Goresgyniad Edward I

Roedd Edward I, brenin Lloegr, yn gyfrifol am oresgyn Cymru ar ddau achlysur, yn ystod Rhyfel Cyntaf Annibyniaeth yn 1276-7 ac eto yn ystod Ail Ryfel Annibyniaeth yn 1282-3. Yn ystod yr ail oresgyniad, cafodd Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, ei ladd ger Cilmeri. Cipiwyd ei frawd, Dafydd ap Gruffudd, y flwyddyn wedyn, yn dod â'r ail ryfel i ben. O hyn ymlaen roedd Edward yn gallu rheoli dros Gymru. Roedd rhaid, fodd bynnag, ddinistrio gwrthwynebiad nifer o uchelwyr, gan gynnwys Rhys ap Maredudd, a wnaeth ddechrau gwrthryfel yn y de yn 1287, a Madog ap Llywelyn, a wnaeth hawlio'r teitl Tywysog Cymru mewn gwrthryfel yn 1294-5.

Goresgyniad Edward I
Cofeb Llywelyn ap Gruffydd ('Llywelyn ein Llyw Olaf') yng Nghilmeri, lle'r lladdwyd ef
Enghraifft o'r canlynolconquest, cyfeddiannaeth Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1277 Edit this on Wikidata
Daeth i ben1283 Edit this on Wikidata

Tuedd strategol Edward oedd i adeiladu castell ar ddarn o dir yn syth byn wedi ei ennill. Codwyd cestyll mawr ar draws Gogledd Cymru, yn Harlech, Conwy, a Biwmares. Trodd Edward Gaernarfon yn brifddinas y gogledd ac adeiladodd Gastell Gaernarfon rhwng 1285 a 1322, ac yno bu eni ei fab, y Tywysog Cymru cyntaf o frenhiniaeth Lloegr, a ddaeth yn hwyrach yn y Brenin Edward II.

Hanes y concwest

Cymru ar ol Cytundeb Maldwyn 1267      Teyrnas Gwynedd      Tiroedd deiliaid Llywelyn      Tiroedd yr enillwyd gan Llywelyn     Arglwyddiaethau'r Mers      Arglwyddiaethau Lloegr      Teyrnas Lloegr

Gwrthdaro rhwng Llywelyn ac Edward

Yn 1267, adnabyddywd Llywelyn fel tywysog Cymru annibynol gan goron Lloegr wedi Cytundeb Maldwyn, a adnabyddodd hefyd hawl i Llywelyn dderbyn wrogaeth gan yr uchelwyr brodorol. Llywelyn oedd yr unig dywysog i goron Lloegr ei adnabod yn y modd hyn ond roedd yn rhaid iddo dalu 25,000 o farciau er gwaethaf ei incwm a oed o bosib o gwmpas 5,000 o farciau. Yn y pendraw, gwrthododd Llywelyn dalu a gwrthododd dalu gwrthogaeth i Edward. Goresgynodd fyddin Edward ac ennill brwydr yn ei erbyn gan orfodi termau llym Cytundeb Aberconwy gan golli tir a llawer o arian. Adeiladodd Edward res o gestyll mawr i gadw'r Cymry dan reolaeth — gan gynnwys cestyll Rhuddlan, Conwy, Caernarfon, Biwmares, a Harlech.[1]

1282

Yn 1282, fe wnaeth trethi newydd a cham-drin gan swyddogion lleol y goron arwain at wrthryfel Cymreig. Cynigwyd iarllaeth Seisnig i Llywelyn ond ymatebodd Llywelyn fod pobl Eryri yn;

anfodlon gwneud gwrogaeth i ddieithryn y mae ei iaith, ei arferion a'i ddeddfau yn gwbl anghyfarwydd iddynt. Os pe bai hynny'n digwydd gallent gael eu caethiwo am byth a chael eu trin yn greulon.

Ar ôl teithio i'r de, gwahanwyd Llywelyn oddi wrth ei filwyr a lladdwyd ef ger Llanfair-ym-Muallt; dyma oedd diwedd annibyniaeth Cymru. Anfonwyd ei ben i Lundain, a'i roi ar bicell ar giât Tŵr Llundain a'i goroni gyda eiddew, symbol o fod tu hwnt i'r gyfraith. Safodd y pen ar y giât am o leiaf pymtheg mlynedd. [1] Lladdwyd Llywelyn ym Mrwydr Pont Orewin gan filwyr o Loegr mewn tric cudd yn ôl un ffynhonnell. Roedd Llywelyn dan yr argraff ei fod yn mynd yno ar gyfer trafodaethau. Parediwyd pen Llywelyn trwy Lundain a'i osod ar bigyn Tŵr Llundain gyda choron sarhaus o ddail llawryf.[2]

Dal Dafydd

Casglodd Dafydd benaethiaid Gwynedd yngyd yn Ninbych i geisio ail-ddechrau rhyfel egniol ond ni chafodd fawr o lwyddiant. Curwyd Dafydd ger Dolbadarn gan Iarll Warwick. Ciliodd Dafydd gan ddioddef o newyn ac oerni i Nanhysglain ger Bera Mawr. Ar 21 Mehefin 1283, bradychwyd y criw gan Einion ap Ifor, Esgob Bangor, Gronwy ab Dafydd a'u cludo i Gastell Rhuddlan ac Edward. Cymerwyd Dafydd dan warchodlu cryf i Amwythig a chafwyd ef yn euog o flaen 100 o farwniaid, 11 iarll ac Edward ei hun.[3] Ef oedd y person nodedig cyntaf i gael ei grogi, diberfeddu a chwarteru. Cymerwyd meibion Dafydd i gastell Seisnig lle cysgodd un ohonynt mewn cawell am gyfnod. Cymerwyd y Dywysoges Gwenllian i fynachlog Seisnig am ei bywyd cyfan heb allu siarad Cymraeg.[1]

Statud Rhuddlan

Cyhoeddodd Statud Rhuddlan 1284 fod Pura Wallia yn "annexed an united to the crown of the said kingdom as part of the said body". Cymerwyd Tlysau Coron Cymru a chreiriau sanctaidd gan gynnwys rhan tybiedig o groes Iesu Grist i gysegr Edward Gyffeswr yn Abaty Westminster er mwyn dangos fod coron Lloegr wedi cymeryd coron Cymru.[1]

Castell Biwmares a Chyflafan y Beirdd

Ym Mhorth Wygyr neu Benofer, adeiladodd Gastell a enwodd yn Biwmares. Yn 1296 gorffenwyd yr adeilad a bu "Ffrau Ddu yn Biwmares" pan apwyntiwyd geidwad castell a llywydd y dref a lladdwyd rhai o Gymru. Dywedir mai yn i'r castell y gwahoddwyd feirdd ar gyfer math o Eisteddfod gan Edward cyn iddo orchymun i'w filwyr ruthro arnynt a'u lladd (Cyflafan y beirdd). Mae'r farn ar hanesrwydd y digwyddiad yn gymysg ymysg awduron a haneswyr.[3]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau