Llanddyfnan
Pentref bychan, cymuned a phlwyf eglwysig yn Ynys Môn yw Llanddyfnan ( ynganiad ). Gorwedd yn ne-ddwyrain Ynys Môn ar y ffordd B5109 rhwng Pentraeth i'r dwyrain a Llangefni i'r gorllewin.
Math | cymuned |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.290951°N 4.30086°W |
Cod SYG | W04000014 |
Cod OS | SH4673379578 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au | Virginia Crosbie (Ceidwadwyr) |
Enwir y plwyf ar ôl Sant Dyfnan. Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gwmwd Dindaethwy, cantref Rhosyr. Ceir maen hir cynhanesyddol ger y ficerdy.
Cysylltir y teulu o gyfreithwyr Cymreig canoloesol a adnabyddir fel 'Llwyth Cilmin Droetu' â Llanddyfnan. Roedd y bardd Gruffudd ab yr Ynad Coch, a ganodd farwnad enwog i'r Tywysog Llywelyn ap Gruffudd yn 1283, yn aelod o'r teulu hwnnw.
Ceir Gwarchodfa Natur Cenedlaethol Cors Bodeilio i'r de o'r pentref.
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]
Cyfeiriadau
Trefi
Amlwch · Benllech · Biwmares · Caergybi · Llangefni · Niwbwrch · Porthaethwy
Pentrefi
Aberffraw · Bethel · Bodedern · Bodewryd · Bodffordd · Bryngwran · Brynrefail · Brynsiencyn · Brynteg · Caergeiliog · Capel Coch · Capel Gwyn · Carmel · Carreglefn · Cemaes · Cerrigceinwen · Dwyran · Y Fali · Gaerwen · Glyn Garth · Gwalchmai · Heneglwys · Hermon · Llanallgo · Llanbabo · Llanbedrgoch · Llandegfan · Llandyfrydog · Llanddaniel Fab · Llanddeusant · Llanddona · Llanddyfnan · Llanedwen · Llaneilian · Llanfachraeth · Llanfaelog · Llanfaethlu · Llanfair Pwllgwyngyll · Llanfair-yn-Neubwll · Llanfair-yng-Nghornwy · Llan-faes · Llanfechell · Llanfihangel-yn-Nhywyn · Llanfwrog · Llangadwaladr · Llangaffo · Llangeinwen · Llangoed · Llangristiolus · Llangwyllog · Llaniestyn · Llannerch-y-medd · Llanrhuddlad · Llansadwrn · Llantrisant · Llanynghenedl · Maenaddwyn · Malltraeth · Marian-glas · Moelfre · Nebo · Pencarnisiog · Pengorffwysfa · Penmynydd · Pentraeth · Pentre Berw · Pentrefelin · Penysarn · Pontrhydybont · Porthllechog · Rhoscolyn · Rhosmeirch · Rhosneigr · Rhostrehwfa · Rhosybol · Rhydwyn · Talwrn · Trearddur · Trefor · Tregele