Ewinrhew
Anaf i'r croen neu feinweoedd eraill a achosir gan dymheredd isel iawn yw ewinrhew. Fel arfer diffyg teimlad yw'r symptom cyntaf. Gall hyn gael ei ddilyn gan drwsgleiddiwch a lliw gwyn neu las i'r croen. Gall fod chwyddo neu bothellu wedi iddo gael ei drin. Y dwylo, traed a'r wyneb sy'n cael eu heffeithio amlaf.[1] Gall cymhlethdodau gynnwys hypothermia neu Syndrom Parwydydd (Compartment Syndrome).
Enghraifft o'r canlynol | clefyd |
---|---|
Math | cold injury, arwydd meddygol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Pobl sy'n wynebu tymheredd oer am gyfnodau hir, fel pobl sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon gaeaf, pobl yn y lluoedd arfog, neu'r digartref, sy'n wynebu'r risg fwyaf o ddioddef o ewinrhw.[2] Mae ffactorau risg eraill yn cynnwys yfed alcohol, ysmygu, problemau iechyd meddwl, meddyginiaethau penodol, ac anafiadau blaenorol o ganlyniad i oerfel.[3] Mae'r diagnosis yn seiliedig ar symptomau.[4] Gellir rhannu difrifoldeb yr achosion yn arwynebol (gradd gyntaf neu eilradd) neu ddwfn (trydedd neu bedwaredd gradd). Gall sgan asgwrn neu MRI gynorthwyo i sefydlu hyd a lled yr anaf.
Gellir atal ewinrhew drwy osgoi tymheredd oer, gwisgo yn briodol, cynnal hydradiad a maethiad, a pharhau i symud heb flino'n llwyr.
Nid yw nifer yr achosion o ewinrhew yn hysbys.[5] Gallai cyfraddau fod mor uchel a 40% y flwyddyn ymhlith mynyddwyr. Y grwp oedran sy'n cael ei effeithio amlaf yw'r rhai sydd rhwng 30 a 50 oed. Ceir tystiolaeth o bobl yn dioddef o ewinrhew 5,000 o flynyddoedd yn ôl, ond ysgrifennwyd y disgrifiad ffurfiol cyntaf ohono yn 1814 gan Dominique Jean Larrey, meddyg ym myddin Napoleon. Yn wir, mae ewinrhew wedi bod yn ffactor bwysig mewn nifer o wrthdrawiadau milwrol.
Cyfeiriadau
Rhybudd Cyngor Meddygol
Cyngor meddygol |
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir. Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |