Traddodiad crefyddol ac athronyddol sy'n pwysleisio byw mewn cytgord â Thao (neu Dao) ydy Taoaeth (hefyd Daoaeth). Mae'r term Tao yn golygu "ffordd", "llwybr" neu "egwyddor", a gellir ei darganfod mewn athroniaethau a chrefyddau Tsieineaidd eraill ar wahân i Daoaeth. Yn Nhaoaeth, fodd bynnag, dynoda Tao y ffynhonnell a'r grym y tu ôl i bopeth. Yn y diwedd, anhraethadwy ydy hi: "The Tao that can be told is not the eternal Tao."[1]
Taoaeth |
---|
Enw Tsieineeg |
---|
Tsieineeg traddodiadol | 道教 neu 家 |
---|
Tsieineeg syml | 道教 neu 家 |
---|
Trawsysgrifiad |
---|
Mandarin Tsieineaidd |
---|
- Hanyu Pinyin | dào jiào neu jiā (dao4) (jiao4 neu jia1) |
---|
- Wade–Giles | tao4 chiao4 |
---|
Tsieineeg Yue |
---|
- Yale wedi'i Ladineiddio | dou6 gaau3 |
---|
|
Enw Fietnameg |
---|
Fietnameg | đạo giáo |
---|
Enw Corëeg |
---|
Hangul | 도교 |
---|
Trawsysgrifiad |
---|
- Rhufeinio diwygiedig | do gyo |
---|
- McCune- Reischauer | to kyo |
---|
|
Enw Japaneg |
---|
Kanji | 道 教 |
---|
Hiragana | どう きょう |
Trawsysgrifiad |
---|
- Hepburn diwygiedig | dō kyō |
---|
|
Prif destun llenyddol Taoaeth ydy'r Tao Te Ching. Dyma lyfr cryno ac amwys sy'n cynnwys dysgeidiaeth a briodolir i Laozi (Tsieineeg: 老子; pinyin: Lǎozi; Wade–Giles: Lao Tzu). Ynghyd ag ysgrifau Zhuangzi, mae'r testunau hyn yn adeiladu sylfaen athronyddol Taoaeth. Yr enw ar y math o Daoaeth hon ydy Taoaeth athronyddol, gan ei bod yn unigoliaethol o ran ei natur ac nid yw hi wedi'i sefydliadu. Datblygodd fathau sefydliadedig dros amser ar ffurf ysgol o feddyliau gwahanol, gan amlaf yn integreiddio credoau ac arferion sy'n ôl-ddyddio'r prif destunau – fel, er enghraifft, theorïau Ysgol y Naturiaethwyr, sy'n cyfosod y cydsyniad o in iang a'r Pum Elfen. Mae ysgol o feddyliau Taoaidd fel arfer yn parchu Laozi, yr anfarwolion neu'r hynafiaid, ynghyd ag amrywiaeth o ddarogan a defodau allfwrw, ac arferion er mwyn cyrraedd perlewyg, hirhoedledd neu anfarwoldeb.
Cyfeiriadau