Jehoida Hodges

chwarewr rygbi'r undeb

Roedd Joseph Jehoida Hodges (15 Gorffennaf 1876 - 13 Medi 1930) [2] yn Chwaraewr rygbi'r undeb rhyngwladol dros Gymru Roedd yn aelod o dîm buddugol Cymru a gurodd y Crysau Duon ar daith ym 1905.[3] Chwaraeodd rygbi clwb i Glwb Rygbi Cymry Llundain a Chasnewydd.[4] Gwasanaethodd fel capten Casnewydd o1904.[5]

Jehoida Hodges
Hodges yng nghrys Casnewydd
Enw llawnJoseph Jehoida Hodges
Dyddiad geni(1876-07-15)15 Gorffennaf 1876
Man geniRhisga,
Dyddiad marw13 Medi 1930(1930-09-13) (54 oed)
Lle marwWaunlwyd,
Taldra5' 9 [1]
Pwysau13 st
Gwaithglowr
gwerthwr siwrin
tafarnwr
Gyrfa rygbi'r undeb
Gyrfa'n chwarae
SafleBlaenwr
Clybiau amatur
BlynyddoeddClwb / timau
???
1897/1909
Cymry Llundain
Casnewydd
Timau cenedlaethol
Blynydd.ClybiauCapiau
1899-1906Cymru Cymru23(18)

Cefndir

Ganwyd Hodges yn Rhisga, Sir Fynwy yn bumed blentyn i Joseph Hodges, mwynwr glo, ac Elizabeth ei wraig.

Ym 1904 Priododd ag Annie Smythe, nyrs yn nhloty Casnewydd. Bu iddynt un mab.[6]

Cydnabyddir Hodges, ynghyd â'i gyd-chwaraewyr rhyngwladol Cymreig George Boots, ac yn ddiweddarach George Travers am fabwysiadu trefniant chwarae ymlaen mewn sgrymiau a leiniau. Er mai blaenwyr oedd yn gyfrifol am y meysydd chwarae hyn, prin oedd y tactegau na'r arbenigedd diffiniedig cyn dechrau'r ugeinfed ganrif. Helpodd Hodges i ddod â ffurfiannau tactegol ac felly lefel o arbenigedd i chwarae fel blaenwr. Fe’i disgrifiwyd fel chwaraewr gweithgar a rhagorol yn gyffredinol a allai lenwi yn y mwyafrif o safleoedd,[7] hyd yn oed ar yr asgell.[8]

Gyrfa ryngwladol

Cymru

Gwnaeth Hodges ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru yn erbyn Lloegr ym 1899, ar ôl dim ond ei ail dymor yn chwarae i Gasnewydd. Chwaraeodd Hodges mewn tair ymgyrch a arweiniodd at ennill y Goron Driphlyg. Darparodd wrthwynebiad [9] yn erbyn 'pen rhydd' enwog y Crysau Duon yn ystod eu taith ym 1905 ac roedd yn rhan o fuddugoliaeth gyntaf Cymru oddi cartref i'r Alban. Bu hefyd yn rhan o dîm Casnewydd a gollodd i Dde Affrica ar eu taith ym 1906.[10]

Roedd un o eiliadau mwyaf trawiadol Hodges mewn crys Cymreig yng ngêm 1903 yn erbyn Lloegr. Roedd asgellwr Cymru, Tom Pearson, wedi cymryd ergyd drom i’r asennau gan daclwr drwg-enwog Lloegr [11] Gamlin, a gorfodwyd ef i ymddeol. Dangosodd Hodges ei allu enwog i addasu’n wrth symud i’r asgell i herio safle Pearson a sgorio tri chais mewn buddugoliaeth 21-5 i’r Cymry. Rhoddodd Hodges y gorau i chwarae rygbi i Gasnewydd ym mis Hydref 1908 pan aeth i hyfforddi a chwarae'n aclysurol i dîm Rhisga.[12]

Gemau rhyngwladol a chwaraewyd

Gyrfa ddiweddarach a marwolaeth

Ar ôl gadael rygbi clwb daeth Hodges yn dafarnwr, yn gyntaf yng Ngwesty'r Salvation yng Nghasnewydd ac yna yng Ngwesty'r Park, Waunlwyd. Bu farw Hodges ar 13 Medi 1930. Dychwelwyd ei gorff i'w dref enedigol, Rhisga, lle cafodd ei gladdu ar 17 Medi ym mynwent Cromwell Road. Cyn-chwaraewyr rhyngwladol Cymru oedd yn cario ei arch.

Llyfryddiaeth

  • Parry-Jones, David (1999). Prince Gwyn, Gwyn Nicholls and the First Golden Era of Welsh Rugby. Bridgend: seren. ISBN 1-85411-262-7.
  • Thomas, Wayne (1979). A Century of Welsh Rugby Players. Ansells Ltd.
  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Cardiff: University of Wales Press. ISBN 0-7083-0766-3.

Cyfeiriadau