Hafan treth
Ardal neu wlad lle ceir rhai trethi isel, neu ddim o gwbwl ydy hafan treth, sydd o'r herwydd yn fan lle mae llawer o fuddsoddwyr o wledydd eraill yn osgoi talu'r trethi isel hynny.[1]
Enghreifftiau
Mae ymchwil[2] yn awgrymu bod oddeutu 15% o wledydd y byd yn hafanau treth, bod y gwledydd hyn yn fychain a chyfoethog, ac mae tueddiad i wledydd sydd yn cael eu llywodraethu a rheoleiddio'n well i fod yn fwy tebygol o fod yn hafanau treth, ac yn fwy tebygol o fod yn llwyddiannus os ydynt yn dod yn hafanau treth.
- Y Swistir
- Lwcsembwrg - dirprwy hafan treth yn bennaf[3]
Gwledydd sofran eraill sydd yn cael eu hystyried fel 'hanner hafanau treth' oherwydd cyfraddau treth isel a rheoleiddio llac yw:[4]
- Iwerddon[5]
- Yr Iseldiroedd - dirprwy hafan treth yn bennaf[3]
Awdurdodaethau heb sofraniaeth sydd yn cael eu labeli yn aml fel hafanau treth:
Beirniadaeth
Honnir bod cysylltiad rhwng sawl hafan treth a thwyll, gwyngalchu arian a therfysgaeth.[13]