Robot dynoid

robot gyda siap dyn / dynes

Robot gyda siâp y corff dynol yw robot dynoid (term a fathwyd o humanoid robot). Cânt eu dylunio i ryngweithio ag offer ac amgylcheddau dynol, at ddibenion arbrofol megis astudio cerdded a symud ar ddwy droed, neu at ddibenion eraill. Yn gyffredinol, mae gan robotiaid dynoid dorso, pen, dwy fraich, dwy goes a dwy droed, er y gall rhai robotiaid dynoid ddyblygu rhan o'r corff yn unig, er enghraifft, llaw neu ddwylo, neu o'r canol i'r pen. Mae gan rai robotiaid dynoid hefyd bennau sydd wedi'u cynllunio i efelychu nodweddion wyneb dynol fel llygaid a cheg. Mae'r Android yn ddynoid sydd wedi'i adeiladu i ymdebygu i fodau dynol yn esthetig.

Robot dynoid
Mathrobot deudroed Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ameca cenhedlaeth 1 yn y labordy yn Engineered Arts Ltd.

Hanes

Tarddodd y cysyniad o robot dynoid mewn llawer o wahanol ddiwylliannau ledled y byd. Mae rhai o'r adroddiadau cynharaf am y syniad o beiriant dynol yn dyddio i'r 4g CC ym Mytholeg Roeg a thestunau crefyddol ac athronyddol amrywiol o Tsieina. Yn ddiweddarach crëwyd prototeipiau ffisegol o ddynoid awtomatig yn y Dwyrain Canol, yr Eidal, Japan a Ffrainc.

Cymru

Murlun yn Stryd Womanby, Caerdydd o ddynoid eiconig Y Dydd Olaf

Creodd y dewiniaid Gwydion ap Dôn a Math ddynoid benywaidd hardd, o flodau'r derw, banadl ac erwain, i fod yn wraig i Lleu Llaw Gyffes; galwyd hi'n Blodeuwedd. Ceir ei hanes ym Mhedwaredd Gainc y Mabinogi, sef Math fab Mathonwy. Gellir edrych ar y weithred hon fel hud a lledrith, neu fel disgrifiad cynnar o gynhyrchu android.[angen ffynhonnell]

Un o'r nofelau ffug-wyddonol yn y Gymraeg sy'n disgrifio 'peiriant yn ddyn a dyn yn beiriant', yw'r Dydd Olaf, a sgwennwyd yn 1967-8 gan Owain Owain.

Gwlad Groeg

Creodd duw Groegaidd y gofaint, Hephaestus, sawl dynoid awtomata gwahanol mewn sawl chwedl. Yn yr Iliad gan Homer, creodd Hephaestus forwynion euraidd a'u trwytho â lleisiau tebyg i ddyn i wasanaethu fel offer neu offerynnau siarad.[1] Mae myth Groegaidd arall yn manylu ar sut y creodd Hephaestus awtomaton efydd enfawr o'r enw Talos i amddiffyn ynys Creta rhag goresgynwyr.[2]

Tsieina

Yn y 3g CC, manylodd testun athronyddol Taoaidd o'r enw Liezi, a ysgrifennwyd gan yr athronydd Tsieineaidd Lie Yukou, y syniad o awtomaton dynoid. Mae'r testun yn cynnwys sôn am beiriannydd o'r enw Yan Shi a greodd robot maint dyn ar gyfer pumed brenin Brenhinllin Zhou Tsieineaidd, sef y Brenin Mu.[3] Adeiladwyd y robot yn bennaf o ledr a phren. Yr oedd gallu cerdded, canu, a symud pob rhan o'i chorff.[3]

Irac-Iran

Yn y 13g, dyluniodd peiriannydd Mwslimaidd o Fesopotamia, sef Ismail al-Jazari ddynoidau amrywiol. Creodd robot-weinyddes a fyddai'n dosbarthu diodydd o gronfa hylif ac yn ymddangos allan o ddrws awtomatig i'w gweini.[4] Defnyddiwyd awtomaton arall a greodd ar gyfer golchi dwylo i ail-lenwi basn â dŵr ar ôl cael ei wagio.[5]

Yr Eidal

Model o robot gyda gweithrediadau mewnol, mecanyddol gan y gwyddonydd Leonardo da Vinci

Yn y 1400au, datblygodd Leonardo da Vinci cysyniad robot mecanyddol cymhleth wedi'i orchuddio â siwt o arfwisg, a oedd yn gallu eistedd, sefyll a symud ei freichiau'n annibynnol.[6] Roedd y robot cyfan yn cael ei weithredu gan system o bwlïau a cheblau.

Dynoidau cyfoes

Robot iCub yng Ngŵyl Wyddoniaeth Genoa, yr Eidal, yn 2009

Mae dynoidau bellach yn cael eu defnyddio ar gyfer ymchwil a hynny o fewn sawl maes gwyddonol. Astudir strwythur ac ymddygiad y corff dynol (biomecaneg) i adeiladu robotiaid dynoid. Ar yr ochr arall, mae'r ymgais i efelychu'r corff dynol yn arwain at well dealltwriaeth ohono. Mae gwybyddiaeth ddynol yn faes astudio sy'n canolbwyntio ar sut mae bodau dynol yn dysgu o wybodaeth synhwyraidd er mwyn caffael sgiliau. Defnyddir y wybodaeth hon i ddatblygu modelau rhifyddol o ymddygiad dynol, ac mae wedi gwella dros amser.

Yn 2024 un o'r dynoidau a ddatblygwyd orau oedd Optimws a grewyd gan Tesla ac oedd yn defnyddio'r un dechnoleg AI a thechnoleg ceir i hunan yrru.

Awgrymwyd y bydd robot wedi'i ddatblygu'n iawn yn gwella bywydau bodau dynol. Gweler trawsddynoliaeth.

Mewn ffuglen wyddonol

Mae thema gyffredin ar gyfer darlunio dynoidau mewn ffuglen wyddonol yn ymwneud â sut y gallant helpu bodau dynol mewn cymdeithas neu'n groes i hyn: yn fygythiad i ddynoliaeth (fel yn y Dydd Olaf).[7] Mae'r thema hon yn ei hanfod yn cwestiynu a yw deallusrwydd artiffisial yn rym da neu ddrwg i ddynolryw.[7] Enghraifft o ddynoid da, sydd o fudd i bobl, yw Commander Data yn Star Trek a C-3PO yn Star Wars.[7] Ar y llaw arall, mae 'r T-800 yn Terminator a Megatron yn Transformers yn ddynoidau drwg, peryglus.[7]

Ceir thema amlwg arall mewn ffuglen wyddonol am ddynoidau (robotiaid dynol) sy'n canolbwyntio ar bersonoliaeth. Mae rhai ffilmiau, yn enwedig Blade Runner a Blade Runner 2049, yn archwilio a ddylai bod synthetig, adeiledig gael ei ystyried yn berson ai peidio. Dyma hefyd prif thema'r nofel Y Dydd Olaf a sgwennwyd yn 1967-8.[8] Yma, mae'r awdur yn archwilio nodweddion dynol fel cariad, ac androidau sy'n anwahanadwy oddi wrth fodau dynol, ond eto nid oes ganddynt yr un hawliau â bodau dynol. Mae'r thema hon i'w gael mewn nofelau a ffilmiau diweddar sy'n annog cydymdeimlad y gynulleidfa tra hefyd yn tanio anesmwythder at y syniad bod robotiaid dynol yn dynwared bodau dynol yn rhy agos.[9]

Cyfeiriadau

Darllen pellach

  • Carpenter, J., Davis, J., Erwin-Stewart, N., Lee. T., Bransford, J. & Vye, N. (2009). Cynrychiolaeth rhyw mewn robotiaid humanoid at ddefnydd domestig. International Journal of Social Robotics (rhifyn arbennig). 1 (3), 261‐265. Yr Iseldiroedd: Springer.
  • Carpenter, J., Davis, J., Erwin-Stewart, N., Lee. T., Bransford, J. & Vye, N. (2008). Peiriannau anweledig mewn swyddogaeth, nid ffurf: Disgwyliadau defnyddwyr o robot humanoid domestig. Trafodion y 6ed gynhadledd ar Ddylunio ac Emosiwn. Hong Kong, Tsieina.
  • Williams, Karl P. (2004). Adeiladu Eich Robotiaid Dynol Eich Hun: 6 Phrosiect Rhyfeddol a Fforddiadwy. Electroneg McGraw-Hill/TAB.ISBN 0-07-142274-9ISBN 0-07-142274-9 .ISBN 978-0-07-142274-1ISBN 978-0-07-142274-1 .

Dolenni allanol