Gweriniaeth Catalwnia (2017)

gwladwriaeth a ddatganwyd yn 2017

Sefydlwyd Gweriniaeth Catalwnia (Catalaneg: República Catalana, Sbaeneg: República Catalana, Ocsitaneg: Republica Catalana) gan Lywodraeth Catalwnia ar 27 Hydref 2017.[1][2][3] Fe'i sefydlwyd yn dilyn pleidlais o dros 90% o blaid annibyniaeth yn Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2017. Roedd y refferendwm yma'n anghyfreithlon yn ôl Llywodraeth Sbaen, ac nid yw wedi cydnabod Gweriniaeth Catalwnia.[4]

Gweriniaeth Catalwnia
República Catalana
Baner CatalwniaArfbais Catalwnia
BanerArfbais
Arwyddair:
Anthem: Els Segadors
"Y Cynaeafwyr"
Lleoliad Catalwnia
Lleoliad Catalwnia
PrifddinasBarcelona
Dinas fwyaf
Iaith / Ieithoedd swyddogolCatalaneg, Ocsitaneg, Sbaeneg ac Araneg
LlywodraethGweriniaeth
Carles Puigdemont
Cyhoeddiad o Annibyniaeth
27 Hydref 2017
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
32108 km² (55ed)
8.67
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2006
 - Cyfrifiad 2016
 - Dwysedd
 
7,522,596 (85ed)
7,522,596
-/km² (-)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif -
$336.162 (-)
- (-)
Indecs Datblygiad Dynol (-)- (-) – -
Arian cyfredEwro () (EUR)
Cylchfa amser
 - Haf
CET (UTC+1)
CEST (UTC+2)
Côd ISO y wlad.se1
Côd ffôn++34 93 (Barcelona)
+34 97 (gweddill Catalwnia)
1 Hefyd .eu

O fewn hanner awr i Lywodraeth Catalwnia wneud Datganiad o Annibyniaeth, gosododd Senedd Sbaen Erthygl 155 o Gyfansoddiad Sbaen mewn grym a diarddelwyd (neu diswyddwyd) prif swyddogion y Llywodraeth a diddymwyd Llywodraeth Catalwnia gan Mariano Rajoy gan alw Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2017. Mewn ymateb i hyn, dywedodd Arlywydd Catalwnia, Carles Puigdemont, mai dim ond Llywodraethau all ddileu neu ddiarddel llywodraethau, mewn democratiaeth. Galwodd hefyd ar Gatalaniaid i wrthsefyll yn heddychlon cynlluniau Sbaen i weithredu Erthygl 155.

Wedi'r Datganiad o Annibyniaeth, a datganiad gan Carles Puigdemont yn sefydlu Gweriniaeth Catalwnia, dechreuodd llywodraeth Sbaen weithredu yn erbyn yr ymgyrch dros annibyniaeth ac yn erbyn Llywodraeth catalwni; ni chodwyd dwrn yn eu herbyn mewn unrhyw fodd.[5][6] Trodd Puigdemont aa nifer o'i Gabined yn alltud i Wlad Belg gan fod gwys i'w herlyn ym Madrid wedi'i gyhoeddi. Y cyhuddiadau yn eu herbyn gan y Twrnai Cyffredinol oedd: gwrthryfela, annog gwrthryfel (sedition) a lladrad ('lladrad'[7]) [8][9][9] drennydd, datganodd llys yn Sbaen fod y Datganiad o Annibyniaeth wedi'i ganslo.[10] Arestiwyd 9 o aelodau o Weriniaeth Catalwnia ar 2 Tachwedd a chyhoeddwyd gwarant Ewropeaidd i arestio Puigdemont a phedwar arall nad oeddent wedi mynd i'r llys.[11][12]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Eginyn erthygl sydd uchod am Gatalwnia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato