Josep Rull

Gwleidydd Catalan yw Josep Rull i Andreu (ganwyd 2 Medi 1968[1][2]) a fu'n Weinidog yn Llywodraeth Catalwnia rhwng 2016 a 2017. Graddiodd Josep Rul yn y gyfraith ym Mhrifysgol Ymreolaethol Barcelona a gwnaed ef yn Aelod o Fargyfreithwyr Terrassa.

Josep Rull
Ganwyd2 Medi 1968 Edit this on Wikidata
Terrassa Edit this on Wikidata
Man preswylTerrassa Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Catalwnia Catalwnia
Alma mater
  • Prifysgol Ymreolaethol Barcelona Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, cyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Senedd Catalwnia, Regidor de l'Ajuntament de Terrassa, Gweinidog Tir a Chynaladwyedd, 3ydd Ysgrifennydd Senedd Catalwnia, Aelod o Senedd Catalwnia, Aelod o Senedd Catalwnia, Aelod o Senedd Catalwnia, Aelod o Senedd Catalwnia, Aelod o Senedd Catalwnia, Aelod o Senedd Catalwnia, Aelod o Senedd Catalwnia, Aelod o Gyngres Dirprwyon Sbaen, President of the Parliament of Catalonia Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Catalan Association of Municipalities and Regions
  • Waste Agency of Catalonia Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolConvergència Democràtica de Catalunya, Plaid Ddemocrataidd Ewropeaidd Catalwnia, Junts per Catalunya Edit this on Wikidata
PartnerMeritxell Lluís i Vall Edit this on Wikidata

Fe'i carcharwyd rhwng 2 Tachwedd a 5 Rhagfyr 2017, ac eto ar 23 Mawrth 2018, oherwydd cyhuddiadau yn ei erbyn gan Lywodraeth Sbaen. Ar 10 Gorffennaf 2018 terfynwyd ei swydd fel Gweinidog yn Llywodraeth y wlad, gan Uchel-lys Sbaen.[3]

Aelod a Gweinidog yn y Llywodraeth

Bu'n aelod o Lywodraeth Catalwnia ers 1997 gan gynrychioli y blaid Convergència i Unió (Catalaneg, yn golygu "Cydgyfeiriad ac Undeb"). Ar 14 Ionawr 2016, daeth yn Weinidog dros Gynaladwyedd a Thir, yn Llywodraeth Carles Puigdemont.[4][5] Ar yr un diwrnod, cyhoeddodd ei fod yn gadael y Convergència i Unió.[6].

Carcharu

Ar 27 Hydref 2017, wedi i Lywodraeth Catalwnia gyhoeddi Datganiad o Annibynniaeth, cyflwynodd Llywodraeth Sbaen fesurau dan Ddeddf 155 o Gyfansoddiad Sbaen, a ddiddymodd Arlywyddiaeth y Generalitat, a phob swydd yn Llywodraeth Catalwnia, gan gynnwys swydd Rull. Yn union wedyn, cyhoeddodd Llywodraeth Sbaen eu bod yn diddymu'r cyhoeddiad hwnnw.[7]

Yn Nhachwedd 2017 cyhuddwyd 8 aelod o'r Llywodraeth o Wrthryfel: Josep Rull, Oriol Junqueras, Jordi Turull, Meritxell Borràs, Carles Mundó, Raül Romeva, Dolors Bassa, Joaquim Forn a Santi Vila.[8][9][10].

Ar 4 gorffennaf, trosglwyddwyd ef i garchar Lledoners, Catalwnia a rhwng hynny a'i achos llys ar 12 Chwefror 2019 cafwyd protestiadau tawel y tu allan i'r carchar.[11] Rhwng 3 a 20 Rhagfyr bu ar ympryd, gyda rhai o'r carcharorion gwleidyddol eraill. Fel ymateb i hyn, galwodd yr International Association of Democratic Lawyers ar Lywodraeth Sbaen i ryddhau'r "carcharorion gwleidyddol" hyn.[12]

Cyfeiriadau