Dyn Vitruvius

darlun gan Leonardo da Vinci

Darlun a wnaed gan y polymath Leonardo da Vinci tua 1490 yw Dyn Vitruvius (Eidaleg: l'uomo vitruviano [ˈlwɔːmo vitruˈvjaːno]; a elwir yn wreiddiol Le proporzioni del corpo umano secondo Vitruvio (yn llythrennol: 'Cyfrannau o'r corff dynol yn ôl Vitruvius')[1]. Dilynir gan nodiadau yn seiliedig ar waith y pensaer Rhufeinig, Vitruvius. Mae'r darlun, a wnaed ag inc ar bapur, yn dangos dyn mewn dau ystum trosargraffedig gyda'i freichiau a'i goesau ar led mewn cylch a sgwâr. Mae'n cynrychioli cysyniad Leonardo o'r cyfrannau corff dynol delfrydol.

Dyn Vitruvius
Eidaleg: L'uomo vitruviano
ArlunyddLeonardo da Vinci
Blwyddyntua 1490
Maint34.6 cm × 25.5 cm ×  (13.6 in × 10.0 in)
LleoliadGallerie dell'Accademia, Fenis

Cyhoeddwyd gyntaf mewn atgynhyrchiad ym 1810. Fodd bynnag, ni chyrhaeddodd y darlun ei enwogrwydd presennol nes iddo gael ei atgynhyrchu eto ar ddiwedd y 19eg ganrif. Nid yw'n amlwg a oedd wedi dylanwadu ar arfer artistig yn adeg Leonardo neu'n hwyrach. Fe'i cedwir yn Gabinetto dei disegni e delle stampe y Gallerie dell'Accademia, yn Fenis, o dan gyfeirnod 228. Fel yn achos y mwyafrif o weithiau ar bapur, dim ond yn achlysurol y'i arddangosir i'r cyhoedd, ac nid yw'n rhan o arddangosfa arferol yr oriel.[2] [3] Yn ddiweddar, roedd y gwaith i'w weld yn yr arddangosfa o waith Leonardo yn y Louvre, Paris, rhwng 24 Hydref 2019 a 24 Chwefror 2020, fel rhan o gytundeb rhwng Ffrainc a'r Eidal. [4] [5]

Testun a theitl

Dyn Vitruvius, darlun mewn argraffiad darluniadol o De Architectura Vitruvius, gan Cesare Cesariano (1521)

Mae'r ddelwedd hon yn dangos y cymysgedd o fathemateg a chelf yn ystod y Dadeni yn ogystal â dangos dealltwriaeth ddofn Leonardo o gyfranedd. Yn ôl y testun sy'n ei ganlyn, sydd wedi ei ysgrifennu o chwith, fe'i gwnaed fel astudiaeth o gyfrannau'r corff dynol (gwrywaidd) fel y disgrifir yn De Architectura 3.1.2–3 Vitruvius. Mae'r darlun hwn yn sylfaen i Leonardo ymdrechu cysylltu dyn â natur. Credai fod teithi'r corff dynol yn gyfatebol i deithi'r bydysawd.

Er bod Leonardo yn dangos gwybodaeth eglur am Vitruvius, nid yw ei ddyluniad yn dilyn y disgrifiad o'r testun gwreiddiol. Wrth iddo lunio'r cylch a'r sgwâr mae wedi sylwi na all y sgwâr fod â'r un canol â'r cylch, [6] ac mae felly wedi'i ganoli ar y afl. Yr addasiad hwn yw'r rhan arloesol o ddyluniad Leonardo a'r hyn sydd yn ei wahaniaethu oddi wrth ddarluniau cynharach. Mae hefyd yn ymadawiad o gysyniad gwreiddiol Vitruvius gan ei fod wedi llunio'r breichiau lawer yn uwch na chopa'r pen, yn hytrach na'r ongl lawer is a awgrymodd Vitruvius, lle mae'r breichiau yn ffurfio llinellau sy'n croestorri ar y fogail.

Ysbrydoliaeth a chydweithrediad posibl

Prototeip y Dyn Vitruvius gan Giacomo Andrea

Roedd llawer o artistiad wedi ceisio dylunio lluniau a fyddai'n bodloni honiad Vitruvius y gall corff dynol ffitio mewn i sgwâr yn ogystal â chylch. Francesco di Giorgio Martini oedd y cyntaf i wneud hyn yn y 1480au.[7][8] Mae'n bosibl bod Leonardo wedi'i ddylanwadu gan waith ei ffrind Giacomo Andrea, pensaer a oedd wedi ciniawa ag ef yn 1490. Cyfieira Leonardo hefyd yn uniongyrchol at "(ddyn) Vitruvius Andrea".[8] Mae dyluniad Andrea yn cynnwys arwyddion ei fod wedi rhwbio rhywbeth allan, sydd yn awgrymu ei fod yn waith gwreiddiol.[8][9] Fel yn achos Dyn Vitruvius Leonardo, mae Andrea hefyd yn canoli ei gylch ar y fogail, ond dim ond un ystum sydd i'w weld.

Tarddiad

Prynodd Giuseppe Bossi y llun gan Gaudenzio de 'Pagave,[10] a oedd wedi ei disgrifio, ei drafod a'i ddarlunio yn flaenorol.[11] Y flwyddyn ganlynol, echdynnodd y rhan o'i fonograff sy'n ymwneud â Dyn Vitruvius a'i gyhoeddi fel Delle opinioni di Leonardo da Vinci intorno alla simmetria de 'Corpi Umani (1811), gydag ymroddiad i'w ffrind, y cerflunydd Antonio Canova. [12]

Ar ôl i Bossi farw yn 1815, prynodd y Gallerie dell'Accademia yn Fenis Dyn Vitruvius yn 1822, yn ogystal â nifer o ddyluniadau eraill Leonardo, ac mae wedi aros yno ers hynny.[13] Ar ôl i'r Louvre wneud cais i'w fenthyca ar gyfer arddangosfa o waith Leonardo yn 2019, dadleuodd sefydliad Italia Nostra fod y dyluniad yn rhy fregus i'w gludo.[14]

Cyfeiriadau