John Sparkes

Actor a digrifwr o Gymro yw John Sparkes (ganwyd 9 Ionawr 1954). Ganwyd yn Abertawe ac mae'n fwy adnabyddus ar deledu Cymreig fel y cymeriad Barry Welsh, yn y cyfresi arobryn Barry Welsh is Coming (Adloniant Ysgafn Gorau, BAFTA Cymru, 1999, 2000, 2001, 2004). Roedd ganddo rannau mawr yn Naked Video, Absolutely, Pub Quiz, a Jeff Global's Global Probe, ac fe yw adroddwr y cartŵn deledu i blant Peppa Pig.[1]

John Sparkes
Ganwyd9 Ionawr 1954 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Gowerton Edit this on Wikidata
Galwedigaethdigrifwr, actor, actor llais, actor teledu Edit this on Wikidata
Adnabyddus amSam Tân, Peppa Pinc Edit this on Wikidata

Naked Video a Absolutely

Serennodd Sparkes yn y sioe sgets Naked Video, lle'r oedd yn chwarae'r cymeriad Siadwel, bardd 'geeky' yn byw mewn bedsit ac yn gwisgo anorac a sbectols.[2] Ymddangosodd y cymeriad hefyd pan oedd Sparkes yn rhan o raglen gomedi Bodgers, Banks & Sparkes ar BBC Radio 4. Ar ôl lladd y cymeriad  yn Naked Video, adfywiodd Sparkes y cymeriad yn 2014 mewn cyfres o sioeau radio ar gyfer BBC Radio Wales, a ail-gomisiynwyd flwyddyn yn ddiweddarach.

Roedd yn un o'r tîm y tu ôl i'r sioe sgets Absolutely ar Channel 4, a gynhyrchwyd am bedwar blynedd rhwng 1989 a 1993.[3] Yn dilyn rhaglen radio arbennig a enillodd wobrau, comisiynwyd cyfres newydd ar gyfer BBC Radio 4 a ddarlledwyd yn Medi 2015.[4]

Barry Welsh

Roedd Barry Welsh is Coming yn gyfres gomedi ar ITV Cymru. Yn ogystal â chwarae Barry Welsh, cyflwynydd truenus sioe sgwrsio, roedd Sparkes yn chwarae nifer o gymeriadau eraill yn y rhaglen, fel y canwr tafarn Gwyn, Old Mr Ffff a gohebydd newyddion Dinbych-y-pysgod Hugh Pugh. Er i'r gyfres ddod i ben yn 2004, fe ddychwelodd yn 2007 ar gyfer cyfres o raglenni arbennig.

Yn ystod ei rediad gwreiddiol, enillodd y gyfres bedair gwobr BAFTA Cymru ar gyfer Adloniant Ysgafn Gorau.

Teledu plant

Sparkes yw llais yr adroddwr a rhai cymeriadau eraill yn fersiwn Saesneg y gyfres animeiddiedig i blant Peppa Pig[2] (lle mae llais Morwenna Banks, ei gyd-seren o Absolutely, i'w glywed hefyd), yn Shaun the Sheep mae'n lleisio Bitzer the Dog a the Farmer. Mae e hefyd yn lleisio Mr. Elf a King Marigold in Ben and Holly's Little Kingdom, Professor von Proton yn The Big Knights, Steven yn A Town Called Panic, a Fireman Sam yng nghyfresi 2003-05.

Gwaith arall

Yn 2005 perfformiodd yng Ngŵyl Ymylol Caeredin yn Absolutely Presents John Sparkes and Pete Baikie gyda'i gydweithiwr o Absolutely.[5]

Ar deledu Cymreig, serennodd yn Jeff Global's Global Probe (ITV Cymru), ac fe atgyfodwyd y cymeriad Frank Hovis, a ddyfeisiwyd yn wreiddiol ar gyfer cyfres Absolutely, yn Pub Quiz (BBC Cymru).

Mae Sparkes wedi ysgrifennu a chyflwyno tair cyfres deledu o Great Pubs of Wales ar gyfer ITV Cymru. Fe yw llais yr archifydd Goronwy mewn darn o Wallace and Gromit's World of Invention ar gyfer BBC One ac ysgrifennodd a chyflwynodd Ghost Story, lle'r oedd yn treulio'r noson ar ben ei hun gyda chamera mewn tai ag ysbrydion, o gwmpas Cymru. Fe gyd-ysgrifennodd a chyflwynodd y gyfres gomedi ffeithiol Doug Strong's Special Places, ar gyfer ITV Cymru a ITV Central.

Ffilmyddiaeth

Ffilm

BlwyddynTeitlRhanNodiadau
1989MelancholiaRoger Dere
2003Calendar GirlsFfotograffydd Cymreig
2015Shaun the Sheep MovieThe Farmer, BitzerLlais
2015Peppa Pig: The Golden BootsAdroddwrLlais

Teledu

BlwyddynTeitlRhanNodiadau
1986Naked VideoSiadwel6 pennod
1988Cabaret at Jongleurs1 pennod
1989-1993AbsolutelyAmryw gymeriadau
28 pennod
1992Angry George IronsLlais
1992Saturday ZooGlaswegian Matron1 pennod
1994-1995The All New Alexei Sayle ShowAmryw gymeriadau
8 pennod
1996-2004Barry Welsh is ComingBarry Welsh, Hugh Pugh, amryw gymeriadau
1998Comedy NationAmryw gymeriadau
2000The StrangerersBilbo2 pennod
2001-2005Pub QuizFrank Hovis
2002A Town Called PicnicLlais
2003-2005Fireman SamSamuel 'Sam' Peyton JonesLlais
2004Jeff Global's Global ProbeAmryw rannau
2004-presentPeppa PigAdroddwr, Mr. Rabbit, Mr. Potato, Uncle PigLlais
2005Not Tonight with John SergeantBarry WelshFfilm deledu
2007-presentShaun the SheepThe Farmer, BitzerLlais
2009Ben and Holly's Little KingdomMister Elf, King Marigold, Zoe BakerLlais

Cyfeiriadau

Dolenni allanol