Luke Evans

Actor a chanwr Cymreig yw Luke Evans (ganwyd 15 Ebrill 1979).[1]

Luke Evans
GanwydLuke George Evans Edit this on Wikidata
15 Ebrill 1979 Edit this on Wikidata
Pont-y-pŵl Edit this on Wikidata
Man preswylShoreditch Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Canolfan Ddrama Llundain
  • London Studio Centre Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor ffilm, actor llwyfan, actor Edit this on Wikidata
Adnabyddus amBeauty and the Beast, Pinocchio Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobrau Teen Choice Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.lukeevans.uk.com Edit this on Wikidata

Cychwynnodd gyrfa Evans ar y llwyfan, yn perfformio mewn nifer o gynyrchiadau West End Llundain yn cynnwys Rent, Miss Saigon, a Piaf cyn ennill ei ran Hollywood cyntaf yn chwarae rhan Apollo yn ail-gread 2010 Clash of the Titans. Yn dilyn hyn, fe'i castiwyd mewn ffilmiau cyffro ac acsiwn fel Immortals (2011), The Raven (2012), a'r ail-ddychmygiad o The Three Musketeers (2011), lle'r oedd yn chwarae rhan Aramis.

Yn 2013, serennodd Evans fel y prif wrthwynebydd Owen Shaw yn y ffilm fawr Fast & Furious 6, ac fe chwaraeodd Bard the Bowman yn addasiad tri-rhan Peter Jackson o lyfr The Hobbit gan J.R.R.Tolkien.[2] Portreadodd y fampir Dracula yn y ffilm am wreiddiau'r stori, Dracula Untold.[3]

Bywyd cynnar

Ganwyd Luke Evans ym Mhont-y-pŵl,[4] a magwyd yn Aberbargoed,[5] yng Nghwm Rhymni, yn unig blentyn i Yvonne a David Evans.[6][7] Magwyd yn un o Dystion Jehofa, ond fe adawodd y grefydd pan adawodd ysgol yn 16 mlwydd oed.[8]

Fe symudodd i Gaerdydd pan oedd yn 17 mlwydd oed,[9] lle astudiodd o dan oruchwyliaeth Louise Ryan, athrawes ganu brofiadol.[10] Yn 1997 enillodd ysgoloriaeth i'r London Studio Centre yn Kings Cross, London.[11] Fe raddiodd yn 2000.

Gyrfa

Rhwng 2000 a 2008 serennodd Evans mewn nifer o gynyrchiadau yn West End Llundain yn cynnwys La Cava, Taboo, Rent, Miss Saigon a Avenue Q ynghyd â nifer o sioeau ymylol yn Llundain a Gŵyl Caeredin.

Yn 2008, cafodd ei ran theatr fwyaf sylweddol wrth chwarae Vincent yn y ddrama Small Change wedi ei ysgrifennu a'i gyfarwyddo gan Peter Gill yn y Donmar Warehouse. Roedd yn rhan bwysig iddo gael ei adnabod gan gyfarwyddwyr ac asiantaethau castio yn yr Unol Daleithiau a fe'i henwebwyd am wobr yr Evening Standard am y newydd-ddyfodiad gorau. Yn hwyrach yn yr un flwyddyn fe wnaeth ei ail sioe yn y Donmar Warehouse, Piaf, lle'r oedd yn chwarae rhan Yves Montand.

Cafodd Evans ei glyweliad ffilm cyntaf yn dri deg oed. Yn 2009 fe gafodd ei ran ffilm cyntaf yn chwarae'r duw Groegaidd Apollo yn ail-gread Clash of the Titans. Hefyd yn 2010 fe ymddangosodd fel Clive yn y ffilm Sex & Drugs & Rock & Roll, a gyfarwyddwyd gan Matt Whitecross, fel llabwst y Siryf Nottingham yn Robin Hood, wrth ochr Matthew Macfadyen (a fyddai eto yn chwarae wrth ei ochr yn The Three Musketeers), a chwaraeodd y dyn da ei law Andy, yn ffilm y cyfarwyddwr Stephen Frears - Tamara Drewe, wedi seilio ar stribed comig Posy Simmond. Aeth Evans ymlaen i bortreadu DI Craig Stokes yn Blitz (2011), addasiad ffilm o nofel Ken Bruen o'r un enw, lle serennodd gyda Jason Statham a Paddy Considine. Yn gynnar yn 2010, fe saethodd y ffilm annibynnol, Flutter, wedi ei gyfarwyddo gan Giles Borg.

Chwaraeodd Evans ran Mysgedwr Aramis yn fersiwn Paul W. S. Anderson o The Three Musketeers (ffilmiwyd yn 2010 ryddhawyd yn 2011). Fe'i castiwyd mewn prif ran yn epic Groegaidd Tarsem Singh - Immortals (2011), lle'r oedd yn chwarae Brenin y Duwiau, Zeus. Ar ddiwedd 2010, gymerodd ran gyferbyn John Cusack yn ffilm James McTeigue -The Raven, gan gymryd lle Jeremy Renner. Yn y ffilm, a ryddhawyd yn 2012, sydd wedi ei osod yn Baltimore yng nghanol yr 19g, roedd Evans yn chwarae Ditectif Emmett Fields, sy'n ymchwilio i gyfres o lofruddiaethau ochr yn ochr â pherfformiad Cusack o Edgar Allan Poe.[12] Fe saethwyd y ffilm yn Budapest a Serbia yn Nhachwedd 2010. Yn 2011, fe saethodd No One Lives, ffilm arswyd seicolegol a gyfarwyddwyd gan Ryuhei Kitamura, yn New Orleans, a dechreuodd ffilmio rhan yn addasiad tri rhan Peter Jackson o lyfr The Hobbit gan J.R.R. Tolkien, yn chwarae rhan Bard the Bowman.[2]

Yn 2013, fe wnaeth Evans chwarae rhan Owen Shaw yn Furious 6, ac yn 2014, chwaraeodd Dracula yn y ffilm Dracula Untold.[13][14][15]

Castiwyd Evans fel Eric Draven yn ail-ddychmygiad o ffilm The Crow. Yn Ionawr 2015, fe gyhoeddwyd ei fod wedi gadael y prosiect yn swyddogol i ganolbwyntio ar brosiectau eraill.[16] Yn Mehefin 2014, ymunodd Evans gyda chast y ffilm High-Rise gyda Tom Hiddleston a Jeremy Irons.[17] Yn Hydref 2014, cyhoeddwyd ei fod wedi arwyddo i serennu yn Free Fire, i'w gyfarwyddo gan Ben Wheatley ac yn cyd-serennu Cillian Murphy, Olivia Wilde a Armie Hammer.[18] Yn Mawrth 2015, cyhoeddwyd ei fod am chwarae rhan y dihiryn Gaston yn ail-gread Disney o Beauty and the Beast, sy'n cyd-serennu Emma Watson.[19]

Bywyd personol

Mae Evans yn agored hoyw. Mewn cyfweliad o 2002, dywedodd, "Roedd pawb yn fy nabod i fel dyn hoyw, ac yn fy mywyd yn Llundain wnes i byth trio ei guddio," a thrwy fod yn agored ni fyddai ganddo "y sgerbwd hynny yn y cwpwrdd gallen nhw ei ddatgelu".[20] Yn 2004, dywedodd nad oedd ei yrfa actio wedi dioddef o fod allan.[21] Yn 2014, fe wnaeth Evans gydnabod y pwysigrwydd o farchnadwyedd ac er nad yw'n cuddio ei rywioldeb, mae'n gyndyn o'i drafod gyda'r cyfryngau.[22] Mae cyfryngau Sbaen wedi adrodd ei fod mewn perthynas gyda'r model Jon Kortajarena.[23][24][25]

Yn 2015, enwyd Evans gan gylchgrawn GQ fel un o'r 50 dyn sy'n gwisgo orau.[26]

Ffilmyddiaeth

Evans in January 2014
BlwyddynFfilmRhanNodiadau
2002TabooBillyFideo
2009Don't Press Benjamin's ButtonsTad BenjaminFfilm fer
2010Cowards and MonstersPaulFfilm Fer
2010Sex & Drugs & Rock & RollClive Richards
2010Clash of the TitansApollo
2010Robin HoodLlabwst y Siryf
2010Tamara DreweAndy Cobb
2011BlitzDI Craig Stokes
2011The Three MusketeersAramis
2011ImmortalsZeus
2011FlutterAdrian
2012AshesCrewcut
2012The RavenInspector Emmett Fields
2012No One LivesGyrrwr
2012The Hobbit: An Unexpected JourneyGirion, Lord of DaleFersiwn Estynedig yn unig
2013Fast & Furious 6Owen Shaw[27]
2013The Hobbit: The Desolation of SmaugBard / Girion, Lord of Dale
2013The Great Train RobberyBruce ReynoldsCyfres deledu: 2 bennod
2014Dracula UntoldVlad III Țepeș / Dracula
2014The Hobbit: The Battle of the Five ArmiesBard
2015Furious 7Owen ShawCameo
2015High-RiseRichard Wilder
2016Message from the KingWentworthYn ôl-gynhyrchu
2016The Girl on the TrainScottYn ffilmio
2017Beauty and the BeastGastonYn ôl-gynhyrchu
2019StarDog and TurboCatFelix

Gwobrau ac enwebiadau

BlwyddynGwobrCategoriCanlyniadGwaith
2014Gŵyl Deledu Monte-CarloActor Eithriadol mewn CyfresEnwebwydThe Great Train Robbery
2014Gŵyl Ffilm Acapulco BlackCast Ensemble GorauEnwebwydFast & Furious 6
2015British Independent Film AwardsActor Cynorthwyol GorauEnwebwydHigh-Rise

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.