Coedwig

Ardal gyda dwysedd uchel o goed yw coedwig (neu fforest). Mae gan goedwig nifer o wahanol ddifiniadau yn seiliedig ar amryw o feini prawf[1]. Diffiniad Geiriadur Prifysgol Cymru yw "Darn helaeth o dir ag amlder o goed a phrysglwyni’n tyfu’n naturiol arno, yn nodedig gynt fel lloches i anifeiliaid gwylltion o bob math, fforest, gwig, llwyn choed yr arferid hela ynddo".[2] Dywed y Sefydliad Bwyd ac Amaeth, mae fforestydd yn gorchuddio tua pedair biliwn hectar (15 miliwn milltir sgwâr).[3]

Chase Wood, Newbury
Fideo gan Gyfoeth Naturiol Cymru - yn dangos ceffylau gwedd yn gweithio mewn coedwig.

Gellir dweud mai fforsetydd yw prif ecosystem y Ddaear, ac maent i'w cael ledled y byd.[4] Dyma 75% o gynnyrch cynradd biosffer y Ddaear, ac 80% o fiomas y Ddaear. Ceir coetiroedd dros 250,000ha, sef 12% o arwynebedd Cymru.[5]

Coedwigaeth

Rheolir coed a choedwigoedd Cymru gan Cyfoeth Naturiol Cymru (yr hen Comisiwn Coedwigaeth Cymru) sy'n rheoli diwydiant coedwigaeth y wlad, er budd economaidd. Mae'r comisiwn llywodraethol hwn yn berchen ar ystadau mawr er mwyn elwa ar bren a chyfloedd masnachol eraill coetiroedd, megis gweithgareddau awyr agored a gwarchod coed hynafol a'r bywyd gwyllt a geir ynddynt.

Cyfeiriadau

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Chwiliwch am coedwig
yn Wiciadur.