Hamas

Mudiad Palesteiniaid Islamaidd Sunni yw Hamas (llythrennol: "Brwdfrydedd"). Mae'r enw'n tarddu o'r blaen-lythrennau حركة المقاومة الاسلامية, sef Ḥarakat al-Muqawama al-Islamiyya "Y Mudiad Gwrthsafiad Islamaidd"). Gan y blaid hon mae mwyafrif y seddau ar gyngor Awdurdod Cenedlaethol Palesteina,[6] ac sydd felly'n llywodraethu'r Llain Gaza. Fe'u hetholwyd yn Ionawr 2006. Mae Israel, yr Unol Daleithiau[7] Canada,[8] yr Undeb Ewropeaidd,[9] a Japan yn disgrifio Hamas fel mudiad terfysgol,[10] ond mae Rwsia, Twrci,[11][12] Tsieina,[13][14][15][16] y gwledydd Arabaidd, Iran ac eraill yn gwrthod gwneud hynny.[17]. Mae Awstralia [18] a'r DU [19] yn nodi mai dim ond adain filwrol Hamas sy'n fudiad terfysgol.

Hamas
حركة المقاومة الاسلامية
SefydlyddSheikh Ahmed Yassin, Abdel Aziz al-Rantissi & Mahmoud Zahar
ArweinyddKhaled Mashal[1][2]
Dirprwy ArweinyddMousa Abu Marzouq[1][2]
Sefydlwyd1987 (1987)[3]
Rhagflaenwyd ganPalestinian Muslim Brotherhood
Pencadlys
Rhestr o idiolegauHunanlywodraeth
Sunni,[4]
Islamic fundamentalism,[5] Cenedlaetholdeb Palesteinaidd, Palestinianism
CrefyddSunni
Partner rhyngwladolY Frawdoliaeth Fwslimaidd
Cyngor Cyfreithiol Palesteina
74 / 132
Gwefan
hamasinfo.net
Baner y blaid
Rali gan Hamas ym Methlehem, 2006

Sefydlwyd Hamas yn 1987 gan Ahmed Yassin a Mohammad Taha ar gychwyn yr Intifada Cyntaf ar y Lan Orllewinol fel cangen o'r Frawdoliaeth Fwslimaidd, Eifftaidd.[3][20]. Mae Hamas yn tarddu o'r anfodlonrwydd ag arweinyddiaeth y PLO yn y cyfnod hwnnw. Tyfodd o'r mudiad Mujama, plaid wleidyddol a gefnogwyd gan Israel ar y dechrau fel gwrthbwys i'r PLO. Daeth Hamas i rym yn Ionawr 2006 gan ennill mwyafrif y gynrycholiaeth ar Awdurdod Cenedlaethol Palesteina a threchu'r PLO a Fatah.

Mae hefyd yn gwneud gwaith cymdeithasol pwysig gan sefydlu a rhedeg ysbytai, llyfrgelloedd ac ysgolion [21] drwy'r Lan Orllewinol a Llain Gaza, lle mae'n rheoli. Caiff y bai gan Israel am saethu rocedi atynt; ac er mwyn dileu pwer Hamas y lansiwyd Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2008–2009 ar 27 Rhagfyr 2008 ac yna Ymosodiad arall gan Israel ar Lain Gaza yn 2014.

Mae Siarter Hamas[22] yn galw am ddatgymalu Gwladwriaeth Israel, gan sefydlu gwladwriaeth Islamaidd newydd ar y Tiriogaethau Palesteinaidd[23].

Mae gan y mudiad ei sianel deledu ei hun, Al-Aqsa TV, sy'n darlledu o ddinas Gaza.

Cyfeiriadau

Dolenni allanol