Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2018

Roedd 214 aelod yn nhîm Cymru[1] yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad 2018 ar yr Arfordir Aur, Awstralia rhwng 4 Ebrill a 15 Ebrill 2018.

Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2018
Enghraifft o'r canlynolcystadleuaeth chwaraeon i wledydd Edit this on Wikidata
Dyddiad2018 Edit this on Wikidata
GwladwriaethAwstralia Edit this on Wikidata

Y triathletwraig Non Stanford oedd capten y tîm[2], gyda'r nofwraig, Jazz Carlin, yn cludo'r Ddraig Goch i'r Seremoni Agoriadol[3] a'r codwr pwysau Gareth Evans gludodd y Ddraig Goch yn y seremoni cloi[4].

James Ball gipiodd fedal cyntaf Cymru gydag arian yn y ras tandem 1000m yn erbyn y cloc i feicwyr dall neu â nam golwg[5] cyn i Gareth Evans ennill medal aur cyntaf Cymru yn y codi pwysau categori 69 kg[6].

Yn cystadlu yn ei bumed Gemau'r Gymanwlad, llwyddodd David Phelps i ennill y fedal aur yn y gystadleuaeth 50m Reiffl tra'n gorwedd a sefydlu record y Gymanwlad newydd. Dyma'r ail dro iddo ennill y fedal aur gan iddo ennill yr un gystadleuaeth yng Ngemau'r Gymanwlad 2006 ym Melbourne, Awstralia[7].

Cystadleuwyr

Aelodau tîm Cymru ym mhob camp

CampDynionMerchedCyfanswm
Athletau141226
Beicio15621
Bocsio437
Bowlio lawnt10717
Codi pwysau8816
Gymnasteg5813
Hoci181836
Nofio5914
Pêl-rwydN/A1212
Plymio101
Reslo202
Rygbi saith-bob-ochr131326
Saethu8311
Sboncen224
Tenis bwrdd134
Triathlon224
Cyfanswm108106214

Medalau'r Cymry

Llwyddodd athletwyr Cymru i ennill 36 o fedalau - 10 medal aur, 12 medal arian a 14 medal efydd - cyfanswm medalau sydd gystal â'r nifer uchaf erioed o'r Gemau yn Glasgow yn 2014, ond yr adeg hynny dim ond pum medal aur gafodd y tîm. Gyda 10 medal aur yn cael eu hennill yn 2018, mae'r Gemau yn cael eu hystyried fel y Gemau gorau erioed i Gymru[4].

Saethu oedd camp mwyaf llwyddiannus Cymru gyda dwu fedal aur, dwy fedal arian ac un medal efydd ond daeth y nifer fwyaf o fedalau yn y beicio gyda 6 medal yn cael eu hennill - un aur, pedair arian ac uyn efydd. Dyma hefyd y tro cyntaf erioed i Gymru ennill medal yn y ras lôn i ddynion ac i ferched yn yr un Gemau[8]

MedalEnwCystadleuaeth
AurGareth EvansCodi Pwysau69 kg
AurElinor BarkerBeicioRas bwyntiau
AurOlivia BreenAthletauT38 Naid hir
AurDaniel Salmon a Marc WyattBowlio lawntDyblau'r dynion
AurHolly ArnoldAthletauF36 Gwaywffon
AurAlys ThomasNofio200m Dull Pili pala
AurDavid PhelpsSaethu50m Reiffl tra'n gorwedd
AurMichael WixeySaethuTrap
AurLauren PriceBocsio75 kg
AurSammy LeeBocsio81 kg
ArianJames Ball (Peter Mitchell)BeicioTandem 1000m yn erbyn y cloc
ArianJames Ball (Peter Mitchell)BeicioTandem gwibio
ArianLewis OlivaBeicioKeirin
ArianLaura DanielsBowlio lawntSenglau'r Merched
ArianBen LlewellinSaethuSgît
ArianLatalia BevanGymnastegLlawr
ArianChris Watson a Gareth MorrisSaethuGwobr y Frenhines (Parau)
ArianDaniel JervisNofio1500m Dull rhydd
ArianKane CharigReslo65 kg
ArianLaura HalfordGymnasteg rhythmigCylch
ArianJon MouldBeicioRas lôn
ArianRosie EcclesBocsio69 kg
EfyddChloe TuttonNofio200m Dull broga
EfyddBethan DaviesAthletauCerdded 30 km
EfyddLaura HughesCodi Pwysau75 kg
EfyddTesni EvansSboncenSenglau'r merched
EfyddMelissa CourtneyAthletau1500m
EfyddGeorgia DaviesNofio50m Dull cefn
EfyddGeorgia Davies, Chloe Tutton,
Alys Thomas a Kathryn Greenslade
Nofio4x100m Medli
EfyddGilbert Miles a Julie ThomasBowlio lawntParau cymysg B2/B3
EfyddOlivia BreenAthletauT38 100m
EfyddCurtis DodgeReslo74 kg Dull rhydd
EfyddSarah WixeySaethuTrap
EfyddMickey McDonaghBocsio60 kg
EfyddDani RoweBeicioRas lôn
EfyddJoshua StaceyTenis bwrddTT6-10 senglau

Cyfeiriadau