Priodas

Uniad ffurfiol rhwng dau berson neu ragor[1] fel arfer er mwyn byw gyda'i gilydd ac yn aml i gael plant yw priodas[2] (neu weithiau mewn cyd-destun cyfreithiol y stad briodasol).[3] Mae cyfraith briodasol yn rheoli'r hawliau a dyletswyddau sydd gan barau priod, ac eu statws cyfreithiol parthed ei gilydd a'u plant.

Y priodfab a'r briodferch ym Mwlch-y-cibau. Ffotograff gan Geoff Charles (1954).

Mae'r cysyniad o briodas yn gyffredin i gymdeithasau ar draws y byd, gan ei fod yn darparu strwythur ar gyfer sylfaen gymdeithasol a phersonol, sy'n cynnwys anghenion rhywiol a chariadol, rhannu llafur rhwng y ddau rywedd, ac annog cenhedlu a magu plant.[4]

Gelwir dyn priod yn ŵr a menyw briod yn wraig. Gelwir y ddefod sy'n nodi dechrau priodas hefyd yn briodas neu'n seremoni briodas. Mae nifer yn gweld priodas fel uniad rhwng dau deulu er mwyn creu teulu newydd, hynny yw y teulu niwclear sy'n cynnwys rhieni a'u plant. Gelwir teulu'r priod yn deulu-yng-nghyfraith. Mewn rhai diwylliannau mae priodas yn uniad am weddill oes na ellir ei derfynu, ond mewn cymdeithasau eraill mae modd dod â phriodas i ben drwy ymwahaniad, dirymiad, neu ysgariad.

Mewn rhai diwylliannau mae'n bosib i unigolion briodi mwy nag un gŵr neu wraig, ond mewn diwylliannau eraill mae amlbriodas yn drosedd. Yn draddodiadol ar draws y byd, uniad rhwng dyn a menyw yw priodas. Yn yr 21g mae nifer o wledydd wedi cyfreithloni priodas gyfunryw sy'n caniatáu priodas rhwng dau ddyn neu ddwy fenyw.

Gweler hefyd

  • Priodas gyfraith gyffredin

Cyfeiriadau