Pentahedron

Mewn geometreg, mae pentahedron (lluosog: pentahedra) yn bolhedron gyda phum wyneb neu ochr. Ceir dau fath topolegol gwahanol.

O ran polygonau gyda wynebau rheolaidd, y ddau ffurf topolegol yw'r pyramid sgwâr a'r prism trionglog. Gellir hefyd adeiladu amrywiadau geometrig gyda wynebau afreolaidd.[1][2]

EnwDiagramCornelYmylWynebMath o wyneb
Pyramid sgwâr5854 triongl
1 sgwâr
Prism trionglog6952 driongl
3 sgwâr

Gellir edrych ar y pyramid sgwâr fel prism trionglog, lle mae un ymyl yn cael ei binsio neu ei dynnu'n bwynt, gan golli un ymyl ac un fertig, a newid dau sgwâr yn drionglau.

Gall pentahedron afreolaidd fod yn solet nad yw'n amgrwm.

Cyfeiriadau