De America
Mae De America yn gyfandir yn Hemisffer y Gorllewin rhwng y Cefnfor Tawel a'r Iwerydd. Mae'r rhan fwyaf ohono yn Hemisffer y De, gyda rhan gymharol fach yn Hemisffer y Gogledd. Gellir ei ddisgrifio hefyd fel "is-gyfandir deheuol yr Amerig" (Americas). Mae'r cyfeiriad at Dde America yn lle rhanbarthau eraill (fel America Ladin neu'r Côn Deheuol) wedi cynyddu yn ystod y degawdau diwethaf oherwydd dynameg geopolitical newidiol (yn benodol, cynnydd Brasil).[1]
Math | cyfandir, isgyfandir, endid tiriogaethol (ystadegol), rhanbarth |
---|---|
Poblogaeth | 385,742,554 |
Cylchfa amser | UTC−06:00, UTC−05:00, UTC−04:00, UTC−03:00, UTC−02:00 |
Daearyddiaeth | |
Arwynebedd | 17,843,000 km² |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd, Y Cefnfor Tawel, Môr y Caribî |
Yn ffinio gyda | Canolbarth America, Gogledd America, America Ganol Gyfandirol |
Cyfesurynnau | 21°S 59°W |
Mae'r Cefnfor Tawel yn ffinio â De America yn y gorllewin ac i'r gogledd a'r dwyrain mae Cefnfor yr Iwerydd, Gogledd America a Môr y Caribî i'r gogledd-orllewin. Mae'r cyfandir yn gyffredinol yn cynnwys deuddeg talaith sofran: yr Ariannin, Bolifia, Brasil, Tsile, Colombia, Ecwador, Guyana, Paragwâi, Periw, Swrinam, Wrwgwái, a Feneswela; dwy diriogaeth ddibynnol: y Malvinas (neu 'Ynysoedd y Falkland') a De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De; ac un diriogaeth fewnol: Guyane. Mae tiriogaethau'r Caribî yn cael eu lleoli yng Ngogledd America gan ddaearyddwyr.
Enwyd De America ar ôl Amerigo Vespucci, yr Ewropead cyntaf i awgrymu nad India'r Dwyrain oedd yr Amerig, ond y Byd Newydd.
Mae gan De America arwynebedd o 17,820,000 km² (6,880,000 mi sg), neu tua 3.5% o arwynebedd y Ddaear. Yn 2005, amcangyfrifwyd fod y boblogaeth yn fwy na 371,200,000 ac erbyn 2017 roedd yn 423 miliwn.[2]Nodyn:Additional citation needed Dyma'r pedwerydd cyfandir o ran arwynebedd (ar ôl Asia, Affrica, a Gogledd America) a'r pumed o ran poblogaeth (ar ôl Asia, Affrica, Ewrop, a Gogledd America).
O ran arwynebedd, mae De America yn y pedwerydd safle (ar ôl Asia, Affrica, a Gogledd America) ac yn bumed yn ôl poblogaeth (ar ôl Asia, Affrica, Ewrop a Gogledd America). Brasil yw gwlad fwyaf poblog De America o bell ffordd, gyda mwy na hanner poblogaeth y cyfandir, ac yna Colombia, yr Ariannin, Venezuela a Periw. Yn ystod y degawdau diwethaf, mae Brasil hefyd wedi cynhyrchu hanner CMC y cyfandir ac wedi dod yn bŵer rhanbarthol cyntaf y cyfandir.[2]
Mae tarddiad diwylliannol ac ethnig y cyfandir yn tarddu yn y bobl frodorol yn ogystal â choncwerwyr a mewnfudwyr Ewropeaidd a yn y caethweision a gludwyd yma o Affrica. O ystyried hanes hir o wladychiaeth (colonialism), mae mwyafrif llethol De America yn siarad Portiwgaleg neu Sbaeneg, ac mae cymdeithasau a gwladwriaethau'n adlewyrchu traddodiadau'r Gorllewin. O'i gymharu ag Ewrop, Asia ac Affrica, mae De America yn yr 20g wedi bod yn gyfandir heddychlon heb lawer o ryfeloedd.[3]
Daearyddiaeth
Ymhlith y mannau mwyaf nodedig yn Ne America mae'r canlynol:
- mae De America yn gartref i raeadr ddi-dor uchaf y byd, Angel Falls yn Fenwswela;
- y rhaeadr fertig uchaf ( lle mae diferyn o ddwr yn syrthio heb darro yn erbyn craig) Rhaeadr Kaieteur yn Gaiana;
- yr afon fwyaf yn ôl cyfaint yn y byd, Afon Amazonas;
- y gadwen hiraf o fynyddoedd, yr Andes (gyda'i mynydd uchaf yn Aconcagua yn 6,962 m neu 22,841 tr);
- y lle sychaf ar y ddaear (nad yw'n begynol), Anialwch yr Atacama;[4][5][6]
- y lle gwlypaf ar y ddaear, López de Micay yng Ngholombia;
- y fforest law fwyaf, fforest law yr Amazonas;
- y brifddinas uchaf, La Paz, Bolifia;
- y llyn mordwyol masnachol uchaf yn y byd, Llyn Titicaca; a chymuned barhaol fwyaf deheuol y byd (ac eithrio gorsafoedd ymchwil yn Antarctica), Puerto Toro, Tsile.
O ran mwynau, prif adnoddau De America yw aur, arian, copr, mwyn haearn, tun a phetroliwm. Mae'r adnoddau hyn wedi dod ag incwm uchel i'w gwledydd yn enwedig ar adeg rhyfel neu o dwf economaidd cyflym gan wledydd diwydiannol eraill. Fodd bynnag, mae cynhyrchu un nwydd, fel hyn, i'w allforio, yn aml wedi rhwystro datblygiad economïau y bobl gynhenid, yr amrywiaeth diwylliannol. Mae'r gwahaniaethau mawr ym mhris nwyddau yn y marchnadoedd rhyngwladol wedi arwain at uchafbwyntiau ac isafbwyntiau mawr yn economïau taleithiau De America, gan achosi ansefydlogrwydd gwleidyddol eithafol yn aml.
Hinsawddd
Yn y gwledydd tymherus, mae gaeafau a hafau'n fwynach nag yng Ngogledd America. Y rheswm am hyn yw bod y rhan fwyaf helaeth y cyfandir yn y parth cyhydeddol (mae gan y rhanbarth fwy o ardaloedd o wastadeddau cyhydeddol nag unrhyw le arall), gan roi mwy o ddylanwad cefnforol i'r Côn Deheuol, sy'n cymedroli tymereddau trwy gydol y flwyddyn.[7]
Mae'r tymereddau blynyddol cyfartalog ym masn yr Amazon yn pendilio oddeutu 27 °C (81 °F), gydag amplitudau thermol isel a mynegeion glawiad uchel. Rhwng Llyn Maracaibo a cheg yr Orinoco, ceir hinsawdd gyhydeddol o'r math Congo, sydd hefyd yn cynnwys rhannau o diriogaeth Brasil.
Gwledydd
- Yr Ariannin
- Bolifia
- Brasil
- Colombia
- Tsile
- Ecwador
- Gaiana
- Guiana Ffrengig
- Paragwâi
- Periw
- Swrinam
- Trinidad a Tobago
- Wrwgwái
- Feneswela
Tabl o wledydd, tiriogaethau a rhanbarthau
Enw tiriogaeth, efo baner | Arwynebedd (km²) | Poblogaeth (2005) | Dwysedd poblogaeth (per km²) | Prifddinas |
---|---|---|---|---|
Brasil | 8,511,965 | 203,062,512 (1 Awst 2022)[8] | 21.9 | Brasília |
Ucheldiroedd Guiana: | ||||
Gaiana | 214,970 | 777,859 (2017)[9] | 3.6 | Georgetown |
Guiana Ffrengig | 91,000 | 286,618 (1 Ionawr 2021) | 2.1 | Cayenne |
Swrinam | 163,270 | 563,402 (2017)[9] | 2.7 | Paramaribo |
Gwledydd yr Andes: | ||||
Bolifia | 1,098,580 | 11,051,600 (2017)[9] | 8.1 | La Paz |
Ecwador | 283,560 | 16,938,986 (2022)[10] | 47.1 | Quito |
Periw | 1,285,220 | 29,381,884 (2017)[11] | 21.7 | Lima |
> De America Caribïaidd: | ||||
Colombia | 1,138,910 | 49,065,615 (2017)[9] | 37.7 | Bogotá |
Feneswela | 912,050 | 28,515,829 (2019) | 27.8 | Caracas |
> Ynysoedd Caribïaidd: | ||||
Trinidad a Tobago | 5,128 | 1,369,125 (2017)[9] | 212.3 | Port of Spain |
Côn Deheuol: | ||||
Paragwâi | 406,750 | 6,811,297 (2017)[9] | 15.6 | Asunción |
Wrwgwái | 176,220 | 6,811,297 (2017)[9] | 19.4 | Montevideo |
> Patagonia: | ||||
Yr Ariannin | 2,766,890 | 47,327,407 (2022)[12] | 14.3 | Buenos Aires |
Tsile | 756,950 | 19,458,000 (2021)[13] | 21.1 | Santiago de Chile |