Evan Davies (cenhadwr)
Roedd Evan Davies (1805 – 18 Mehefin 1864) yn weinidog gyda'r Annibynwyr, yn genhadwr i China ac yn awdur.[1]
Evan Davies | |
---|---|
Ganwyd | 1805 Lledrod |
Bu farw | 18 Mehefin 1864 Crug-y-bar |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cenhadwr, gweinidog yr Efengyl |
Cefndir
Ganwyd Davies yn Hengwm, plwyf Lledrod, Ceredigion yn blentyn i William ap Dafydd ap Siôn ap Lystan[2] amaethwr. Addysgwyd ef yn Ysgol Neuaddlwyd ac Academi’r Gorllewin yng Nghaerwysg[3]. Yn ystod ei blentyndod symudodd ei rieni i Lundain a magwyd Davies gan aelodau'r teulu yn ardal Lledrod.
Gyrfa
Swydd gyntaf Davies oedd fel prentis i ddilledydd. Symudodd wedyn i weithio efo'i dad yn Llundain. Fe'i derbyniwyd yn aelod o gapel Annibynwyr Y Boro yn Little Guilford Street. Ym 1827 symudodd yn ôl i Gymru i weithio ger Abertawe gan ymuno â chapel Annibynwyr Mynydd-bach, lle dechreuodd bregethu. Wedi cyfnod yn Neuaddlwyd a Chaerwysg yn paratoi am y weinidogaeth ordeiniwyd ef yn weinidog ar gapel yr Annibynwyr yn Great Torrington, Dyfnaint. Wedi ychydig flynyddoedd yn Nyfnaint fe'i hordeiniwyd i waith y genhadaeth dramor yng Nghapel Wycliffe, Llundain. Aeth i Penang, yng Nghulfor Malaca. Sefydlodd Davies ysgol breswyl ar gyfer bechgyn Tsieineaidd a'u hyfforddi yn yr iaith Saesneg yn ogystal â "chyfarwyddyd Ewropeaidd" arall.[4] Wedi pedair blynedd yn China torrodd ei iechyd a bu'n rhaid iddo ymadael a'r wlad.[5] Wedi cyrraedd yn ôl i Lundain ym 1840 penodwyd Davies yn asiant dros achos y genhadaeth i China, yn codi arian at ei waith. Ym 1842 fe'i penodwyd yn arolygydd Ysgol Genhadol y Bechgyn yn Walthamstow, ac ym 1844 symudodd i Richmond, Surrey,[6] lle bu'n gwasanaethu fel gweinidog yr eglwys Gynulleidfaol am dair blynedd ar ddeg. Ym 1857 cafodd alwad i fod yn weinidog yn Heywood, Manceinion, cyn symud i Dalston, Llundain ym 1863.
Cyhoeddiadau
Cyhoeddodd Davies nifer o lyfrau gan gynnwys:
- 1845 China and her Spiritual Claims [7]
- 1846 Memoir of the Rev. Samuel Dyer: Sixteen Years Missionary to the Chinese [8]
- An Appeal to Reason and Good Conscience of Catholics
- Rest: Lectures on the Sabbath
- 1859 Welsh Revivals
Bu hefyd yn olygydd a chyhoeddwr :
- 1846 Letters of the Rev. Samuel Dyer to his Children[9]
- 1850 Lectures on Christian Theology (Payne)
- 1862 The Works of the late Rev. Edward Williams of Rotherham
Teulu
Bu'n briod a merch o'r enw Anne gawsant o leiaf dwy ferch ac un mab.
Marwolaeth
Bu farw tra ar ymweliad a'i deulu yn Llansteffan, Sir Gaerfyrddin. Claddwyd ei weddillion ym Mynwent Abney Park yn Llundain.
Cyfeiriadau
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |