Môr-forwyn

Creadures chwedlonol sydd yn byw yn y môr ac iddi gorff dynes a chynffon pysgodyn yw môr-forwyn.[1] Ymddengys y fôr-forwyn ym mytholeg a llên gwerin sawl diwylliant, ac fel arfer maent yn swyno morwyr a dynion eraill ac yn eu hud-ddenu i ddyfnderau'r môr. Mewn straeon cyfatebol, mae'r fôr-forwyn yn troi ei chefn ar ei chartref yn y môr ac yn ymrithio ar ffurf merch gyfan er mwyn cyplu â dyn y tir, ac yn y diwedd dyna dranc y pâr. Gelwir creadur tebyg a chanddo ffurf wrywaidd a chynffon pysgod yn forwas, morfab, neu forddyn.

Môr-forwyn
Delw o fôr-forwyn ddwygynffonnog ym Mhortmeirion.
Mathwaterwoman, merfolk Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebmerman Edit this on Wikidata
Yn cynnwyshuman torso, fin Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Portreadir y fôr-forwyn mewn herodraeth fel arfer gyda gwallt melyn hir ac yn dal crib yn ei llaw dde a drych yn ei llaw chwith.

Gweler hefyd

  • Cei'r Fôr-Forwyn
  • Porth Gwynedd, a elwir Mermaid's Cove yn Saesneg
  • cwpan y fôr-forwyn, enw ar thalws yr alga Acetabularia
  • esgid y fôr-forwyn, math o wymon
  • maneg y fôr-forwyn (Halichondria palmata), sbwng
  • pen y fôr-forwyn (Spatangus cordatus), môr-ddraenog
  • pwrs y fôr-forwyn, enw ar goden wyau y pysgod cartilagaidd (siarcod, cathod môr, ac ati)

Cyfeiriadau