Rhif deuaidd

Counting in binary

Patrwm
degol
Rhif
deuaidd
00
11
210
311
4100
5101
6110
7111
81000
91001
101010
111011
121100
131101
141110
151111

O fewn mathemateg ac electroneg digidol, rhif deuaidd (weithiau: 'rhif deuol') yw nifer a fynegir yn y system rhif bôn-2 neu'r system rhifau deuaidd, sy'n defnyddio dim ond dau symbolau 0 (sero) ac 1 (un).

Cyfeirir at bob digid fel bit. Oherwydd ei ddefnydd syml o fewn cylchedau electronig, digidol, mae'r system ddeuaidd yn cael ei defnyddio gan bron pob cyfrifiadur modern a dyfeisiau cyfrifiadurol.

Hanes

Astudiwyd y system rhif ddeuaidd yn Ewrop yn yr 16g a'r 17g gan Thomas Harriot, Juan Caramuel y Lobkowitz a Gottfried Leibniz. Fodd bynnag, mae systemau sy'n gysylltiedig â rhifau deuaidd wedi ymddangos yn gynharach mewn sawl diwylliant gan gynnwys yr Aifft, Tsieina ac India. Ysbrydolwyd Leibniz yn benodol gan y I Ching.[1][2][3]

Cynrychiolaeth

Pan ddefnyddir rhifolion Arabaidd (dull gweledydd y Gorllewin), mae rhifau deuaidd fel arfer yn cael eu sgwennu gan ddefnyddio'r symbolau 0 ac 1.

Gall unrhyw rif gael ei gynrychioli, neu ei fynegi, gan gyfres o ddarnau (neu 'ddigidau deuaidd'), a all fod yn eu tro'n cael eu cynrychioli gan unrhyw fecanwaith sy'n gallu bod mewn dau gyflwr sy'n unigryw (two mutually exclusive states). Gellir dehongli unrhyw un o'r rhesi o symbolau canlynol fel gwerth rhifol deuaidd o 667:

1010011011
||||||
ynynnyynyy

Cyfeiriadau