Ffibr optig

Ffeibr ystwyth, ysgafn a thryloyw wedi'i wneud o wydr neu blastig yw fibr optig, sydd ychydig tewach na thrwch blewyn y gwallt.Gall weithio fel canllaw i donnau optig neu i gludo golau o'r naill ben i'r llall. Gelwir y maes oddi fewn i wyddoniaeth gymhwysol a pheirianneg sy'n ymwneud â chynllunio a chymhwyso'r ffibrau hyn yn 'ffibr optig'.[1][2]

Llond llaw o ffibrau optig

Cânt eu defnyddio'n helaeth oddi fewn i'r maes 'cyfathrebu', gan fod y ffibl hwn yn caniatáu i ddata deithio heb ymyrraedd ac ar fand mwy llydan na cheblau weiren ac am bellter hirach. Oherwydd nad metel yw eu gwneuthuriaeth, ni cheir ymyriant electromagnetig. Fe'u defnyddir hefyd i oleuo, a gellir eu casglu'n fwndeli twt i gario delweddau, sy'n eu gwneud yn hynod o ddefnyddio mewn lle bychan, cyfyng. Gellir eu defnyddio hefyd fel synhwyryddion ac i gario laser.

Hanes

Drwy 'blygiant', mae golau'n cael ei lywio aer hyd y ffibr; dyma egwyddor sylfaenol ffibr optig a chafodd ei brofio am y tro cyntaf gan Daniel Colladon a Jacques Babinet ym Mharis yn y 1840au cynnar. Sgwennodd Tyndall am y darganfyddiad yn 1870.[3]

Mae blewyn di-liw, dynol, hefyd yn gweithio fel ffibr optig ac yn cario golau o'r naill ben i'r llall.[4]

Cyfeiriadau