Cytsain amcanedig
Mewn seineg, cytsain lle y mae ynganyddion yn nesáu at ei gilydd, ond heb ddigon o gulni na manylder i greu llif anadl aflonydd, yw cytsain amcanedig. Maen cytseiniau amcanedig yn cyferbynnu â ffrithiolion, sy'n cynhyrchu llif anadl aflonydd, a llafariaid, nad ydynt yn creu aflonyddwch anadl.
Ceir y cytseiniaid amcanedig canlynol yn yr Wyddor Seinegol Ryngwladol (IPA):
IPA | Disgrifiad | Enghraifft | |||
---|---|---|---|---|---|
Iaith | Sillafu | IPA | Ystyr | ||
β̞ | cytsain amcanedig ddwywefusol leisiol | Sbaeneg | lobo | [loβ̞o] | blaidd |
cytsain amcanedig wefus-ddeintiol | Iseldireg | wang | [ʋɑŋ] | boch | |
ð̞ | cytsain amcanedig ddeintiol | Sbaeneg | codo | [koð̪o] | penelin |
l̪ | cytsain amcanedig ochrol ddeintiol | Sbaeneg | alto | [al̪t̪o] | tal |
ɹ | cytsain amcanedig orfannol | Saesneg | red | [ɹɛd] | coch |
l | cytsain amcanedig ochrol orfannol | Cymraeg y de | lôn | [loːn] | lôn |
cytsain amcanedig olblyg | Tamil | தமிழ் (Tamiḻ) | [t̪ɐmɨɻ] | Tamil | |
cytsain amcanedig ochrol olblyg | Swedeg | Karlstad | [kʰɑːɭ.sta] | Karlstad | |
cytsain amcanedig daflodol | Cymraeg | iâr | [jaːr] | iâr | |
cytsain amcanedig ochrol daflodol | Eidaleg | aglio | [aʎːo] | garlleg | |
cytsain amcanedig wefus-felar ddi-lais | Cymraeg y De | chwech | [ʍeːχ] | chwech | |
cytsain amcanedig felar | Sbaeneg | pagar | [paɰaɾ] | talu | |
cystain amcanedig ochrol felar | iaith Mid-Wahgi | aʟaʟe | [aʟaʟe] | chwil, penysgafn | |
cytsain amcanedig wefus-felar leisiol | Cymraeg | wal | [wal] | wal | |
ʕ | cytsain amcanedig argegol | Hebraeg Mishnäig | עין | [ʕaːjin̪] | y llythyren Hebraeg ain |
Gweler hefyd
Ffynonellau
- Ladefoged, Peter; Ian Maddieson (1996). The Sounds of the World's Languages. Rhydychen: Blackwell. ISBN 0-631-19814-8.
🔥 Top keywords: XXX: Return of Xander CageHafanArbennig:SearchCarles PuigdemontWicipedia:Cysylltwch â niMarie AntoinetteXxx: State of The UnionDisturbiaDelwedd:XHamster logo.svgWicipedia:Porth y GymunedWicipedia:Ynglŷn â WicipediaFfilm llawn cyffroEagle EyeArbennig:RecentChangesKathleen Mary FerrierWicipedia:CymorthUnol Daleithiau AmericaYr Ail Ryfel BydDwylo Dros y MôrDriggThe Salton SeaWicipedia:CyflwyniadRhestr llynnoedd CymruDelwedd:XXx REACTIVADO Conferencia de Prensa.jpgWicipedia:Y CaffiCymruMichael D. JonesSimon BowerWicipedia:Gwadiad CyffredinolWikipediaSpecial:SearchYasser ArafatDefnyddiwr:Stefanik/Pwll TywodCaethwasiaethCymraegY Weithred (ffilm)Bartholomew RobertsWicipedia:CymraegCategori:Pentrefi Dyfnaint