Ffracio
.
Math | proses peirianyddol |
---|---|
Dyddiad darganfod | 1947 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r erthygl hon yn cofnodi mater cyfoes. Gall y wybodaeth sydd ynddi newid o ddydd i ddydd. |
Ffracio (neu ffracio hydrolig) yw'r dull o dorri creigiau drwy wasgu gyda hylif sy'n cynnwys dŵr, tywod a chemegolion. Ceir ffracio naturiol ar adegau, e.e. mewn daeareg ceir gwythiennau a deics.[1] Mae'r hylif yn cael ei bwmpio dan bwysau enfawr i dyllau a wnaed gan ddril mewn craig, sy'n achosi i'r graig gracio ymhell o dan wyneb y ddaear. Drwy'r craciau hyn rhyddheir nwy, petroliwm a dŵr hallt. Mae'r gronynnau tywod yn yr hylif yn dal pob hollt bychan ar agor, sy'n caniatáu i'r nwyon a'r petroliwm ddianc o'r graig, a'i sugno i fyny i'r wyneb.
Dechreuwyd arbrofi â ffracio hydrolig yn 1947, a chychwynodd y gwaith masnachol cyntaf yn 1950. Yn 2012 roedd ffracio hydrolig wedi cymryd lle ar 2.5 miliwn o adegau, mewn gwahanol rannau o'r byd gyda ffynhonnau olew a ffynhonnau nwy. Roedd dros miliwn o'r rhain wedi digwydd yn Unol Daleithiau America.[2].
Mae ffracio'n destun dadl ym mhob cwr o'r byd, gyda rhai yn ei weld yn fwy 'gwyrdd' nag ynni niwclear ac yn ateb sydyn i'r broblem o ryddhau hydrocarbonau, ar y naill law.[3][4] Ar y llaw arall ceir dadleuon bod ffracio yn medru halogi'r gronfa ddŵr tanddaearol, yn halogi'r aer, yn creu sŵn ac y gall hyn effeithio ar iechyd pobl yn ogystal â'r amgylchedd. Cred gwrthwynebwyr ffracio hefyd y gall ffracio sbarduno daeargrynfeydd.[5]
Pan fo ffawtiau naturiol mewn craig, gall ffracio achosi problemau seismig; gwaharwddwyd ffracio mewn ardaloedd lle gwyddys bod y broblem hon yn bodoli; ond ar adegau mae'r ffawltiau'n bodoli heb yn wybod i'r daearegydd a gall chwistrellu hylif dan bwysau achosi gweithgaredd seismig a all, yn ei thro, achosi daeargrynfeydd bychain a difrod i adeiladau.[6]
Cymru
Mae unrhyw benderfyniadau ynglŷn ffracio'n cael eu gwneud yn San Steffan yn hytrach na Chaerdydd. Mae hyn yn gwbl wahanol i'r sefyllfa yn yr Alban. Dywedodd Dr Dai Lloyd, Plaid Cymru: "Felly paham gwahaniaethu yn erbyn Cymru – unwaith yn rhagor – a’n trin fel cenedl eilradd?
“Mae Plaid Cymru hefyd yn cefnogi moratoriwm ar ffracio i adlewyrchu ei effeithiau ar newid hinsawdd, yr amgylchedd, iechyd a diogelwch, a’r economi.”"[7]
Yn 2014 gwelwyd nifer o brotestiadau yn erbyn ffracio, ond nid yr un dros ffracio yng Nghymru. Cadwynodd nifer o wrthwynebwyr a oedd yn aelodau o Reclaim the Power eu hunain i ffensys gwaith adeiladu yn Abertawe.[8] Ar 4 Chwefror 2015 pleidleisiodd Llywodraeth Cymru dros gynnig gan Blaid Cymru a oedd yn galw ar Weinidogion y Llywodraeth i wneud popeth yn eu gallu i atal elldynnu nwy drwy ffracio.[9]
Unol Daleithiau America
Yn 2010 roedd 26% o'r nwy a gynhyrchwyd yn UDA yn dod o dywodfaen tynn (tight sandstone) a 23% o siâl, sy'n rhoi cyfanswm a gynhyrchwyd drwy ffracio yn 49% - bron i hanner holl gynnyrch olew a nwy yr Unol Daleithiau.[11] Wrth i UDA gynhyrchu mwy-a-mwy nid oedd angen mewnforio cymaint o wledydd eraill; yn 2012 mewnforiodd UDA 32% yn llai nag yn 2007.[12] Yn 2013 rhagwelodd Gweinyddiaeth Gwybodaeth Ynni UDA ("EIA") y byddant yn allforio yn hytrach nag yn mewnforio erbyn 2020. Mae hyn yn golygu bod gwledydd fel Sawdi Arabia'n allforio llawer llai o nwy ac olew (neu betroliwm) nag yr oeddent ddeng mlynedd yn ôl. Oherwydd hyn, a rhai ffactorau eraill, gwelwyd gostyngiad ym mhrisiau olew ledled y byd.[13]