Cyrchfilwr

Milwr neu fôr-filwr sy'n rhan o lu elît neu arbennig yw cyrchfilwr, cyrchlüwr[1] neu gomando.[1][2] Uned o gyrchfilwyr yw cyrchlu[1] sy'n debyg ei maint i fataliwn o droedfilwyr. Hyfforddir mewn tactegau afreolaidd neu herwfilwrol: dwyn cyrchoedd ar y gelyn, tactegau sioc, ymladd lawlaw, ymosodiadau taro a ffoi, ymosodiadau o'r tir a'r môr, parasiwtio, ac abseilio.[3][4]

Jaubert, un o gyrchluoedd Llynges Ffrainc, yn ymosod ar long mewn ffugfrwydr.

Cynllunwyd y cyrchlu cyntaf gan y Boeriaid yn ystod Rhyfeloedd y Boer. Gorfodwyd dynion i ymuno â milisia'r kommando, a oedd yn fath o gatrawd o farch-droedfilwyr. Sefydlwyd nifer o gyrchluoedd gan y Lluoedd Arfog Prydeinig yn ystod yr Ail Ryfel Byd i arwain perwylion peryglus megis y cyrch ar bencadlys Rommel ym 1941. Datblygodd bataliynau Rangers y Fyddin Americanaidd yn gyrchluoedd effeithiol. Cafodd cyrchluoedd y Fyddin Brydeinig eu dadfyddino wedi diwedd y rhyfel, ond danfonwyd cyrchfilwyr y Môr-filwyr Brenhinol i Gorea a Suez. Manteisir y cyrchfilwr yn yr 21g ar dechnoleg dra arbenigol gan gynnwys lloerennau cyfathrebu, mân-arfau distawedig, ffrwydron newydd a synwyryddion sensitif.[5]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau