Homo rudolfensis

Homo rudolfensis
Amrediad amseryddol: Pleistosen, 1.9 Miliwn o fl. CP
Penglog KNM ER 1470
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas:Animalia
Ffylwm:Chordata
Dosbarth:Mammalia
Urdd:Primates
Teulu:Hominidae
Genws:Homo(?)
Rhywogaeth:H. rudolfensis
Enw deuenwol
Pithecanthropus rudolfensis
Alekseyev, 1978[1]

Mae Homo rudolfensis (a adnabyddir hefyd yn Australopithecus rudolfensis) yn rhywogaeth a ddaeth i ben, ac a oedd yn byw tua 1.9 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP). Mae'n perthyn i'r llwyth gwyddonol a elwir yn Hominini. Dim ond dyrnaid o ffosiliau ohono a ddarganuwyd hyd yma; deuthpwyd o hyd i'r cyntaf gan Bernard Ngeneo dan arweiniad Richard Leakey a'r swolegydd Meave Leakey ym 1972 yn Koobi Fora ar ochr ddwyreiniol o Lyn Rudolf (a elwir heddiw yn Llyn Turkana) yng Nghenia.

Cynigiwyd yr enw gwyddonol Pithecanthropus rudolfensis yn 1978 gan Valery Alekseyev[1] a'i newidiodd yn 1986 i Homo rudolfensis[2] ar gyfer Penglog 1470 (KNM ER 1470). Mae rhai pobl yn cwestiynu a yw cyn lleied o dystiolaeth yn ddigonol i greu rhywogaeth ar wahân, ac a ddylir ei gynnwys o dan y genws Homo ynteu Australopithecus.

Ar 8 Awst 2012, cyhoeddwyd fod tîm dan arweiniad Meave Leakey wedi darganfod rhanau eraill o benglogau H. rudolfensis.

KNM-ER 1470

UR 501 (gwreiddiol), y ffosil hynaf yn y genws Homo

Cafwyd cryn drafodaethau gan anthropolegwyr am y ffosil KNM-ER 1470, yn enwedig ei ddosbarthiad o ran ei rywogaeth. Fe'i ddyddiwyd yn anghywir: yn dair miliwn o flynyddoedd oed, gan felly ragflaenu Homo habilis. Ers hynny, fodd bynnag, credir mai tua 1.9 miliwn o flynyddoedd CP ydyw. Mae'r gwahaniaeth mawr rhwng penglogau Homo rudolfensis a Homo habilis, rhy fawr iddynt fod o'r un rhywogaeth. Credir hefyd eu bod yn cyd-oesi a'i gilydd. Ni wyddys pa un o'r ddau (neu arall heb ei ddarganfod) yw tad y llinach Homo. Mae cyfaint y craniwm, ble gorweddai'r ymennydd yn 700 cm³.[3]

Cyfeiriadau