Gwyddor Seinegol Ryngwladol

System wyddorol o nodiant seinegol yw'r Wyddor Seinegol Ryngwladol (Saesneg: International Phonetic Alphabet neu IPA). Mae'n seiliedig yn bennaf ar yr wyddor Ladin, a dyfeisiwyd hi gan y Gymdeithas Seinegol Ryngwladol yn y 19eg ganrif fel dull safonedig o safonol o gynrychioli seiniau iaith lafar.[1] Defnyddir yr WSR gan eiriadurwyr, myfyrwyr ac athrawon ieithoedd tramor, ieithyddion, patholegwyr iaith a lleferydd, cantorion, actorion, chyfieithwyr a'r rhai sy'n creu ieithoedd gwneud.[2][3]

Siart yr Wyddor Seinegol Ryngwladol er 2020

Bwriedir i'r Wyddor Seinegol Ryngwladol allu cynrychioli nodweddion lleferydd sydd yn rhan o seiniau geiriol (ac i raddau llai, seiniau prosodig) iaith lafar yn unig, sef ffonau, ffonemau, goslef a gwahaniad geiriau a silliau.[1] Er mwyn cynrychioli nodweddion eraill mewn lleferydd, megis rhincian dannedd, siarad yn floesg a seiniau a wneir â thafod a thaflod hollt, gellir defnyddio set estynedig o symbolau, estyniadau'r Wyddor Seinegol Ryngwladol.[2]

Mae symbolau'r Wyddor yn cynnwys un neu fwy o elfennau o ddau fath sylfaenol: llythrennau a marciau diacritig. Er enghraifft, gellir trawsgrifio'r llythryen Gymraeg ⟨c⟩ yn yr WSR ag un llythyren, [k], neu â llythyren â marc diacritig, [kʰ], er mwyn bod yn fwy manwl gywir. Slaesau a ddefnyddir i ddangos trawsgrifiad ffonemig, felly mae /k/ yn fwy haniaethol na [k] a [kʰ], a gellid cyfeirio at y naill neu'r llall gan ddibynnu ar y cyd-destun a'r iaith.

O bryd i'w gilydd, caiff llythrennau neu farciau diacritig eu hychwanegu, eu diddymu neu eu haddasu gan y Gymdeithas Seinegol Ryngwladol. Ers y newidiadau diweddaraf yn 2005,[4] 107 o lythrennau segmentol, nifer anferthol o lythrennau uwchsegmentol, 44 o farciau diacritig (heb gynnwys cyfuniadau) a phedwar marc prosodig alleiriol sydd yn yr wyddor. Gwelir y rhan fwyaf o'r rhain yn siart yr WSR yn yr erthygl hon a gyfieithiwyd i'r Gymraeg yn 2020.[5]

Hanes

Yn 1886, sefydlwyd grŵp o athrawon iaith o Ffrainc a Phrydain, dan arweiniad yr ieithydd o Ffrancwr Paul Passy, gymdeithas a fyddai'n derbyn yr enw y Gymdeithas Seinegol Ryngwladol (Saesneg: International Phonetic Association; Ffrangeg: l'Association phonétique internationale) yn 1897.[6] Roedd eu gwyddor wreiddiol yn seilidig ar yr wyddor Romig, ffordd ddigwygiedig o sillafu'r Saesneg, ond er mwyn ei defnyddio mewn ieithoed eraill, roedd gwerthoedd y symbolau yn gallu amrywio o iaith i iaith.[7] Er enghraifft, câi'r sain ⟨ʃ⟩ (sef sain si yn siop) ei hysgrifennu â'r llythyren ⟨c⟩ yn Saesneg ond â'r ddeugraff ⟨ch⟩ yn Ffrangeg.[6] Yn 1888, diwygiwyd yr WSR er mwyn iddo fod yr un peth dros bob iaith ac felly dyma oedd sylfaen digwygiadau'r dyfodol.[6][8] Otto Jespersen awgrymodd y syniad o wneud yr wyddor mewn llythyr at Paul Passy yn y lle cyntaf. Fe'i datblygwyd gan Alexander John Ellis, Henry Sweet, Daniel Jones a Passy.[9]

Ers creu'r Wyddor, mae wedi cael ei diwygio nifer o weithiau. Ar ôl y diwygiadau ac ehangiadau o'r 1890au hyd y 194au, ni newidiodd yr WSR lawer nes Gytunteb Kiel yn 1989. Cafwyd diwygiad bychan yn 1993 pan ychwanegwydd pedair llythyren i gynrychioli llafariaid canoledig-ganolog[10] a thynnwyd llythrennau'r mewnffrwydrolion di-lais.[11] Diwygiwyd yr wyddor ddiwethaf fis Mai 2005 drwy ychwanegol llythyren am fflap gwefus-ddeintiol.[12] Yn ogystal ag ychwanegu a thynnu symbolau, ailenwi symbolau a chategorïau a newid ffurfdeipiau fu'r prif newidiadau eraill.[10]

Crëwyd estyniadau'r Wyddor Seinegol Ryngwladol ar gyfer patholeg iaith yn 1990 ac fe'u derbyniwyd yn swyddogl gan Gymdeithas Seineg ac Ieithyddiaeth Glinigol Ryngwladol yn 1994.[13]

Disgrifiad

Darparu un llythyren am bob sain wahanol (segment lleferydd) yw nod gyffredinol yr Wyddor Seinegol Ryngwladol[14], a olyga:

  • Nad yw'n defnyddio cyfuniad o lythrennau i gynrychioli seiniau unigol fel arfer, fel y mae ⟨ch⟩, ⟨dd⟩ ac ⟨ng⟩ yn ei gwneud yn y Gymraeg, ac nad yw'n defnyddio llythrennau unigol i gynrychioli sawl sain fel y mae ⟨i⟩ yn cynrychioli /ɪ/ and /j/ yn Gymraeg;
  • Nad oes llythrennau y mae eu sain yn dibynnu ar y cyd-destun megis ⟨c⟩ ac ⟨g⟩ a'u hynganiadau "caled" a "meddal" gwahanol mewn sawl iaith Ewropeaidd;
  • Nad oes llythrennau gwahanol am ddwy sain os na wyddys fod unrhyw iaith yn gwahaniaethu rhyngddynt, arfer o'r enw "detholusrwydd".[15][note 1]

Cynllunir yr wyddor i drawsgrifio seiniau (ffonau), nid ffonemau, ond fe'i defnyddir i drawsgrifio yn ffonemig hefyd. Tynnwyd ambell lythyren nad oedd yn cynrycholi seiniau penodol (megis ⟨ˇ⟩ am dôn "gyfansawdd" Swedeg a Norwyeg a ⟨ƞ⟩ am drwynolyn moräig Japaneg), er bod un yn parhau, sef ⟨ɧ⟩ am sain ⟨sj⟩ y Swedeg. Pan gaiff yr WSR ei defnyddio i drawgrifio yn ffonemig, gall y gyfatebiaeth rhwng y llythrennau a'r seiniau fod yn eithaf llac, er enghraifft, defyddir ⟨c⟩ a ⟨ɟ⟩ yn llawlyfr yr Wyddor Seinegol Ryngwladol am /t͡ʃ/ and /d͡ʒ/.

Ymhlith symbolau'r Wyddor, 107 o lythrennau sy'n cynrychioli cytseiniaid a llafariaid, 31 o farciau diacritig sy'n addasu'r rhain a 19 o symbolau ychwanegol sy'n dangos nodweddion uwchsegmentol megis hyd, tôn, pwyslais a goslef.[note 2] Arddangosir y symbolau ar ffurf siart a gwelir y siart swyddogol yma fel a geir ar wefan y Gymdeithas Seinegol Ryngwladol.

Ffurfiau'r llythrennau

Mae llythrennau'r WSR i fod i gyd-fynd â'r wyddor Ladin[note 3] ac felly llythrennau Lladin neu Roeg neu addasiadau ohonynt yw'r rhan fwyaf o'r llythrennau ynddi. Er hynny, ceir rhai nad ydynt yn perthyn i'r naill na'r llall, er enghraifft, mae'r llythyren sydd yn dynodi'r ffrwydrolyn glotal, ⟨ʔ⟩, ar ffurf gofynnod heb ddot ac mae'r tarddu o'r collnod yn wreiddiol. Ysbrydolwyd rhai llythrennau gan systemau ysgrifennu eraill, megis symbol y ffrithiolyn ffaryngeal lleisiol, ⟨ʕ⟩, sydd yn dod o lythyren ‘ain ⟨ﻉ⟩ Arabeg.[16]

Daw rhai llythrennau o lythrennau sydd eisoes yn bodoli:

  1. Mae'r gynffon i'r dde, yn ⟨ʈ ɖ ɳ ɽ ʂ ʐ ɻ ɭ⟩, yn dynodi cynaniad ôl-blyg ac mae'n tarddu o'r bachyn yn y llythyren r sy'n plygu i'r chwith.
  2. Mae'r bachyn ar y brig, yn ⟨ɠ ɗ ɓ⟩, yn dangos mewn mewnffrwydrolyn.
  3. Mae sawl trwynolyn yn seiliedig ar lun ⟨n⟩: ⟨n ɲ ɳ ŋ⟩. Daw ⟨ɲ⟩ a ⟨ŋ⟩ o gyfrwymiadau rhwng gn ac ng ac mae ⟨ɱ⟩ yn efelychu ⟨ŋ⟩ felly.
  4. Ceir llythrennau wyneb i waered, megis ⟨ɐ ɔ ə ɟ ɓ ɥ ɾ ɯ ɹ ʇ ʊ ʌ ʍ ʎ⟩ (o ⟨a c e f ɡ h ᴊ m r t Ω v w y⟩), lle y mae naill ai'r un wreiddiol, er enghraifft, ⟨ɐ ə ɹ ʇ ʍ⟩ neu'r un ar ei phen, er enghraifft, ⟨ɔ ɟ ɓ ɥ ɾ ɯ ʌ ʎ⟩, yn agoffa un o'r sain darged. Roedd hyn yn hawdd ei wneud yn oes teiposod mecanyddol a mantais oedd nad oedd yn rhaid castio teip arbennig i'r WSR, yn yr un modd ag yr oedd b a q, d a p, n ac u, 6 a 9 yn lleihau costau.
  5. Mae'r priflythrennau bychain ⟨ɢ ʜ ʟ ɴ ʀ ʁ⟩ yn fwy gyddfol na'r llythrennau bach cyfatebol, er mai eithrad yw ⟨ʙ⟩.

Teipograffeg ac eiconigrwydd

Mae'r Wyddor Seinegol Ryngwladol yn seiliedig ar yr wyddor Ladin, gan ddefnyddio cyn lleied o lythrennau o systemau ysgrifennu eraill â phosibl.[17] Creodd y Gymdeithas yr Wyddor er mwyn i seiniau'r mwyafrif o'r cytseiniaid a ddaeth o'r wyddor Ladin gyd-fynd â "defnydd rhyngwladol" (sef, yn fras, â Lladin Clasurol).[17] Felly, mae gan y ⟨b⟩ (leisiol), ⟨d⟩ (leisiol), ⟨ɡ⟩ (leisiol), ⟨h⟩, ⟨l⟩ (ddeheuol), ⟨m⟩, ⟨n⟩, ⟨r⟩, ⟨s⟩, ⟨t⟩ (heb ei hanadlu) ac ⟨w⟩ (ddynesol) yr un seiniau â'r Gymraeg. Hefyd, mae'r rhan fwyaf o'r llafariaid yn cyfateb i lafariaid (hir) y Gymraeg: ⟨a⟩, ⟨e⟩, ⟨i⟩, ⟨o⟩. Mae'r llythrennau eraill yn wahanol i'r Gymraeg ond mae seinaiu ⟨f⟩, ⟨j⟩, ⟨k⟩, ⟨p⟩, ⟨u⟩, ⟨v⟩, ⟨y⟩ a ⟨z⟩ yn debyg i'r llythrennau yn llawer o ieithoedd Ewrop.

Estynnwyd nifer y llythrennau drwy ddefnyddio priflythrennau bychain, ffurfiau rhedol, marciau diacritig a throi llythrennau wyneb i waered. Ceir sawl symbol o'r wyddor Roegaidd, er y gallai eu seiniau fod yn wahanol. Er enghraifft, llafariad yw ⟨ʋ⟩ yng Ngroeg ond cytsain sy'n perthyn yn anuniongyrchol yw hi yn yr WSR. I'r mwyafrif o'r rhain, dyfeisiwyd siapau glyffau ychydig yn wahanol ar gyer yr WSR, sef ⟨ɑ⟩, ⟨ꞵ⟩, ⟨ɣ⟩, ⟨ɛ⟩, ⟨ɸ⟩, ⟨ꭓ⟩ a ⟨ʋ⟩, a amgodiwyd yn Unicode ar wahân i'w mamlythrennau Groeg, heblaw un ohonynt, ⟨θ⟩, tra y bydd ⟨ꞵ⟩ a ⟨ꭓ⟩ Lladin a ⟨β⟩ a ⟨χ⟩ yn cael eu defnyddio.[18]

Yn aml, gall seiniau'r llythrennau Lladin addasedig gael eu tarddu o'r llythrennau gwreiddiol hynny.[19] Er enghraifft, mae llythrennau â bachyn i'r dde ar y gwaelod yn cynrychioli cytseiniad ôl-blyg; a bydd priflythren fychan yn cynrychioli cytseiniaid wfwlar fel arfer. Heblaw am y ffaith bod rhai mathau o addasu ffurf llythyren yn cyfateb yn gyffredinol i ffyrdd o addasu'r sain a gynrychiolir, nid oes ffordd arall o adnabod sain llythyren o'i siâp (fel yn Visible Speech, er enghraifft) na hyd yn oed berthynas systematig rhwng y symbolau a'u seiniau (fel yn Hangeul).

Yn ogystal â'r llythrennau eu hunain, mae amrywiaeth o symbolau eilaidd i gynorthwyo wrth drawsgrifio. Gellir cyfuno marciau diacritig â llythrennau'r WSR er mwyn trawsgrifio gwerthoedd seinegol addasedig neu gynaniadau eilaidd. Hefyd, ceir symbolau i'w defyddio am nodweddion uwchsegmentol megis pwyslais a thôn.

Cromfachau ac amffinyddion trawsgrifio

Dau brif fath o gromfachau sy'n cael eu defnyddio i amffinio trawsgrifiadau yn yr WSR:

SymbolDefnydd
[ ... ]Defnyddir cromfachau sgwâr mewn nodiant seinegol, naill ai'n fras neu'n fanwl[20] – hynny yw, am ynganiad go iawn, gan gynnwys o bosib fanylion yr ynganiad na chânt eu defnyddio i wahaniaethu rhwng geiriau yn yr iaith a drawsgrifir, ond y mae'r awdur am eu nodi. Nodiant seinegol fel hyn yw prif swyddogaeth yr WSR.
/ ... /Defnyddir slaesau am nodiant ffonemig haniaethol,[20] felly dim ond nodweddion nodedig yr iaith sy'n caul eu cynnwys hen unrhyw fanylder. Er enghraifft, er bod seiniau'r /n/ yn y geiriau Cymraeg gwrando a ganddo yn cael eu hynganu ychydig yn wahanol, nid yw'r gwahaniaeth yn ystyrlon yn y Gymraeg. Felly yn seinegol, /ˈɡwrandɔ/ a /ˈɡanðɔ/ yw'r geiriau, â'r un ffonem /n/. Er hynny, er mwyn dangos y gwahaniaeth rhwng y ddwy (sef, aloffonau /n/), gellir eu trawsgrifio yn ffonemig yn [ˈɡwrandɔ] a [ˈɡan̪ðɔ]i ddangos mai dwy ffôn wahanol yw /n/.

Gwelir confensiynau eraill yn llai aml:

SymbolDefnydd
{ ... }Defnyddir cyplyswyr am nodiadnt prosodig.[21] Gellir gweld enghreifftiau o hyn yn estyniadau'r Wyddor Seinegol Ryngwladol.
( ... )Defnyddir cromfachau am lefariad aneglur[20] neu anhysbys. Fe'u gwelir hefyd am gynaniad distaw (gwefuso),[22] lle y ceir y trawsgrifiad seinegol drwy ddarllen y gwefusau a chydag atalnodau llawn i ddangos seibiau distaw, er enghraifft, (…) neu (2 eiliad). Mae'r ail arfer hwn yn swyddogol yn yr estyniadau lle y rhoddir cylch o gwmpas segmentau anhysbys.[23]
⸨ ... ⸩Dynodau cromfachau dwbl sain anhysbys,[21] megis ⸨2σ⸩, sef dwy sillaf glywadwy sy'n aneglur oherwydd sain arall. Mae'r estyniadau yn defnyddio cromfachau dwbl am sŵn arall (fel curo drws), ond dywed llawlyfr yr WSR yn fod y ddau arfer hwn yr un peth.[24]

Rhoddir y tri uchod yn llawlyfr y Gymdeithas, ond ni cheir y canlynol. Er hynny, gellir eu gweld mewn trawsgrifiadau â'r WSR neu ddeuddiau cysylltiedig (yn enwedig y cromfachau onglog):

SymbolDefnydd
⟦ ... ⟧Defnyddir cromfachau sgwâr dwbl am drawgrifiadau manwl gywir iawn. Mae hyn yn cyd-fynd ag arfer yr WSR o ddyblu symbol er mwyn dangos graddau mwy. Gall cromfachau dwbl ddynodi mai ei gwerth cysefin yn yr WSR sydd gan lythyren, er enghraifft, llafariad flaen agored yw ⟦a⟧, yn hytrach na gwerth sydd efallai ychydig yn wahanol (megis canol agored) sy'n cael ei ddefnyddio mewn rhyw iaith benodol. Felly, er mai ⟨[e]⟩ ac ⟨[ɛ]⟩ a gaiff eu defnyddio er mwyn hwyluso darllen, gellir eglurhau mai ⟦e̝⟧ and ⟦e⟧ ydynt, neu ⟦ð̠̞ˠ⟧ ar gyfer ⟨[ð]⟩.[25] Defnyddir cromfachau dwbl hefyd am docyn neu siaradwr arbennig, er enghraifft, ynganiad plentyn mewn cyferbyniad ag ynganiad targed oedolyn.[26]
⫽ ... ⫽
| ... |
‖ ... ‖
{ ... }
Defnyddir slaesau dwbl am drawsgrifio morffoffonemig. Mae hyn yn gyson ag arfer yr WSR o ddyblu symbol i ddangos graddau mwy, yn yr achos hwn, i ddangos trawsgrifiad mwy haniaethol nag un ffonemig. Gwelir symbolau eraill am drawgrifiadau morffoffonemig hefyd megis pibellau a phibellau dwbl (fel sydd mewn nodiant seinegol Americanyddol) a chyplyswyr (o theori setiau, yn enwdig wrth amgylchynu set o ffonemau, er enghraifft {t d} neu {t|d}), ond mae pob un o'r rhain yn tynnu'n groes i sut mae'r WSR yn dangos prosodi.[27]
⟨ ... ⟩⟪ ... ⟫Defnyddir bachau[note 4] onglog i nodi orthograffeg mewn ysgrifen Ladin a thrawsgrifiad o ysgrifen arall. Defnyddir y nodiant hwn i ddynodi graffem unigol o unrhyw ysgrifen.[28][29] O fewn yr WSR, fe'u defnyddir i ddangos bod y llythrennau yn eu dynodi nhw eu hunain ac nid gwerthoedd y seiniau sydd ganddynt. Er enghraifft, ⟨cŵn⟩ yw orthograffeg y gair Cymraeg cŵn, mewn cyferbyniad â'i ynganiad /kuːn/. Llythrennau italig sy'n arferol pan fydd geiriau yn cael eu hysgrifennu fel nhw eu hunain (gweler cŵn uchod) yn hytrach nag er mwyn dangos eu sillafiad yn benodol. Ni all darllenwyr â nam ar eu gollwg sy'n defnyddio technoleg darllen sgriniau weld marcio italig yn dda. O bryd o gilydd, gall fod yn ddefnyddio gwahaniaethu rhwng orthograffeg wreiddiol a thrawsgrifiad drwy ddefnyddio bachau onglog dwbl.

Ffurfiau rhedol

Enghraifft o destun wedi'i argraffu a llythrennau'r WSR wedi'u hysgrifennu â llaw. sɨk a sɔ̄k yw'r ddau air ar ddechrau'r llinell gyntaf. Mae gan yr ɔ ffurf redol sydd yn debyg i 2 neu fersiwn fach o'r briflythyren Q mewn rhai mathau o llawysgrifen redol.

Mae gan lythrennau'r WSR ffurfiau rhedol i'w defnyddio mewn llawysgrifau ac wrth ysgrifennau nodiadau maes, ond mae llawlyfr y Gymdeithas Seinegol Ryngwladol o 1999 yn argymell peidio â'u defnyddio gan fod yr WSR redol yn "anos i'r rhan fwyaf o bobl ei dehongli".[30]

Mewn Braille

Gwelwyd sawl addasiad o'r wyddor mewn Braille. Cyhoeddwyr yr un diweddaraf yn 2008 ac fe'i derbynir yn helaeth er 2011. Nid yw'n cynnwys pob symbol am donau.

Y llythyren g

Mae amrywiadau typograffig yn cynnwys g "ddwylawr" ac "unllawr".

Yng nghyfnod cynnar yr wyddor, roedd amrywiadau gwahnol g, ⟨ɡ⟩ â chynffon agored ( ) ac ⟨g⟩ â chynffon ddolennog ( ), yn cyrychioli gwerthoedd gwahanol, ond erbyn hyn fe'u hystyrir i fod yr un. Mae ⟨ɡ⟩ agored yn cyrychioli ffrwydrolyn felar leisiol erioed, tra bo ddolennog yn wahanol i ⟨ɡ⟩ drwy gynrychioli ffrithiolyn felar leisiol rhwng 1895 ac 1900.[31][32] Yn nes ymlaen, ⟨ǥ⟩ oedd yn cyrychioli'r ffrithiolyn tan 1931 pan ddisodlwyd hi gan ⟨ɣ⟩.[33]

Yn 1948, cydnabu Cyngor y Gymdeithas a ⟨ ⟩ yn arywiadau typograffig cyfwerth[34] a ailadroddwyd y penderfyniad hwn yn 1993.[35] Er bod Egwyddorion y Gymdeithas Seinegol Ryngwladol yn argymell ⟨ ⟩ am ffrwydrolyn felar a ⟨ɡ⟩ am un wedi'i blaenu pan oedd yn well gwahaniaethu rhwng y ddwy, megis yn Rwseg,[36] ni chydiodd yr egwyddor.[37] Cefnodd Llawlyfr y Gymdeithas Seinegol Ryngwladol ar yr argymhelliad hwn a chydnabod mai amrywiadau dilys oedd y ddau siâp.[38]

Newid siart yr WSR

Bydd awduron gwerslyfrau neu gyhoeddiadau tebyg yn aml yn creu fersiynau diwygiedig o siart yr WSR er mwyn gweddu i'w hoffterau neu eu hanghenion. Dengys y ddelwedd hon un fersiwn Saesneg o hyn. Dim ond y symbolau du sydd yn rhan o'r WSR; mae symbolau cyffredin ychwanegol yn llwyd.

O bryd i'w gilydd, bydd yr Wyddor Seinegol Ryngwladol yn cael ei newid gan y Gymdeithas. Ar ôl pob newid, mae'r Gymdeithas yn darparu cyflwyniad o'r wyddor wedi'i ddiweddaru a'i symleiddio ar ffurf siart. Ni ellir dangos pob manylyn o'r wyddor ar siart o'r maint a gyhoeddir gan y Gymdeithas. Er enghraifft, nid yw'r cytseiniaid gorfan-daflodol ac epiglotig ar siart y cytseiniaid ohwerydd diffyg lle yn hytrach na rhesymau damcaniaethol (byddai'n rhaid ychwanegu dwy golofn ychwanegol, y naill rhwng y colofnau ôl-blyg a thaflodol a'r llall rhwng y colofnau ffaryngeal a glotal), a byddai angen rhes gyfan yn ychwaneg am y fflap ochrol, felly fe'u rhestrir mewn bloc dan yr enw cyffredinol "symbolau eraill".[39] Byddai cofnodi pob llythyren donyddol bosibl yn eu cyfanrwydd yn hollol anymarferol, hyd yn oed ar ddalen fwy, felly dim ond rhai enghreifftiau a roddir.

Er mwyn newid yr wyddor neu'r siart, rhaid cynnig y newid yng nghyfnodolyn y Journal of the IPA (gweler enghreifftiau Awst 2008 ynglŷn â llafariad anghrwn ganol agored ac Awst 2011 ynghylch dynesolion canol).[40] Gellir wedyn argraffu ymatebion i'r cynnig yn un rhifyn y cyfnodolyn neu rai canlynol (megis ym mis Awst 2009 ar y llafariad ganol isel).[41] Yna, rhoddir cynnig ffurfiol gerbron Cyngor y Gymdeithas Seinegol Ryngwladol[42], sydd yn cael ei ethol gan yr aelodau[43], er mwyn ei drafod ymhellach ac am bleidlais.[44][45]

Dim ond newidiadau i'r wydddor neu'r siart a gymeradwywyd gan y Cynor a ysytyrir yn rhan o'r WSR swyddogol. Serch hynny, bydd llawer o ddefnyddwyr yr wyddor, gan gynnwys arweinwyr y Gymdeithas ei hun, yn gwyro yn eu defnydd o'r gyfundrefn swyddogol.[46]

Defnydd

Er bod yr wyddor yn cynnig dros 160 o symbolau, dim ond nifer bach sydd yn cael eu defnyddio i drawsgrifio iaith benodol mewn graddau gwahanol o fanylder. Gall trawsgrifiad seinegol amrywio yn ei fanyler o fod yn fanwl gywir i fod yn eithaf bras, a'r ddau a roddir mewn cromfachau sgwâr.[47] Efallai y caiff trawsgrifiadau bras eu cyfyngu i'r manylion a glywir yn rhwydd neu i'r manylion sy'n berthnasol ar y pryd, a gallant fod yn debyg iawn i drawsgrifiadau ffonemig, ond nid ydynt yn gwneud honiadau damcaniaethol bod pob manylyn a drawsgrifir yn ystyrlon yn yr iaith. Er enghraifft, gellir trawsgrifio

Ceir graddfa lle mae trawsgrifiad tra chywir ar y naill ben a thrawsgrifiad sydd yn anwybyddu llawer iawn o fanylion ar y llall. Bydd trawsgrifiadau seinegol llai manwl yn dangos y manylion sydd yn hawdd eu clywed, neu sydd yn berthnasol i'r drafodaeth, ac efallai na fyddant yn wahanol iawn i drawsgrifiadau ffonemig. Er hynny, nid ydynt yn honni bod y gwahaniaethau a drawsgrifir yn angenrheidiol o ystyrlon yn yr iaith. Er enghraifft, gellir trawsgrifio'r gair Cymraeg dôl yn [doːl] i ddisgrifio sawl ynganiad. Byddai trawsgrifiad mwy manwl wedyn yn canolbwyntio ar fanylion unigol neu dafodieithiol, megis [d̪̥oːlˠ] yng ngogledd-ddwyrain Cymru, [d̪̥ɔːlˠ] yn y gogledd-orllewin o'r gogledd-orllewin neu [doːᵊl] mewn rhannau o'r de.

Trawsgrifiadau ffonetig o'r gair international mewn dwy dafodiaith Saesneg

Arferir rhoi trawsgrifiadau ffonemig, sy'n dangos seiniau cysyniadol sy'n cyfateb i seiniau llafar, mewn slaesau (/ /) ac maent yn tueddu i ddefnyddio llythrennau symlach â llai o farciau diacritig. Gall dewis y llythrennau adlewyrchu honiadau damcaniaethol ar sut mae siaradwyr yn cysyniadu seiniau fel ffonemau neu gallant fod yn fwy cyfleus wrth eu teiposod. Nid oes gan lythrennau rhwng slaesau werthoedd seiniol absoliwt. Er enghraifft, yn Gymraeg, gellid trawsgifrio naill ai llafariad pìn neu lafariad pin ag/i/, so that pick, peak would be transcribed as/ˈpin, ˈpiːn/ neu'n /ˈpɪn, ˈpin/ac nid yw'r naill na'r llall union yr un peth â llafariad pin Rwmaneg, a fyddai'n cael ei drawsgrifio'n/pin/. Mewn cyferbyniad, byddai trawsgrifiad seinegol manwl o pìn, pin y Gymraeg a pin Rwmaneg fel a ganlyn: [pʰɪn],[pʰiːn],[pin].

Ieithyddion

IPA is popular for transcription by linguists. Some American linguists, however, use a mix of IPA with Americanist phonetic notation or use some nonstandard symbols for various reasons. Authors who employ such nonstandard use are encouraged to include a chart or other explanation of their choices, which is good practice in general, as linguists differ in their understanding of the exact meaning of IPA symbols and common conventions change over time.

Mae'r WSR boblogaidd ymhlith ieithyddion er mwyn trawsgrifio. Er hynny, mae rhai o ieithyddion America yn defnyddio cymysgedd o nodiant seinegol Americanyddol ac mae rhai yn defnyddio symbolau ansafonol oherwydd gwahanol resymau.[48] Anogir awduron sy'n defnyddio nodiant ansafonol i gynnwys siart neu esboniad arall o'u dewisiadau, sydd yn arfer da yn gyffredinol, gan fod ieithyddion yn wahanol yn y ffordd y maent yn deall union ystyr symbolau'r WSR a bod arferion cyffredin yn newid dros amser.

Geiriaduron

Defnyddir yr Wyddor Seiniegol Ryngwladol yng ngeiriaduron rhai ieithoedd, er enghraifft, mae llawer o eiriaduron Saesneg, gan gynnwys Geiriadur Saesneg Rhydychen a rhai geiriaduron i ddysgwyr megis geiriaduron Oxford Advanced Learner's Dictionary a Cambridge Advanced Learner's Dictionary, bellach yn defnyddio'r WSR i ddangos ynganiad geiriau.[49] Serch hynny, mae'r mwyafrif o eiriaduron Saesneg America a rhai o Brydain yn defnyddio un o nifer o systemau ailsillafu ynganu, sydd i fod yn haws i ddarllenwyr y Saesneg. Er enghraifft, mae'r system ailsillafu mewn llawer o gyfrolau Americanaidd, fel un Merriam-Webster yn defnyddio ⟨y⟩ am [j] a ⟨sh⟩ am [ʃ] yr WSR, sy'n adlewyrchu'r ffordd y mae'r seiniau yn cael eu hysgrifennu yn Saesneg yn aml,[50] gan defnyddio llythrennau'r wyddor Ladin yn unig ac amrywiadau arnynt. (Yn yr Wyddor Seinegol Ryngwladol, mae [y] yn cynrychioli sain ⟨u⟩ Llydaweg neu'r Ffrangeg tra bo [sh] yn cynrychioli y pâr o seiniau yn y gair croesholi.

Er hynny, nid oes defnydd o'r WSR yng ngeiriaduron rhai ieithoedd eraill fel arfer. Nid yw geiriaduron uniaith ieithoedd ag orgraff ffonemig yn trafferthu i gynnwys yr wyddor i ddangos ynganiad y rhan fwyaf o eiriau ond yn fwy tueddol o ddefnyddio system ailsillfu ar gyfer geiriau ag ynganiadau annisgwyl. Prin y bydd yr WSR mewn geiriaduron a gynhyrchir yn Israel ac weithiau byddant yn defnyddio'r wyddor Hebraeg i trawsgrifio geiriau estron.[51] O ran y Rwseg, caiff yr wyddor ei defnyddio mewn geiriaduron dwyieithog sy'n cyfieithu o iaith arall i Rwseg ond nid mewn geiriaduron uniaith Rwseg, sydd weithiau yn defnyddio ailsillafu ynganu am eiriau estron.[52] Mae'r WSR yn fwy cyffredin mewn geiriaduron dwyieithoeg ond ceir eithriadau. Bydd geiriaduron masgynnyrch Tsieceg, er enghraifft, yn tueddu i ddefnyddio'r WSR ar gyfer dim ond seiniau nad ydynt yn yr iaith.[53]

Nid yw geiriaduron Cymraeg yn defnyddio'r WSR yng nghorff y geiriadur fel arfer. Mae Geiriadur yr Academi yn cynnwys trawsgrifiadau seinegol sy'n defnyddio'r WSR yn adran Orthography and pronunciation y mynegai fel canllaw i ynganu geiriau, er bod ambell wall orgraffyddol, megis ⟨X⟩ am ⟨χ⟩, ⟨ṛ⟩ am ⟨r̥⟩, ⟨I⟩ am ⟨ɪ⟩, ⟨:⟩ am ⟨ː⟩, neu hyd yn oed seinegol, megis ⟨[I:]⟩, sef [ɪː], am [iː] ac [u] am[ʊ].[54] Mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn defnyddio un symbol o'r WSR, sef ⟨ə⟩, y llafariad canol canolog, er mwyn dangos mai dyna ynganiad ⟨y⟩, fel arfer pan nad yw'r orgraff yn dangos hyn, megis "nyrs (yə)",[55] ond weithiau hyd yn oed pan fydd yr orgraff yn gwbl eglur, er enghraifft, "rỳg (ə)".[56]

Dysgu ieithoedd

Mae rhai o gyrsiau dysgu iaith yn defnyddio'r WSR i ddysgu ynganu. Er enghraifft, yn Rwsia (ac yn yr Undeb Sofietaidd gynt) ac ar dir mawr Tsieina, mae llyfrau cyrsiau i blant[57] ac oedolion[58] sy'n astudio Saesneg a Ffrangeg yn defnyddio'r wyddor yn gyson. Mae athrawon a chwrslyfrau Saesneg yn Nhaiwan yn tueddu i ddefnyddio system Kenyon a Knott, amrywiad typograffyddol sydd ychydig yn wahanol i'r WSR.

Orgraffau safonol ac amrywiadau prifylythrennol

Mae llythrennau o'r WSR wedi cael eu hymgorffori yn gwyddorau gwahanol ieithoedd y byd, yn enwedig trwy Wyddor Affrica mewn llawer o ieithoedd Is-Saraha megis Hausa, Fula, Akan, ieithoedd Gbe, ieithoedd Manding, Lingala ac ati. Mae hyn wedi golygu bod angen priflythrennau. Er enghraifft, yn Kabiyè, iaith yng ngogledd Togo, mae Ɖ ɖ, Ŋ ŋ, Ɣ ɣ, Ɔ ɔ, Ɛ ɛ, Ʋ ʋ. Ceir llythrennau fel y rhain yn safon Unicode ond maent yn ymddangos mewn amrediadau Lladin y tu allan i estyniadau'r Wyddor Seinegol Ryngwladol.

Er hyn, yn yr WSR ei hun, dim ond llythrennau bach sy'n cael eu defnyddio. Nododd argraffiad 1949 llawlyfr yr WSR y gall rhagddodi'r seren ⟨*⟩ i ddangos mai enw priod yw gair[59] ond ni chynhwyswyd ar arfer hwn yn argraffiad 1999.

Canu clasurol

Mae cantorion clasurol yn defnyddio'r WSR yn eang wrth baratoi gan fod disgwyl iddynt ganu mewn nifer o ieithoedd gwahanol. Fe'u dysgir gan hyfforddwyr llais i berffeithio eu hynganiad ac i wella ansawdd a thiwniad tôn.[60] Mae gan libretos opera drawsgrifiadau awdurdodol yn yr WSR, fel cyfrolau Nico Castel[61] a llyfr Timothy Cheek, Singing in Czech.[62] Roedd gallu cantorion opera i ddarllen yr wyddor yn cael ei ddefnyddio ar wefan y Visual Thesaurus, a oedd yn defnyddio sawl canwr neu cantores opera "i wneud recordiadau am y 150,000 o eiriau ac ymadroddion yng nghronfa ddata VT ... oherwydd eu stamina lleisiol, eu sylw i fanylion ynganu, ac yn bennaf oll, eu gwybodaeth o'r WSR".[63]

Rhifau'r WSR

Mae gan bob nod, llythyren a marc diacritig rif er mwyn atal rhag drysu rhwng nodau tebyg, megis ɵ a θ, ɤ a ɣ neu ʃ a ʄ, mewn sefyllfaoedd fel argraffu llawysgrifau. Rhoddir amrediadau gwahanol o rifau i gategorïau'r seiniau.[64]

Llythrennau

Mae'r Gymdeithas Seinegol Ryngwladol yn trefnu llythrennau'r WSR yn ôl tri chatgori: cytseiniaid ysgyfeiniol, cytseiniaid anysgyfeiniol a llafariaid.[65][66]

Trefnir y cytseiniaid ysgyfeiniol ar eu pennau eu hun neu mewn parau o seiniau di-lais a lleisiol, sydd wedyn yn cael eu grwpio mewn colofnau o seiniau blaen (dwywefusol) ar y chwith hyd at y seiniau ôl (glotal) ar y dde. Yng nghyhoeddiadau swyddodol y Gymdeithais, hepgorir dwy golofn i arbed lle, gyda'r llythrennau dan restr o'r enw "symbolau eraill",[67] a'r cytseiniaid eraill mewn rhesi o gaead llwyr (ffrwydrolion a thrwynolion), at gaead byr (triliau a thapiau), at gaead rhannol (ffritholion) a'r caead lleiaf (dynesolion), eto heb un rhes er mwyn arbed lle. Yn y tabl isod, gwelir trefniant ychydig yn wahanol, sef bod pob cystain ysgyfeiniol yn nhabl y cytseiniaid ysgyfeiniol, a'r triliau, y tapiau a'r cysteiniaid ochrol ar wahân fel bod y rhesi yn dilyn llwybr cyffredin meddaliad cytseiniad (gweler treiglad meddal y Gymraeg), yn ogystal â'r ffaith mai ffrithiolyn a dynesolyn yw sawl llythyren. Gellir creu affrithiolion drwy roi ffrwydrolion a ffritholion o gelloedd cyfagos at ei gilydd. Mae celloedd tywyll yn cynrychioli ynganiadau y bernir eu bod yn amhosibl.

Ceir llythrennau'r llafariaid mewn parau o seniau anghrwn a chrwn a threfnir y parau hyn o'r rhai blaen ar y chwith hyd at y rhai ôl ar y dde, ac o'r caead mwyaf ar y brig at y caead lleiaf ar y gwaelod. Ni hepgorir llythrennau'r llafariaid o'r siart, er, yn y gorffennol, rhestrwyd rhai o'r llafariaid canol canolog ymhlith y "symbolau eraill".

Cytseiniaid

Cytseiniaid ysgyfeiniol

Cyngenir cytsain ysgyfeiniol drwy rwystro'r glotis (y gwagle rhwng tannau'r llais) neu geudod y geg a gadael yr aer allan o'r ysgyfaint naill ai wedyn neu ar yr un pryd. Y mwyafrif o gytseiniaid yr WSR yw rhai ysgyfeiniol, yn ogystal â'r mwyafrif yn ieithoedd y byd. Mae pob un o gysteiniaid y Gymraeg yn ysgyfeiniol.

Yn y tabl hwn, ceir rhesi sy'n dangos y dull ynganu, sef sut y mae'r gytsain yn cael ei hynganu, a cholofnau sy'n dangos y man ynganu, sef ble y mae'r gytsain yn cael ei hynganu. Dim ond cytseiniaid ag un man ynganu sydd yma.

Man ynganu →GwefusolCoronolDorsalBreuannol
Dull ynganu ↓DwywefusolGwefus-ddeintiolTafod-wefusolDeintiolGorfannolÔl-orfannolÔl-blygTaflodolFelarWfwlarFfaryngeal / epiglotigGlotal
Trwynolynm̥ m   ɱn̥ nɳ̊ ɳɲ̊ ɲŋ̊ ŋ   ɴ
Ffrwydrolynp bp̪ b̪t̼ d̼t dʈ ɖc ɟk ɡq ɢʡʔ
Ffrithiolyn sisiols̪ z̪s zʃ ʒʂ ʐɕ ʑ
Ffrithiolyn ansisiolɸ βf vθ̼ ð̼θ ðθ̠ ð̠ɹ̠̊˔ ɹ̠˔ɻ̊˔ ɻ˔ç ʝx ɣχ ʁħ ʕh ɦ
Dynesolyn   ʋ   ɹ   ɻ   j   ɰ     ʔ̞
Tap/Fflap   ⱱ̟   ⱱ   ɾ̼ɾ̥ ɾɽ̊ ɽ   ɢ̆   ʡ̆
Trilʙ̥ ʙr̥ rɽ̊r̥ ɽrʀ̥ ʀʜ ʢ
Ffrithiolyn ochrolɬ ɮɭ̊˔ ɭ˔ʎ̝̊ ʎ̝ʟ̝̊ ʟ̝
Dynesolyn ochrol   l   ɭ   ʎ   ʟ   ʟ̠
Fflap/tap ochrol ɺ̥ ɺɭ̥̆ ɭ̆   ʎ̆   ʟ̆

Nodiadau

  • Yn y rhesi lle mae pâr o lythrennau, lleisiol yw'r gytsain ar y dde (heblaw [ɦ]â lleisio anadlol).[68] Yn y rhesi eraill, mae'r llythyren unigol yn cynrychioli cytsain leisiol.
  • Er bod yr WSR yn darparu llythyren unigol am y mannau ynganu coronol (am bob gytsain ond y ffritholion), nid yw'n rhaid defnyddio pob un yn union gywir. Mewn iaith bendol, gellir trin y llythrennau fel rhai deintiol, gorfannol neu ôl-orfannol mewn ffordd sy'n addas ar gyfer yr iaith honno heb farciau diacritig.
  • Er bod bod yr WSR yn darparu llythryren unigol i'r mannau ynganu coronol (i bob cytsain ond y ffritholion), nid yw'n rhaid eu defnyddio'n union fel y maent. Wrth drafod iaith penodol, gellir trin y llythrennau yn rhai deintiol, gorfannol neu ôl-orfannol fel y bo'n briodol i'r iaith honno heb farciau diacritig.
  • Dynoda’r meysydd tywyll gynaniadau y bernir eu bod yn amhosibl.
  • Cynrychiola'r llythrennau [ʁ, ʕ, ʢ] naill ai ffritholion neu ddynesolion lleisiol.
  • Mewn llawer o ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg, nid yw[h] ac [ɦ] yn lotol, yn ffritholion nac yn ddynesolion, ond yn llefariad yn unig.[69]
  • Siâp y tafod yn bennaf yn hytrach na'i leoliad sy'n hynodi'r ffritholion ʒ], ʑ] a ʐ].
  • Diffinnir [ʜ, ʢ] fel ffritholion epiglotig dan adran y "Symbolau eraill" yn siart swyddogol yr WSR, ond gellir eu trin fel triliau yn yr un man ynganu â [ħ, ʕ]gan fod trilio'r plygion aryepiglotig yn dueddol o ddigwydd ar yr un pryd.[70]
  • Ni wyddys bod rhai o'r ffonau a restir yn bodoli fel ffonemau mewn unrhyw iaith.

Cytseiniaid anysgyfeiniol

Seiniau heb lif aer sy'n dibynnu ar yr ysgyfaint yw cytseiniaid anysgyfeiniol. Maent yn cynnwys cliciau (a geir yn yr ieithoedd Khoisan a rhai ieithoedd Bantu cyfagos yn Affrica), mewnffrwydrolion (mewn ieithoedd fel Sindhi, Hawsa, Swahili a Fietnameg) ac alldafliadolion (mewn ieithoedd brodorol yr Amerig a'r Cawcasws).

CliciauMewnffrwydrolion lleisiolAlldafliadolion
ʘDwywefusolɓDwywefusolʼenghreifftiau:
ǀDeintiolɗDeintiol/gorfannolDwywefusol
ǃÔl-orfannolʄTaflodolDeintiol/gorfannol
ǂTaflod-orfannolɠFelarFelar
ǁGorfan-ochrolʛWfwlarFfrithiol gorfannol

Llafariaid

BlaenCanolÔl
Caeedigiyɨʉɯu
ɪʏʊ
Hanner-caeedigeøɘɵɤo
ə
Hanner-agoredɛœɜɞʌɔ
æɐ
Agoredaɶɑɒ
  • Lle y ceir pâr o symbolau, cynrychiola'r un ar y dde lafariad gron.

Symbolau eraill

ʍFfrithiolyn gwefus-felar di-lais
wDynesolyn gwefus-felar lleisiol
ɥDynesolyn gwefus-daflodol lleisiol
ʜFfrithiolyn epiglotig di-lais
ʢFfrithiolyn epiglotig lleisiol
ʡFfwydrolyn epiglotig
ɕ ʑFfrithiolion gorfan-daflodol (di-lais/lleisiol)
ɺFflap gorfan-ochrol lleisiol
ɧʃ a x cydamserol

Uwchsegmentolion

ˈPrif bwyslais
ˌPwyslais eilaidd
ːHir
ˑHanner-hir
˘Byr iawn
.Ffin ryngsillafol
Grŵp (corfan) bychan
Grŵp (goslef) mawr
Cysylltu (heb ffin)

Tonau ac acenion geiriau

LefelSymudol
e̋ neu ˥Uchel iawněCodi
é neu ˦UchelêGostwng
ē neu ˧Canolige᷄Uchel ac yn codi
è neu ˨Isele᷅Isel ac yn codi
ȅ neu ˩Isel iawne᷈Codi-gostwng
Cam i lawrCodi dros y cyfan
Cam i fynyGostwng dros y cyfan

Acenion

n̥ d̥Di-laisb̤ a̤Llais anadlolt̪ d̪Deintiol
s̬ t̬Lleisiolb̰ a̰Llais creclydt̺ d̺Blaendafodol
tʰ dʰWedi'i anadlut̼ d̼Tafod-wefusolt̻ d̻Llafinol
ɔ̹Mwy crwntʷ dʷWedi'i wefusoliWedi'i drwynoli
ɔ̜Llai crwntʲ dʲWedi'i daflodolidⁿRhyddhad trwynol
Wedi'i flaenutˠ dˠWedi'i felareiddioRhyddhad ochrol
Wedi'i ddatynnutˁ dˁWedi'i ffangyngealeiddioHeb ryddhad clywedol
ëCanoledigWedi'i felareiddio neu'i ffaryngealeidddio
Canoledig-ganologWedi'i godi
ɹ̩SillafogWedi'i ostwng
AnsillafogGwraidd y tafod wedi'i flaenu
ə˞RhotigGwraidd y tafod wedi'i ddatynnu
  • Gosodir rhai marciau diacritig uwchben symbolau â cynffon, er enghraifft, ⟨ŋ̊⟩.

Orgraffau safonol a phriflythrennau

Mae llythrennau'r WSR wedi cael eu hymgorffori i mewn i wyddorau sawl iaith, yn enwedig trwy Wyddor Affrica yn nifer o ieithoedd yr Is-Sahara fel Hawsa, Ffwla, Akan, ieithoedd Gbe, ieithoedd Manding, Lingala ac yn y blaen. Mae hyn wedi arwain at angen creu priflythrennau cyfatebol, er enghraifft, mae gan Kabiye yng ngogledd Togo y llythrennau Ɖ ɖ, Ŋ ŋ, Ɣ ɣ, Ɔ ɔ, Ɛ ɛ, Ʋ ʋ. Cefnogir y rhain gan Unicode ond maent yn ymddangos mewn adrannau eraill ar wahân i estyniadau'r WSR.

Yn yr WSR ei hun, er hynny, dim ond llythrennau bach a ddefnyddir. Nodai argraffiad 1949 llawlyfr yr WSA fod modd ysgrifennu seren ⟨*⟩ o flaen gair i ddangos mai enw priod ydyw[71] ond nid yw'r arfer hwn wedi ei gynnwys mewn argraffiadau diweddarach.

Canu clasurol

Gwelir defnydd helaeth o'r WSR ymhlith cantorion clasurol wrth baratoi, yn enwedig ymysg cantorion Saesneg eu hiaith y disgwylir iddynt ganu mewn sawl iaith dramor. Ceir trawsgrifiadau awdurdodol o libreti opera yn yr WSR, megis cyfrolau Nico Castel[72] a llyfr Singing in Czech Timothy Cheek.[73] Defnyddiwyd gallu cantorion opera i ddarllen yr WSR gan wefan Visual Thesaurus, a gyflogodd sawl canwr neu gantores opera "i wneud recordiadau ar gyfer y 150,000 o eiriau ac ymadroddion yng nghronfa ddata eirfaol VT. ...am stamina eu lleisiau, eu sylw i fanylion ynganu ac yn bennaf oll eu gwybodaeth o'r WSR."[74]

Priflythrennau

Ni ddefnyddir priflythrennau llawn yn yr WSR. Er hynny, cânt eu denfnyddio am archffonemau ac am ddosbarthiadau naturiol fffonemau, hynny yw, fel cardiau gwyllt. Nid yw'r fath ddefnydd yn rhan o'r WSR nac wedi ei safoni, a gallai fod yn amwys gan ddibynnu ar yr awdur; er hynny, fe'i defnyddir ar y cyd â'r WSA. (Mae siart yr WSA Estynedig, er enghraifft, yn defnyddio ambell gerdyn gwyllt yn ei henghreifftiau.) Rhan sylfaenol o'r Symbolau Ansawdd Llais yw priflythrennau hefyd, a ddefnyddir o bryd i'w gilydd gyda'r WSR.

Mewn llenyddiaeth Saesneg, gwelir C am {gytsain} a V am {llafariad} ym mhobman fel cardiau gwyllt. Yn ogystal â'r rhain gwelir y priflythrennau cyffredin eraill canlynol hefyd.

SymbolYstyr
#{glic}
A{lafariad isel}
B{sain wefusol}
D{ffrwydolyn lleisiol} neu {sain orfannol}
F{sain ffrithiol}
G{lithriad} neu {lled-lafariad/sain dawdd}
H{sain lotol}
J neu Ɉ{sain ôl-orfannol} neu {sain daflodol}
L{sain dawdd} neu {sain ochrol}
K{sain felar}
N{sain drwynol}
P{sain ffrwydrol}
Q{sain dafodigol}
R{sain rotig}
S{ffrithiolen ddi-lais} neu {sain sisiol}
T{tôn} neu {ffrwydrolyn di-lais}
U{lafariad gron}
Xunrhyw beth
Z{ffrithiolen leisiol}
Φ{sain argegol}

Er enghraifft, gall siâp sillaf bosibl ym Mandarin amrywsio o V (llafariad heb dôn) hyd CVNᵀ (cytsain-llafariad-sill drwynol â thôn). Gellir addasu'r llythrennau â marciau diacritig yr WSR, er enghraifft, am {cytsain alldafliadol}, Ƈ am {cytsain fewgyrchol}, N͡C neu ᴺC am {gytsain rhagdrwynoledig}, am {llafariad drwynol}, am {gytsain sisiol leisiol}, am {gytsain drwynol ddi-lais}, P͡F neu PF am {gytsain affrithiol} a am {gytsain ddeintiol}. Mewn patholeg lleferydd, gallant gynrychioli seiniau amhenodol, ag uwchysgrif pan fo'r cynanu'n wan: sain orfannol amhenodol wan, sain felar amhenodol wan ac ati.[75]

Ceir enghreifftiau nodweddiadol o ddefnyddio priflythrennau am archffonemau wrth ysgrifennu I am y set o lafariaid harmonig {i y ɯ u} yn Nhyrceg a D am gytsain ganol drawol gyfunedig writer a rider yn Saesneg America.

Mae gan V, F a C ystyron gwahanol fel Symbolau Ansawdd Llais, pan fyddant yn sefyll am 'lais', 'ffalseto' a 'chreclyd'. Gallant dderfyn marciau diacritig sydd yn dangos y math o ansawdd llais sydd ganddynt, ac mae modd eu defnyddio i dynnu allan nodwedd uwchsegmentol sydd ar bob segment dueddol mewn gyfres o lythrennau'r WSR. Er enghraifft, gall trawsgifiad y gair yng Ngaeleg ynys Ìle am "gath", [kʷʰuˣʷt̪ʷs̟ʷ], a "chathod", [kʷʰʉˣʷt͜ʃʷ], fod yn fwy symlach drwy dynnu gwefusoli uwchsegmentol y geiriau allan: Vʷ[kʰuˣt̪s̟] a Vʷ[kʰʉˣt͜ʃ].[76]

Nodiadau

Ffynonellau

  • Emrys Evans. Termau Ieithyddiaeth. Aberystwyth. Coleg Prifysgol Cymru. 1987.
  • Bruce Griffiths a Dafydd Glyn Jones. The Welsh Academy English-Welsh Dictionary. Caerdydd. Gwasg Prifysgol Cymru. 1995.
  • Peter Wynn Thomas. Gramadeg y Gymraeg. Caerdydd. Coleg Prifysgol Cymru. 1996.

Cyfeiriadau

Cysylltiadau allanol