Llywodraeth Catalwnia

(Ailgyfeiriad o Generalitat de Catalunya)

Llywodraeth Catalwnia (Generalitat de Catalunya) yw prif gorff llywodraethol Catalwnia.[1] Lleolir y Llywodraeth ym mharc Ciutadella, Barcelona ac mae'n cynnwys 135 o aelodau ("diputats"). Ar 27 Hydref yn dilyn Refferendwm 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Catalwnia, dan arweiniad ei Llywydd, Carles Puigdemont, Ddatganiad o Annibyniaeth, a'u bod yn sefydlu Gweriniaeth Catalwnia; pleidleisiwyd 70–10 dros y cynnig. Fel ymateb i hyn, cyhoeddodd Mariano Rajoy, Prif Weinidog Sbaen ei fod yn dod a Llywodraeth Catalwnia i ben, ac y byddai'n cynnal etholiad yn Rhagfyr.

Senedd Catalwnia
(y mwyaf diweddar)

Parlament de Catalunya
11fed
Coat of arms or logo
Gwybodaeth gyffredinol
MathUnsiambrog
Arweinyddiaeth
LlywyddCarme Forcadell (JxSí)
ers 26 Hydref 2015
Is-lywydd CyntafLluís Corominas (JxSí)
ers 26 Hydref 2015
Ail Is-lywyddJosé María Espejo-Saavedra (C's)
ers 26 Hydref 2015
Cyfansoddiad
Aelodau135
Composició Parlament de Catalunya 2015.svg
Grwpiau gwleidyddolBloc annibyniaeth (72):

Bloc gwrth-annibyniaeth (52):

  •      C's (25)
  •      PSC (16)
  •      PPC (11)

Grŵp arall (11):

  •      CSQP (11)
Etholiadau
System bleidleisioCynrychiolaeth gyfrannol gyda rhestrau pleidiol
Etholiad diwethaf27 Medi 2015
Etholiad nesafAr neu gyn 11 Tachwedd 2019
Man cyfarfod
Parlament de Catalunya.JPG
Palau del Parlament de Catalunya, Parc de la Ciutadella, Barcelona
Gwefan
www.parlament.cat

Cynhaliwyd yr etholiadau diweddaraf ar 27 Medi 2015; gweler: Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2015.

Hyd at 27 Hydref 2017, Llywydd Llywodraeth Catalwnia oedd Carme Forcadell (Junts pel Sí), a chyn hynny Artur Mas o'r blaid Convergència i Unió a ddaeth i'w swydd yn Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2010. Nid enillodd ei blaid fwyafrif clir ond ceir cytundebau dros-dro gydag ambell blaid arall, ar ffurf cynghrair achlysurol. Cefnogwyd ei arweinyddiaeth gan Esquerra Republicana de Catalunya (Plaid Sosialaidd Catalwnia).

Llywydd y Generalitat o flaen Mas oedd José Montilla, arweinydd Plaid Sosialaidd Catalwnia. Mae ei bencadlys swyddogol ym Mhalas y Generalitat (neu'r Palau de la Generalitat de Catalunya). Yn 2006 roedd gan y Generalitat gyfrifoldeb am dros 24 biliwn a godwyd i 33 biliwn yn 2010.[2]

Y Canoloesoedd

Deillia'r Generalitat o sefydliad o'r Canoloesoedd a oedd yn rheoli yn enw Coron Aragon ac o Lysoedd Brenhinol Catalan (neu'r Corts Catalanes) o gyfnod Jaume I el Conqueridor (1208-1276) ac mae'r Cyfansoddiad cyntaf yn dyddio'n ôl i 1283.

Cynsail gyfreithiol arall yw'r Diputació del General de Catalunya sef Comisiwn y Ddirprwyaeth sydd hefyd a'i wreiddiau yn y Canoloesoedd.

Datganiad o Sofraniaeth

Bwriwyd 85 o bleidleisiau o blaid annibyniaeth a 41 yn erbyn
Hen faner y Generalitat.

Ar 23 Ionawr 2013 derbyniodd y Llywodraeth gynnig o 85 pleidlais i 41 (gyda 2 yn ymatal): "Datganiad o Sofraniaeth a'r Hawl i bobl Catalwnia Benderfynu eu Dyfodol eu Hunain." Pasiwyd gan fwyafrif o 44 dros y cynnig; arweiniodd hyn at gynnal Refferendwm Catalwnia 2014. Roedd rhan o'r Cynnig yn mynegi:

Yn unol ag ewyllys mwyafrif pobl Catalwnia, a fynegwyd yn gwbwl ddemocrataidd, mae Llywodraeth Catalawnia'n gwahodd proses i hyrwyddo hawl dinasyddion Catalwnia i benderfynu fel un corff beth fydd eu dyfodol gwleidyddol.[3]

O blaid annibyniaeth (a nifer y pleidleisiau)
Yn erbyn

Ar 8 Mai 2013, mynegodd Prif Lys Sbaen fod yn rhaid i'r penderfyniad hwn gael ei ohirio.[4] Fel ymateb i hyn, cyhoeddodd y llywodraeth eu bwriad i gynnal Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2015 a fyddai'n refferendwm de facto dros annibyniaeth.

Llywyddion y Generalitat 1932–presennol)

Pleidiau

      Esquerra Republicana de Catalunya (ERC) (4)
      Convergència i Unió (CiU) (2)
      Partit dels Socialistes de Catalunya (PSC) (2)
      Junts pel Sí (JxSí) (1)

No.CyfnodLlunEnwPlaidNodiadau
12214 Rhagfyr 193225 Rhagfyr 1933 Francesc MaciàERCBu farw tra yn ei swydd.
12325 Rhagyr 193315 Hydref 1940 Lluís CompanysERCBu'n alltud o 23 Ionawr oherwydd Rhyfel Cartref Sbaen ac yna unbeniaeth Francisco Franco; arestiwyd ef gan y Gestapo yn Ffrainc yn 1940, ei symud i Sbaen lle saethwyd ef.
12415 Hydref 19407 Awst 1954Josep IrlaERCAlltud.
1257 Awst 195424 Ebrill 1980 Josep TarradellasERCYn alltud hyd at 17 Hydref 1977.Ymddeolodd wedi Etholiad 1980.
12624 Ebrill 198016 Rhagfyr 2003 Jordi PujolCiU
12716 Rhagfyr 200328 Tachwedd 2006 Pasqual MaragallPSC
12828 Tachwedd 200627 Rhagfyr 2010 José MontillaPSCY Llywydd cyntaf i beidio a bod yn Gatalan.
12927 Rhagfyr 201010 Ionawr 2016 Artur MasCiU
13010 Ionawr 201628 Hydref 2017 Carles PuigdemontJxSíDiddymwyd ei swydd gan Senedd Sbaen yn dilyn Refferendwm 2017 a Datganiad o Annibyniaeth a sefydlu Gweriniaeth Catalwnia ychydig wythnosau wedi hynny.[5]
28 Hydref 2017Yng ngolwg Llywodraeth Sbaen, diddymwyd y swydd a throsglwyddwyd y cyfrifoldebau i Ddirprwy Brif weinidog Sbaen, Soraya Sáenz de Santamaría. Yng ngolwg Puigdemont a'r rhai o blaid annibyniaeth, ni newidiwyd dim, gan nad oedd gan Sbaen hawl i ymyrryd.[6][7]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau