Gwasgwyneg

iaith

Tafodiaith o'r Ocsitaneg neu iaith ynddi ei hun yw Gwasgwyneg[1] (Ocsitaneg: gascon) a siaredir yn y rhan o dde-orllewin Ffrainc sy'n cyfateb i diriogaeth hanesyddol Gasgwyn. Bu'n iaith swyddogol Gasgwyn am dros dair canrif. Y farn fwyaf cyffredin ymysg ieithegwyr yw ei bod yn dafodiaith o'r Ocsitaneg, ond crêd rhai ei bod yn iaith ar wahân. Mae'r iaith Araneg, a siaredir yn y Val d'Aran yn Sbaen yn ffurf o'r iaith Wasgwyneg. Ceir tua 250,000 o siaradwyr.

Tafodieithodd Gwasgwyneg

  • Béarnais yn ardal Pau.
  • Araneg yn y Val d'Aran
  • Gascon maritime neu parlar negre, o gwmpas arfordir département Landes
  • Gascon intérieur neu parlar clar o gwmpas Auch
  • Gasconeg ogleddol o gwmpas Bordeaux

Cyfeiriadau