Neogen

SystemCyfresOesOes (Ma)
CwaternaiddPleistosenaiddGelasaiddifancach
NeogenaiddPlïosenaiddPiacensaidd2.588–3.600
Sancleaidd3.600–5.332
MïosenaiddMesinaidd5.332–7.246
Tortonaidd7.246–11.608
Serravallaidd11.608–13.65
Langhianaidd13.65–15.97
Bwrdigalaidd15.97–20.43
Acwitanaidd20.43–23.03
PaleogenaiddOligosenaiddCataiddhynach
Israniadau'r Cyfnod Neogen, yn ôl IUGS, fel a gaed yng Ngorffennaf 2009.

Cyfnod a system ddaearegol ydy Neogen (Saesneg: Neogene) a grewyd gan Comisiwn Rhyngwladol ar Stratograffeg (a dalfyrir i ICS) ar linell amser daearegol. Mae'r system hon (y Neogen) yn cychwyn 23.03 ± 0.05 miliwn o flynyddoedd yn ôl ac yn dod i ben tua 2.588 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Hwn ydy'r ail gyfnod yn yr Era Cenosoic (Cenozoic Era), mae'n dod ar ôl y cyfnod Paleogenaidd. Daw'r cyfnod chwarteraidd ar ei ôl yntau yn ei dro.

Mae'n cael ei rannu'n ddau israniad a elwir yn epoc: y Mïosen a'r Plïosen.

Mae'r Neogen yn rhychwantu 20 miliwn o flynyddoedd, a yn y cyfnod hwn gwelwyd mamaliaid ac adar yn parhau i esblygu i'r ffurfiau modern, fwy neu lai. Gwelwyd hefyd darddiad yr Hominidae cynnar yn Affrica, a esblygodd ymhen hir a hwyr yn Homo sapiens (neu fod dynol).

Cyfnod Neogen
23.03–2.588 miliwn o flynyddoedd yn ôl
Cyfartaledd O2 yn yr atmosffêrca. 21.5 Cyfaint %[1]
(108 % o lefel a geir heddiw)
Cyfartaledd CO2 yn yr atmosffêrca. 280 rhan / miliwn[2]
(1 wedi'i luosi gyda'r lefel fodern (cyn-ddiwydiannol))
Cyfartaledd tymheredd yr wynebca. 14 °C[3]
(0 °C uwch na'r lefel heddiw)


Cyfeiriadau