Neithon

sant a mab Brychan (5g)

Un o feibion Brychan oedd Neithon (hefyd: Noethon, Nwython; 5g) a ymgartrefodd fel llawer o'i frodyr yng ngogledd-ddwyrain Cernyw. Mae'n gysylltiedig a'r pentrefan 'Stoke' ger pentref Hartland, Dyfnaint. Nodir 468 fel ei ddyddiad geni a 17 Mehefin fel ei wylmabsant a'i ddyddiad marw - o bosib yn 510.

Neithon
Bu farw17 Mehefin 510 Edit this on Wikidata
Hartland Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmynach Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl17 Mehefin Edit this on Wikidata
TadBrychan Edit this on Wikidata

Mae'r cofnod cynharaf amdano'n dod o lawysgrif o'r enw Gotha MS a ganfuwyd yn 1937, sef Bywyd Meithon.[1][2]

Nodir yn y llawysgrif hwn iddo gael ei eni yn Iwerddon a hwylio i Hartland lle ymgartrefodd mewn dyffryn ffrwythlon, ger ffynnon a elwir hyd heddiw'n St Nectan's Well. Ceir eglwys yma hefyd mewn pentrefan o'r enw Stoke; yr enw ar y pentrefan hwn yn Llyfr Dydd y Farn yw 'Nistanestoc' ac yn 1189 cofnodir yr enw fel 'Nectanestoke'.

Ceir chwedl yn y Gotha MS fod ei frodyr a'i chwiorydd yn ymweld ag ef yn flynyddol ar Nos Galan. Roedd gan Neithon ddwy fuwch a dygwyd y ddwy gan ladron, yn ôl y chwedl. Wedi hir a hwyr canfyddodd y gwartheg yn 'Neweton' (y Stoke Newydd), ond trodd y lladron arno gan ei ladd a thorri ei ben - a hynny ar 17 Mehefin. Ond cododd Neithon ei ben o'r llawr a'i gario yn ei ddwylo at y ffynnon, ger ei gartref.

Ceir sawl Neithon yn y cynod hwn gan gynnwys Neithon ap Gwyddono, un o frenhinoedd Ystrad Clud, Neithon ap Senyllt, tad Rhun ac un o hynafiaid Merfyn Mawr Tywysog Ynys Manaw a Neithon ap Cathen.

Llefydd a enwyd ar ei ôl

Rhestr Wicidata:

#Eglwys neu GymunedDelweddCyfesurynnauLleoliadWicidata
1Capel Neithon Sant
50°24′35″N 4°38′08″W / 50.4098°N 4.6355°W / 50.4098; -4.6355Pluw WynnekQ17555646
2Dyffryn Neithon
50°39′53″N 4°43′09″W / 50.6648°N 4.7192°W / 50.6648; -4.7192TrevenaQ7594902
3Eglwys Sant Neithon, Hartland
50°59′42″N 4°30′59″W / 50.9949°N 4.51649°W / 50.9949; -4.51649HartlandQ7594900
4Eglwys Sant Neithon, Welcombe
50°56′17″N 4°31′24″W / 50.9381°N 4.52333°W / 50.9381; -4.52333WelcombeQ7594901
5Eglwys y Plwyf, Sant Neithon
50°36′20″N 3°32′19″W / 50.6056°N 3.53862°W / 50.6056; -3.53862AshcombeQ17527373
6Ffynnon Neithon50°59′40″N 4°30′53″W / 50.994425°N 4.514682°W / 50.994425; -4.514682HartlandQ26439806
7Gat a rhan o wal Eglwys Sant Neithion50°56′16″N 4°31′23″W / 50.93791°N 4.523126°W / 50.93791; -4.523126WelcombeQ26595386
8Rhaeadr Sant Neithon, Kieve
50°39′51″N 4°42′36″W / 50.664166666667°N 4.71°W / 50.664166666667; -4.71TrevenaQ7594908
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Cyfeiriadau