Zeus

Ym mytholeg Roeg, Brenin y duwiau, rheolwr Mynydd Olympus, a duw'r wybren a'r daran yw Zeús (Hen Roeg: Δίας; Groeg Diweddar: Ζεύς). Mae ei symbolau'n cynnwys y fellten, eryr, tarw a derwen. Mae'n rheoli fel brenin duwiau Mynydd Olympus ac mae ei enw'n gydnaws a'r duw Rhufeinig Iau. Ef yw duw'r tywydd.

Zeus
MamRhea Edit this on Wikidata
PriodMetis Edit this on Wikidata
PlantHephaestus, Artemis, Hermes, Persephone, Elen o Gaerdroea, Minos, Hesperides, Aoide, Aeacus, Melete, Argus, Mneme, Thelxinoë, Dardanus, Hebe, Heracles, Perseus, Tantalus, Amphion, Zethos, Eirene, Dike, Euphrosyne, Eunomia, Thalia, Aglaea, Pasithea, Pirithous, Arcas, Iasion, Sarpedon, Rhadamanthus, Sarpedon, Hellen, Eris, Castor and Pollux, Thebe Edit this on Wikidata

Yn ogystal â'i etifeddiad Indo-Ewropeaidd, mae "casglwr y cymylau" y Groegiaid hefyd yn dangos nodweddion sy'n deillio o ddiwylliannau'r Lefant hynafol, megis y deyrnwialen. Portreadir Zeus yn fynych gan artistiaid Groegaidd mewn un o ddau osgo: yn sefyll, yn camu ymlaen â tharanfollt yn ei law dde, neu ar orsedd. Mae ei fytholegau a'i bwerau yn debyg, er nad yn union yr un fath, â rhai duwiau Indo-Ewropeaidd fel Iau, Perkūnas, Perun, Indra a Thor.[1][2][3]

Zeus oedd plentyn ieuangaf Cronus a Rhea. Yn ôl llawer o draddodiadau, priododd ef Hera, er, yn ôl oracl Dodona, Dione oedd ei gymar: yn ôl yr Iliad, ef oedd tad Aphrodite gan Dione.[4] O ganlyniad ei branciau, cafodd ef lawer o epil duwiol ac arwrol, gan gynnwys Athena, Apollo ac Artemis, Hermes, Persephone (gyda Demeter), Dionysus, Perseus, Heracles, Helen, Minos, a'r Awenau (gyda Mnemosyne); gyda Hera, cafodd ef Ares, Hebe a Hephaestus yn ôl llawer o draddodiadau.[4]

Genedigaeth

Roedd Cronus yn dad i sawl plentyn, gyda Rhea: Hestia, Demeter, Hera, Hades, a Poseidon, ond fe'u llyncodd i gyd cyn gynted ag y cawsant eu geni, oherwydd y gred ei fod i fod i gael ei ddymchwel gan ei fab.

Ond pan oedd Zeus ar fin cael ei eni, ceisiodd Rhea gael Gaia i ddyfeisio cynllun i'w achub, fel y byddai Cronus yn cael ei ddial am ei weithredoedd yn erbyn Wranws a'i blant ei hun. Fe wnaeth Rhea eni Zeus yn Creta, gan roi craig i Cronus wedi'i lapio mewn dillad, a llyncwyd Cronus y swm, yn gyfan.[5]

Gweler hefyd

  • Iau (mytholeg)
  • Hetairideia - Gŵyl Thesalaidd Zeus
  • Teml Zeus

Cyfeiriadau

Llyfryddiaeth

  • Burkert, Walter, (1977) 1985. Greek Religion, yn enwedig adran III.ii.1 (Harvard University Press)
  • Cook, Arthur Bernard, Zeus: A Study in Ancient Religion, (3 cyfrol), (1914–1925). New York, Bibilo & Tannen: 1964.
    • Volume 1: Zeus, God of the Bright Sky, Biblo-Moser, Mehefin 1, 1964, ISBN 0-8196-0148-9 (ailargraffiad)
    • Volume 2: Zeus, God of the Dark Sky (Thunder and Lightning), Biblo-Moser, Mehefin 1, 1964, ISBN 0-8196-0156-X
    • Volume 3: Zeus, God of the Dark Sky (earthquakes, clouds, wind, dew, rain, meteorites)
  • Druon, Maurice, The Memoirs of Zeus, 1964, Charles Scribner's and Sons. (tr. Humphrey Hare)
  • Farnell, Lewis Richard, Cults of the Greek States 5 vols. Oxford; Clarendon 1896–1909.
  • Farnell, Lewis Richard, Greek Hero Cults and Ideas of Immortality, 1921.
  • Graves, Robert; The Greek Myths, Penguin Books Ltd. (argraffiad 1960)
  • Mitford,William, The History of Greece, 1784. Cf. v.1, Chapter II, Religion of the Early Greeks
  • Moore, Clifford H., The Religious Thought of the Greeks, 1916.
  • Nilsson, Martin P., Greek Popular Religion, 1940.
  • Nilsson, Martin P., History of Greek Religion, 1949.
  • Rohde, Erwin, Psyche: The Cult of Souls and Belief in Immortality among the Greeks, 1925.
  • Smith, William, Dictionary of Greek and Roman Biography and Mythology, 1870, [1] Archifwyd 2006-04-09 yn y Peiriant Wayback., William Smith, Dictionary: "Zeus" [2]

Dolenni allanol

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: