Mahmoud Abbas

Ganwyd Mahmoud Abbas (محمود عباس) ar 26 Mawrth, 1935); caiff ei adnabod, hefyd, dan ei enw Arabeg Kunya Abū Māzin (ابو مازن) sef "Tad Mazen"; Mazen yw enw mab cyntaf-anedig Abbas). Fe'i etholwyd yn gadeirydd Awdurdod Cenedlaethol Palesteina (PNA) ar 11 Tachwedd 2005 ac yn Arlywydd Palesteina ers 15 Ionawr 2005.[1]

Mahmoud Abbas
محمود عباس
Mahmoud Abbas


Llywydd Awdurdod Cenedlaethol Palesteinia
Deiliad
Cymryd y swydd
15 Ionawr 2005
Prif WeinidogAhmad Qurei
Nabil Shaath
Ahmad Qurei
Ismail Haniyeh
Salam Fayyad
RhagflaenyddRauhi Fattouh

Prif Weinidog Awdurdod Cenedlaethol Palesteina
Cyfnod yn y swydd
19 Mawrth 2003 – 06 Medi 2003
ArlywyddYasser Arafat
RhagflaenyddNeb
OlynyddAhmad Qurei

Geni26 Mawrth 1935
Safed
Plaid wleidyddolFatah
PriodAmina Abbas

Mae'n un o brif wleidyddion Fatah prif blaid Mudiad Rhyddid Palesteina neu'r PLO. Cafodd Fatah ei sefydlu yn 1959 gan aelodau o'r dispora gan gynnwys Yasser Arafat.

Fe'i etholwyd hyd at 9 Ionawr 2009, ond oherwydd yr amgylchiadau, penderfynodd barhau'n Arlywydd, ac yn Hydref 2015 roedd yn dal yn y swydd. Oherwydd hyn, cyhoeddodd Hamas na fyddent yn ei gydnabod yn Arlywydd, gan nad oedd wedi cael ei ethol yn ddemocrataidd ers cyhyd.[2] Bu'n Brifweinidog Awdurdod Cenedlaethol Palesteina o Fawrth i Hydref 2003 pan ymddeolodd oherwydd diffyg ymdrech gan Israel ac UDA ac oherwydd cynnen tuag at ei lywodraeth gan lawer o wledydd y byd.[3] Parhaodd ef yn Arlywydd Cyngor Deddfwriaethol Palesteina gan ei ethol ar 8 Mai 2005; ailetholwyd ef ar 23 Tachwedd 2008 ac bod sôn a disgwyl cyfansoddiadol ers hynny, gan gynnwys ym Mai 2021, ni gynhaliwyd un.

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am Balesteina. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato