Ken Elias

Ken Elias (ganed 1944) yw un o artistiaid mwyaf blaenllaw Cymru. Cafodd ei eni yn 1944, i deulu dosbarth gweithiol yng Nglyn-nedd, ffurfiwyd ei blentyndod yn ystod y 1950au. Bu yn ysgol gelf yn y 1960au, yn ystod uchafbwynt y mudiad "Pop Art" yn y DU.[1][2]

Ken Elias
Ganwyd1944 Edit this on Wikidata
Glyn-nedd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaetharlunydd, artist Edit this on Wikidata
Mudiadcelf bop Edit this on Wikidata

Celfwaith

Mae celfwaith Ken Elias yn cael ei chadw mewn nifer o gasgliadau cyhoeddus, gan gynnwys yr Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog a Chymdeithas Gelfyddyd Gyfoes Cymru.[2][3][4] Gan ddefnyddio paent acrylig, montage ffotograffig a chyfryngau cymysg, mae Elias yn creu, delweddau trawiadol pwerus, gyda siapiau cryf a lliwiau cyferbyniol. Dylanwadwyd gan atgofion teulu a sinema yn ystod ei blentyndod yn y 1950au,[5] a'i hoffter o farddoniaeth a gelfyddyd, mae ei waith yn defnyddio cof a dychymyg, gan ymateb i ac yn tynnu ysbrydoliaeth o faterion a cherhyntau byd-eang, tra hefyd yn cael ei wreiddio'n gryf yn yr iaith weledol y cymoedd de Cymru.[5][6]

Lansiodd y Llyfrgell Genedlaethol Cymru arddangosfa adolygol ar daith o'i waith yn 2009 sy'n dwyn y teitl; Ken Elias: A Retrospective - A celebration of 40 years of painting[2] ynghyd â cyhoeddiad gan Seren Books, golygwyd gan Ceri Thomas; Ken Elias: Thin Partitions'.[1] Ym mis Ebrill 2013, cafodd celfwaith Elias ei gynnwys yn arddangosfa fawr yn yr Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd, yn dwyn y teitl Pop and Abstract, ochr yn ochr â gwaith gan David Hockney (artist), Peter Blake, Allen Jones, Bridget Riley ac eraill.[7][8] Mae'n aelod o'r Grŵp Cymreig[2], Grŵp 56 Cymru[9] a'r Academi Frenhinol Gymreig[10]

Casgliadau Cyhoeddus

[4][11]

Arddangosfeydd Rhyngwladol

[11]

  • 2015 Arddangosfa deithiol gan Y Grŵp Cymreig i Düsseldorf, Yr Almaen.
  • 2014 Arddangosfa deithiol gan Y Grŵp Cymreig i Fflorida a Chaliffornia, UDA.
  • 1997 Celfyddyd Yng Nghymru, Senedd Ewrop, Strasbwrg, Ffrainc.
  • 1999 Arddangosfa deithiol gan Y Grŵp Cymreig i Limrig a Dulyn, Iwerddon.
  • 2000 Arddangosfa Unterland , Heilbronn, Yr Almaen
  • 2000/2001 Libramont, Gwlad Belg.
  • 2002 Meta: Imaging the Imagination, Arka Galerija, Vilnius, Lithiwania.
  • 2003 Celf Gyfoes o Gymru, Mortagne-sur-Gironde, Ffrainc.
  • 2003 Gross Innovations, Chicago, UDA.

Cyhoeddiadau

Ken Elias: Thin Partitions, golygwyd gan Ceri Thomas, rhagair gan Dai Smith, ynghyd â thraethodau gan Hugh Adams, David Briers, Jon Gower, Anne Price-Owen a Ceri Thomas. Seren, 2009.[1]

Ffynonellau