Husiaeth

Mudiad Cristnogol yn seiliedig ar ddysgeidiaeth Jan Hus oedd Husiaeth a flodeuai yn y Tiroedd Tsiec yn ystod y Diwygiad Bohemaidd. Ffurf ar rag-Brotestaniaeth ydoedd gyda'r nod o ddiwygio'r Eglwys Gatholig, a ragflaenai'r Diwygiad Protestannaidd yn yr 16g. Husiaeth oedd prif yriedydd y Diwygiad Bohemaidd, ac o'r herwydd gelwir yr hwnnw weithiau yn y Diwygiad Husaidd.

Husiaeth
Enghraifft o'r canlynolenwad crefyddol, mudiad gwleidyddol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ar ddechrau'r 15g denodd yr offeiriad Catholig Jan Hus nifer o ddilynwyr am iddo ladd ar nifer o arferion dadleuol yr Eglwys Gatholig. Dylanwadwyd ar Hus gan ddiwygwyr eraill, megis John Wycliffe yn Lloegr, i gondemnio llygredigaeth eglwysig, gan gynnwys gwerthu maddeuebau ac ymddygiad bydol y glerigiaeth, ac i gwestiynu grym ac awdurdod y Pab. Dadleuodd Hus, yn debyg i Wycliffe, dros gyfieithu'r Beibl i iaith y werin. Cafodd Hus ei esgymuno a fe'i gwahoddwyd i Gyngor Konstanz ym 1414 i amddiffyn ei daliadau. Fodd bynnag, cafodd ei arestio a'i gael yn euog o heresi, a fe'i llosgwyd wrth y stanc ym 1415.

Ni rhoddwyd ei ferthyrdod daw ar ei ddilynwyr, a throdd yn radicalaidd fyth. Cychwynnodd Rhyfeloedd yr Husiaid ym 1419, a chyflwynodd pendefigion a chlerigwyr Husaidd Bedair Erthygl Prag ym 1420, gan fynnu'r hawl i bregethu'r Efengyl, i weini dwy elfen y cymun i leygwyr (Wtracaeth), i gosbi pechodau marwol, ac i ddiddymu grym seciwlar yr eglwys. Ceisiodd yr eglwys ostegu'r Husiaid a lansiwyd sawl croesgad yn eu herbyn, gyda chymorth yr Ymerodraeth Lân Rufeinig a phwerau Catholig eraill Ewrop. Ymrannodd yr Husiaid cynnar yn sawl tueddiad a sect, gan gynnwys y Taboriaid a'r Orebiaid.

Daeth y rhyfeloedd i ben ym 1434 wedi i'r Husiaid cymedrol ymgynghreirio â'r Catholigion yn erbyn yr Husiaid radicalaidd, a rhoddai Cytundebau Basel (1436) oddefiadau i Husiaeth heb ildio awdurdod yr Eglwys Gatholig ym Mohemia. Caniatawyd sefydlu Eglwys Bohemia, eglwys ddiwygiedig unigryw a arddelai Wtracaeth. Hon oedd yr eglwys genedlaethol gyntaf yn hanes Cristnogaeth y Gorllewin a oedd ar wahân i awdurdod Eglwys Rhufain.

Cydnabuwyd Wtracaeth yn un o grefyddau answyddogol Teyrnas Bohemia gan y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd nes ei gwahardd ym 1627. Daeth y Diwygiad Bohemaidd a'r mudiad Husaidd i ben yn sgil Gwrthryfel Bohemia ym 1620, a sbardunodd yr Ymerawdwr Ferdinand II i orfodi Catholigiaeth Rufeinig ar holl drigolion y deyrnas.

Rhyfeloedd yr Husiaid (1419–34)

Prif: Rhyfeloedd yr Husiaid

Wedi dienyddiad Hus, ceisiodd Václav IV, brenin Bohemia, ostegu Husiaeth yn llym, gan obeithio plesio'r Babaeth a chael ei goroni'n Ymerawdwr Glân Rhufeinig yn y pen draw. Fodd bynnag, cynyddodd niferoedd yr Husiaid, ac yn raddol teimlasant ddigon o hyder i herio'r drefn. Gwaethygodd y tensiynau rhwng y diwygwyr a'r Catholigion traddodiadol, a bu gwedd ethnig hefyd ar y gwrthdaro wrth i'r Tsieciaid brodorol ddigio wrth yr Almaenwyr, a wahoddwyd i wladychu'r deyrnas ers canrifoedd fel rhan o'r ymdrech i Almaeneiddio a Chatholigeiddio Bohemia. Yn haf 1419, cafodd nifer o gynghorwyr dinesig Prag eu taflu o ffenestri'r neuadd gan dorf o Husiaid a'u lladd. Pythefnos yn ddiweddarach, bu farw Václav IV o drawiad ar y galon—yn ôl y stori boblogaidd, fe'i lladdwyd gan y sioc o glywed newyddion y diffenestriad ym Mhrag. Ffrwydrodd anfodlonrwydd yr Husiaid ac aeth yn wrthdaro treisgar, a dechreuodd yr Husiaid radicalaidd yrru'r Almaenwyr Catholig allan o rannau o Fohemia.

Olynwyd Václav yn Frenin Bohemia gan ei frawd Zikmund, a fu cyn ddiged â'i ragflaenydd am ledaeniad Husiaeth. Erfynodd ar y pab i ganiatau croesgad yn erbyn yr Husiaid, a daeth marchogion a lluoedd ar draws Ewrop i Fohemia i frwydro'n erbyn yr hereticiaid. Llwyddasant ar y cychwyn i yrru'r Husiaid yn ôl ac ailgipio Prag, ond wedi gwarchae ar y croesgadwyr adenillodd yr Husiaid y rhan fwyaf o'u tiriogaeth. Wedi i'r iwmon Jan Žižka gymryd awennau'r lluoedd Husaidd, ymddangosodd anghydfodau yn eu plith, a lansiodd yr Almaenwyr groesgad arall yn eu herbyn.Er gwaethaf y rhaniadau mewnol, llwyddodd y glymblaid Husaidd unwaith eto i orchfygu'r goresgynwyr, a hynny dan arweiniad Žižka ym Mrwydr Deutschbrod yn Ionawr 1422. Yn y ddeng mlynedd nesaf, cyhoeddwyd tair croesgad arall gan y Babaeth, ond yr Husiaid a fyddai'n drech bob tro.

Er i undeb yr Husiaid wrthsefyll y bygythiad allanol, chwalodd y mudiad o ganlyniad i ymladd rhwng yr amryw sectau, a throdd y gwrthryfel yn rhyfel cartref. Cytunodd elfen gymedrol yr Husiaid, yr Wtracyddion, i gyfaddawdu â'r Eglwys Gatholig er mwyn ymgynghreirio'n erbyn yr Husiaid radicalaidd. O'r diwedd, daeth y rhyfeloedd i ben ym 1434 gyda buddugoliaeth yr Wtracyddion dros y Taboriaid radicalaidd, ac arwyddwyd Cytundebau Basel gan yr eglwys, yr Wtracyddion, ac Ystadau Bohemia a Morafia ym 1436. Erbyn diwedd 1437, cyhoeddodd Cyngor Eglwysig Basel nad oedd cymundeb drwy'r ddwy elfen yn heresi.

Gweler hefyd

Darllen pellach

  • Frantisek Michálek Bartos, The Hussite Revolution, 1424–37 (Efrog Newydd: Columbia University Press, 1986).
  • Howard Kaminsky, A History of the Hussite Revolution (Berkeley, Califfornia: University of California Press, 1967).
  • Josef Macek, Husitské revoluční hnutí (Prag: Rovnost, 1952).