Meinir Lloyd
Cantores a cherddor yw Meinir Lloyd a adnabyddir hefyd fel Meinir Hughes Griffiths.[1]
Meinir Lloyd | |
---|---|
Ganwyd | Meinir Lloyd ![]() 1940s ![]() Cyffylliog ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | canwr ![]() |
Plant | Llyr Huws Gruffydd ![]() |
Bywgraffiad
Fe'i magwyd ym mhentref Cyffylliog ger Rhuthun. Roedd yn ddisgybl yn Ysgol Brynhyfryd lle datblygodd fel telynores a chantores. Cafodd ei dylanwadu gan hyfforddwyr lleol, yn enwedig Dr Aled Lloyd Davies. Yn y 1960au daeth yn wyneb cyfarwydd ar raglenni cerddoriaeth y cyfnod fel Disc a Dawn a chyhoeddodd nifer o recordiau. Roedd ganddi ei chyfres ei hun hefyd o'r enw Mynd â'r Gân.
Ymgartrefodd yng Nghaerfyrddin yn 1972, ac ers hynny mae wedi hyfforddi cannoedd o blant a phobl ifanc yr ardal. Bu'n hyfforddi'n wirfoddol bartïon myfyrwyr Coleg y Drindod. Sefydlodd barti bechgyn Bois y Dderwen, ac yn ddiweddarach gôr merched Telynau Tywi, gan ei arwain am bymtheng mlynedd. Bu’n organydd yng Nghapel y Priordy, Caerfyrddin, am dros 45 mlynedd.
Roedd yn Llywydd Cymdeithas Cerdd Dant Cymru yn 2017 ac yn Llywydd Merched y Wawr Caerfyrddin ym mlwyddyn aur y gangen.[2]
Daeth yn ôl i sylw'r cyhoedd yn 2017 pan ddaeth ei chân "Watshia Di Dy Hun" yn ffefryn ar raglen radio Tudur Owen. Yn 2018, enillodd Fedal Goffa Syr T.H. Parry-Williams am ei chyfraniad a'i gwaith gyda phobl ifanc.[3]
Bywyd personol
Mae'n briod a Peter Hughes Griffiths ac mae ganddynt ddau o blant, Meleri Llwyd a Llyr Huws Gruffydd.