Naomie Harris

actores a aned yn 1976

Mae Naomie Melanie Harris[1] (ganed 6 Medi 1976)[1] yn actores Seisnig. Chwaraeodd wrach fwdw Tia Dalma yn Pirates of the Caribbean: Dead Man's Chest a Pirates of the Caribbean: At World's End, Selena yn 28 Days Later, a Winnie Mandela yn Mandela: Long Walk to Freedom. Chwaraeodd Eve Moneypenny yn y ffilmiau James Bond Skyfall a Spectre.

Naomie Harris
GanwydNaomie Melanie Harris Edit this on Wikidata
6 Medi 1976 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethactor, actor ffilm Edit this on Wikidata
TadBrian Clarke Edit this on Wikidata
MamLisselle Kayla Harris Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar

Ganwyd Harris ar 6 Medi 1976 yn Llundain, lle fe'i magwyd, a lle mynychodd Ysgol St. Marylebone. Graddiodd o Goleg Penfro, Caergrawnt yn 1998 gyda gradd mewn Gwyddorau Cymdeithasol a Gwleidyddol. Daw ei mam, Lisselle Kayla, o Jamaica yn wreiddiol, a daw ei thad o Drinidad.[2] Gwahaniaethant cyn a anwyd Harris, a fe'i magwyd gan ei mam. Gweithiodd ei mam fel sgrin-awdur ar EastEnders, ac erbyn hyn mae'n gweithio fel iachawraig.[3] Hyfforddodd Harris yn Ysgol Theatr yr Old Vic ym Mryste.[4]

Gyrfa

Mae Harris wedi ymddangos mewn rhaglenni teledu a ffilmiau ers iddi fod yn naw mlwydd oed, gan gynnwys rôl serennu yn ailwampiad y gyfres ffuglen wyddonol The Tomorrow People.[5] Ym mis Tachwedd 2002, serennodd yn ffilm ôl-apocalyptaidd Danny Boyle 28 Days Later.[1] Yn yr un flwyddyn, serennodd yn addasiad teledu Zadie Smith o White Teeth.[6] Ers hynny, mae Harris wedi ymddangos yn Pirates of the Caribbean: Dead Man's Chest, Pirates of the Caribbean: At World's End a Miami Vice Michael Mann.[1] Ymddangosodd hefyd yn ffilm annibynnol Michael Winterbottom, A Cock and Bull Story.[7] Serennodd yn addasiad Channel 4 o'r nofel Poppy Shakespeare, a ddangoswyd am y tro cyntaf ar 31 Mawrth, 2008. Ymddangosodd yn nrama hanesyddol y BBC Small Island ym mis Rhagfyr 2009.[8][9]

Bywyd personol

Mae Harris wedi bod mewn perthynas gyda Peter Legler ers 2012.[10]

Ffilmyddiaeth

Ffilmiau

BlwyddynTeitlRôl
2001CrustYsgrifenyddes
2002Living In HopeGinny
2002AnansiCarla
200228 Days LaterSelena
2004TraumaElisa
2004After the SunsetSophie
2006Pirates of the Caribbean: Dead Man's ChestTia Dalma
2006Miami ViceY Ditectif Trudy Joplin
2006A Cock and Bull StoryJennie
2007Pirates of the Caribbean: At World's EndTia Dalma/Calypso
2008Street KingsLinda Washington
2008Explicit IllsJill
2008AugustSarah
2009Morris: A Life with Bells OnSonja
2009Ninja AssassinMika Coretti
2009Sex & Drugs & Rock & RollDenise
2009My Last Five GirlfriendsGemma
2010The First GraderJane Obinchu
2012SkyfallEve Moneypenny
2013Mandela: Long Walk to FreedomWinnie Mandela
2015SouthpawAngela Rivera
2015SpectreEve Moneypenny
2016Our Kind of TraitorGail Perkins
2016MoonlightPaula
2016Collateral BeautyMadeleine
2018RampageDr. Kate CaldwellÔl-gynhyrchu
2018MowgliRaksha (llais)Ôl-gynhyrchu

Teledu

BlwyddynTeitlRôlNodiadau
1987–1988Simon and the WitchJoyce12 pennod
1989Erasmus MicromanMillie1 bennod
1992–1993Runaway BayShuku17 pennod
1992–1995The Tomorrow PeopleAmi Jackson16 pennod
2000Dream TeamLola Olokwe1 bennod
2002Trial & Retribution VTara Gray1 bennod
2002White TeethClara4 pennod
2002The ProjectMaggie Dunn
2002–2003DinotopiaRomana2 bennod
2008Poppy ShakespearePoppy Shakespeare
2009Small IslandHortense Roberts
2009Blood and OilAlice Omuka
2010AccusedAlison Wade1 bennod

Gemau fideo

BlwyddynTeitlRôl
2010Fable IIIPage
2012007 LegendsEve Moneypenny

Theatr

BlwyddynTeitlRôl
2000The Witch of EdmontonSusan Carter
2011FrankensteinElizabeth Lavenza

Gwobrau ac enwebiadau

Rhestr wobrau ac enwebiadau
BlwyddynGwobrCategoriGwaithCanlyniad
2003Golden NymphPerfformiad Gorau gan ActoresWhite TeethEnwebwyd
2004Black Reel AwardsBest Breakthrough Performance28 Days LaterEnillodd
2007Gwobrau BAFTARising StarEnwebwyd
2010Gwobrau SatelliteActores Orau mewn Mini-gyfresSmall IslandEnwebwyd
2011Gwobrau GlamourActores Theatr y FlwyddynFrankensteinEnillodd
2012Black Reel AwardsActores OrauThe First GraderEnwebwyd
2013Gwobrau EssenceShining Star AwardSkyfallEnillodd
2014London Film Critics Circle AwardsActores Gefnogol OrauMandela: Long Walk to FreedomEnwebwyd
2014London Film Critics Circle AwardsActores Brydeinig y FlwyddynEnwebwyd
2014Gwobrau NAACPActores Gefnogol OrauMandela: Long Walk to FreedomEnwebwyd

Cyfeiriadau