Cyfres Harri Potter a'r Gymraeg

Mae cyfres Harri Potter yn cynnwys cysylltiau i Gymru ac mae un llyfr hyd yn hyn (Awst 2011) wedi'i gyfieithu i'r Gymraeg gan Emily Huws, a ddywedodd, "Gwynebais anawsterau arbennig nad oeddwn wedi eu profi o'r blaen wrth gyfieithu Harri Potter. Mae gan JK Rowling ffordd mor wych gyda iaith, gan ei bod wedi gwneud geiriau i fyny o'i dychymyg, ac fe wnes i fy ngorau i gadw'n ffyddlon i'w hystyr gwreiddiol."[1] Cafodd, felly, gymorth gan gefnogwr 15 mlwydd oed wrth iddi gyfieithu'r llyfr.[2]

Cyfieithiad i'r Gymraeg

Yr unig lyfr a gyfieithwyd i'r Gymraeg yw Harri Potter a Maen yr Athronydd.

Yn fersiwn Cymraeg y nofel, mae'r rhan fwyaf o'r cymeriadau yn cadw eu henwau Saesneg, ond mae enw Cymraeg gwahanol ar rai cymeriadau, pethau, neu leoedd mewn cymhariaeth â'r fersiwn Saesneg.

CymraegSaesneg gwreiddiol
Dreigo MallwydDraco Malfoy
Edeyrn ag EfnisienCrabbe and Goyle
GringrwnGringotts
Mygl (lluosog: Myglars)Muggle (muggles)
Nefydd LlywelynNeville Longbottom
Y Proffwyd DyddiolThe Daily Prophet
Garadog FychanCornelius Fudge
Y PiwsiwrPeeves
Waldo Waedlydthe Bloody Baron
Wyddost-Ti-PwyYou-Know-Who
Gron Heb Ben BronNearly Headless Nick
Sefran SneipSeverus Snape
Siriws DduSirius Black

Enwau pedwar Tŷ Ysgol Hudoliaeth a Dewiniaeth Hogwarts:

CymraegSaesneg gwreiddiol
SlafennogSlytherin
LleureurolGryffyndor
WfftipwffHufflepuff
CrafangfranRavenclaw

Yn 2010 cyhoeddwyd argraffiad clawr papur o’r llyfr cyntaf yn y Gymraeg, ag ynddi gyfieithiad i enwau’r saith lyfr petaaent yn cael eu cyfieithu, fel a ganlyn:

Saesneg gwreiddiolCymraeg
Harry Potter and the Philosopher's StoneHarri Potter a Maen yr Athronydd
Harry Potter and the Chamber of SecretsHarri Potter a’r Siambr Gyfrinachau
Harry Potter and the Prisoner of AzkabanHarri Potter a’r Carcharor o Azkaban
Harry Potter and the Goblet of FireHarri Potter a’r Ffiol Fflamau
Harry Potter and the Order of the PhoenixHarri Potter ac Urdd y Ffenics
Harry Potter and the Half-Blood PrinceHarri Potter a’r Tywysog o Hanner Gwaed
Harry Potter and the Deathly HallowsHarri Potter a’r Tri Pheth Marwol
Cyfieithiad teitlau Harri Potter

J.K. Rowling, cyf. Emily Huws, Harri Potter a Maen yr Athronydd, (Bloomsbury, Llundain. 2010) ISBN 978-1-4088-1767-4

Cysylltiadau rhwng byd Harri Potter a Chymru

  • Holyhead Harpies yw un o'r timau Quidditch enwocaf ym Mhrydain (a hoff tîm Ginny Weasley).
  • Yn y bennod olaf, mae Harri, Ron, a Hermione yn cuddio mewn coedwig yng Nghymru.
  • Mae rhywogaeth o dreigiau yn byw yng Nghymru: y ddraig gyffredin werdd Gymreig.
  • Yn 'The Prisoner of Azkaban,' mae menyw ar y Knight Bus yn gadael am y Fenni.
  • Recordiwyd rhan y ffilm "Harry Potter and the Deathly Hallows" ar draeth yn Freshwater West (Sir Benfro).[3]
  • Yn 2014 rhyddhawyd cyfres newydd o'r llyfrau gyda chloriau newydd gan yr artist o Nannerch yn Sir y Fflint, Jonny Duddle.[4]
  • Mae J.K. Rowling wedi cyhoeddi bod gan sawl un o'i chymeriadau cyswllt pellach â Chymru, a hynny trwy ei gwefan, Pottermore. Mae'r rhain yn cynnwys Remus Lupin, a oedd yn enedigol i Fam Fyglar a oedd o Gaerdydd, a chymeriad cefndirol y gantores Celestina Warbeck, a oedd wedi'i seilio ar Shirley Bassey.[5]

Cyfeiriadau