Sboncen yng Ngemau'r Gymanwlad

Gwnaeth sboncen ei ymddangosiad cyntaf yng Ngemau'r Gymanwlad yn ystod Gemau'r Gymanwlad ym 1998 yn Kuala Lumpur, Maleisia.

Mae'r gamp wedi ymddangos ym mhob un o'r Gemau ers yr ymddangosiad cyntaf yn Kuala Lumpur ac ers 2014, mae sboncen yn un o'r 10 camp craidd sydd yn rhaid ei gynnal mewn Gemau Gymanwlad.

Gemau

GemauBlwyddynDinasGwladGwlad mwyaf llwyddiannus
XVI1998Kuala Lumpur Maleisia  Awstralia
XVII2002Manceinion  Lloegr  Seland Newydd
XVIII2006Melbourne  Awstralia  Awstralia
XIX2010Delhi Newydd  India  Lloegr
XX2014Glasgow  Yr Alban  Awstralia
XXI2018Arfordir Aur  Awstralia

Tabl medalau

Ar ôl Gemau'r Gymanwlad 2018

 Safle GwladAurArianEfyddCyfanswm
1  Awstralia1181433
2  Lloegr9141538
3  Seland Newydd54413
4  Maleisia2125
5  India1203
6  Canada1102
7  Yr Alban1012
8  De Affrica0022
 Cymru0022
Total303040100

Medalau'r Cymry

Alex Gough oedd y Cymro cyntaf i ennill medal sboncen yng Ngemau'r Gymanwlad wedi iddo ennill medal efydd yn Senglau'r Dynion yng Ngemau'r Gymanwlad yn Kuala Lumpur, Maleisia, ym 1998.[1].

MedalEnwPwysauGemau
EfyddAlex GoughSenglau'r DynionXVI
EfyddTesni EvansSenglau'r MerchedXXI

Cyfeiriadau