sri Lanca
- Culfor Yucatan, rhwng Yucatan (Mecsico) a Chiwba
🔥 Top keywords: XXX: Return of Xander CageHafanArbennig:SearchCarles PuigdemontWicipedia:Cysylltwch â niMarie AntoinetteXxx: State of The UnionDisturbiaDelwedd:XHamster logo.svgWicipedia:Porth y GymunedWicipedia:Ynglŷn â WicipediaFfilm llawn cyffroEagle EyeArbennig:RecentChangesKathleen Mary FerrierWicipedia:CymorthUnol Daleithiau AmericaYr Ail Ryfel BydDwylo Dros y MôrDriggThe Salton SeaWicipedia:CyflwyniadRhestr llynnoedd CymruDelwedd:XXx REACTIVADO Conferencia de Prensa.jpgWicipedia:Y CaffiCymruMichael D. JonesSimon BowerWicipedia:Gwadiad CyffredinolWikipediaSpecial:SearchYasser ArafatDefnyddiwr:Stefanik/Pwll TywodCaethwasiaethCymraegY Weithred (ffilm)Bartholomew RobertsWicipedia:CymraegCategori:Pentrefi Dyfnaint