Eglwysi Catholig y Dwyrain
Cangen o eglwysi Cristnogol dwyreiniol yw eglwysi Catholig y Dwyrain sydd yn olrhain eu hanes i draddodiadau neilltuol ond sydd wedi sefydlu cymundeb â'r Eglwys Babyddol, neu'r Eglwys Ladin. Tair eglwys ar hugain ydynt a chanddynt statws arbennig wedi ei gadarnhau gan ddyfarniad Orientalium ecclesiarum (1964) yn ystod Ail Gyngor y Fatican. Maent yn cydnabod y Pab yn Rhufain yn bennaeth ar yr eglwys, ond yn cadw nifer o draddodiadau a nodweddion unigryw, parthed litwrgi, celfyddyd, a threfniadaeth.
Yn yr 21g, roedd dros 12 miliwn o Gatholigion Dwyreiniol ledled y byd.[1]
Rhestr
Arwyddlun | Enw | Blwyddyn ail-uno neu sefydlu | Categori | Defod | Sedd | Llywodraeth | Awdurdodaethau | Esgobion | Aelodau |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Eglwys Gatholig Roeg Albania | 1628 | Dwyreiniol | Bysantaidd | Vlorë, Albania | Llywodraeth apostolaidd | 1 | 1 | 3,845 | |
Eglwys Gatholig Armenia | 1742 | Y tri chyngor | Armenaidd | Beirut, Libanus | Patriarchaeth | 17 | 15 | 736,134 | |
Eglwys Gatholig Roeg Belarws | 1596 | Dwyreiniol | Bysantaidd | dim | dim | 0 | 0 | 7,000 | |
Eglwys Gatholig Roeg Bwlgaria | 1861 | Dwyreiniol | Bysantaidd | Sofia, Bwlgaria | Ecsarchaeth apostolaidd | 1 | 1 | 10,000 | |
Yr Eglwys Gatholig Galdeaidd | 1552 / 1830 | Asyriaidd | Syrieg Dwyreiniol | Baghdad, Irac | Patriarchaeth | 22 | 17 | 640,828 | |
Yr Eglwys Gatholig Goptaidd | 1741 | Y tri chyngor | Alecsandriaidd | Cairo, Yr Aifft | Patriarchaeth | 7 | 10 | 174,902 | |
Eglwys Gatholig Eritrea | 2015 | Y tri chyngor | Alecsandriaidd | Asmara, Eritrea | Archesgobaeth | 4 | 4 | 155,480 | |
Eglwys Gatholig Ethiopia | 1846 | Y tri chyngor | Alecsandriaidd | Addis Ababa, Ethiopia | Archesgobaeth | 4 | 4 | 229,547 | |
Eglwys Gatholig Fysantaidd Groeg | 1829 | Dwyreiniol | Bysantaidd | nifer | dim strwythur unedig | 2 | 1 | 6,020 | |
Eglwys Gatholig Roeg Croatia a Serbia | 1611 | Dwyreiniol | Bysantaidd | nifer | dim strwythur unedig | 3 | 4 | 58,915 | |
Eglwys Gatholig Roeg Hwngari | 1646 | Dwyreiniol | Bysantaidd | Debrecen, Hwngari | Archesgobaeth | 3 | 2 | 255,000 | |
Eglwys Gatholig Eidalaidd-Albaniaidd | 1784 (hierarchaeth annibynnol) (byth wedi gwahanu oddi ar Rufain) | Dwyreiniol | Bysantaidd | nifer | dim strwythur unedig | 3 | 2 | 61,487 | |
Eglwys Gatholig Roeg Macedonia | 2008 | Dwyreiniol | Bysantaidd | Skopje, Macedonia | Ecsarchaeth apostolaidd | 1 | 2 | 15,037 | |
Yr Eglwys Faronaidd | 4g (byth wedi gwahanu oddi ar Rufain) | Y tri chyngor | Syrieg Gorllewinol | Bkerke, Libanus | Patriarchaeth | 25 | 41 | 3,290,539 | |
Yr Eglwys Gatholig Roeg Felchaidd | 1726 (ynghynt mewn cymun deuol) | Dwyreiniol | Bysantaidd | Damascus, Syria | Patriarchaeth | 25 | 30 | 1,522,802 | |
Eglwys Gatholig Roeg Rwmania | 1697 | Dwyreiniol | Bysantaidd | Blaj, Rwmania | Archesgobaeth fawr | 6 | 8 | 160,000 | |
Eglwys Gatholig Roeg Rwsia | 1905 | Dwyreiniol | Bysantaidd | dim | dim | 2 | 0 | 3200 | |
Eglwys Gatholig Roeg Rwthenia | 1646 | Dwyreiniol | Bysantaidd | Pittsburgh, UDA | Archesgobaeth | 5 | 7 | 646,243 | |
Eglwys Gatholig Roeg Slofacia | 1646 | Dwyreiniol | Bysantaidd | Prešov, Slofacia | Archesgobaeth | 4 | 5 | 239,394 | |
Yr Eglwys Gatholig Syrieg | 1781 | Y tri chyngor | Syrieg Gorllewinol | Beirut, Libanus | Patriarchaeth | 14 | 10 | 158,818 | |
Eglwys Gatholig Syrieg Malabar | 1663 | Asyriaidd | Syrieg Dwyreiniol | Ernakulam-Angamaly, India | Archesgobaeth fawr | 32 | 58 | 4,189,349 | |
Eglwys Gatholig Syrieg Malankara | 1930 | Y tri chyngor | Syrieg Gorllewinol | Trivandrum, India | Archesgobaeth fawr | 12 | 16 | 400,553 | |
Delwedd:Brasão da Igreja Greco-Católica Ucraniana.jpg | Eglwys Gatholig Roeg Wcráin | 1595 | Dwyreiniol | Bysantaidd | Kiev, Wcráin | Archesgobaeth fawr | 31 | 44 | 4,636,958 |
Cyfeiriadau
🔥 Top keywords: XXX: Return of Xander CageHafanArbennig:SearchCarles PuigdemontWicipedia:Cysylltwch â niMarie AntoinetteXxx: State of The UnionDisturbiaDelwedd:XHamster logo.svgWicipedia:Porth y GymunedWicipedia:Ynglŷn â WicipediaFfilm llawn cyffroEagle EyeArbennig:RecentChangesKathleen Mary FerrierWicipedia:CymorthUnol Daleithiau AmericaYr Ail Ryfel BydDwylo Dros y MôrDriggThe Salton SeaWicipedia:CyflwyniadRhestr llynnoedd CymruDelwedd:XXx REACTIVADO Conferencia de Prensa.jpgWicipedia:Y CaffiCymruMichael D. JonesSimon BowerWicipedia:Gwadiad CyffredinolWikipediaSpecial:SearchYasser ArafatDefnyddiwr:Stefanik/Pwll TywodCaethwasiaethCymraegY Weithred (ffilm)Bartholomew RobertsWicipedia:CymraegCategori:Pentrefi Dyfnaint