Rockall

Ynys fechan yng ngogledd ddwyrain Cefnfor yr Iwerydd yw Rockall.

Rockall
Mathcraig Edit this on Wikidata
PoblogaethEdit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC±00:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnysoedd Allanol Heledd Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Arwynebedd0.0007843 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr23 metr Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau57.5963°N 13.6873°W Edit this on Wikidata
Hyd0.031 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Ynys Rockall
Lleoliad Rockall

Saif rhwng Iwerddon a Gwlad yr Iâ - 430 km (270 milltir) i'r gogledd-orllewin o Iwerddon, 460 km (290 milltir) i'r gorllewin o'r Alban a 700 km (440 milltir) i'r de o Wlad yr Iâ.

Sofraniaeth

Ar 18 Medi 1955, disgynnwyd Lieutenant-Commander Desmond Scott RN, Brian Peel RM, Corporal AA Fraser RM, a James Fisher o hofrennydd, ar raff, ar yr ynys. Tridiau wedyn, ar 21 Medi, datganodd Llynges Lloegr ei bod wedi cyfeddiannu'r ynys, a'i bod felly ym meddiant y DU. Ar 7 Tachwedd 1955 dywedodd y Cynghorydd J. Abrach Mackay (84 oed), aelod o'r Clan Mackay, "Hawliai fy Nhad... fod yr ynys yn perthyn i'r teulu, a mynnaf fod Llynges Lloegr yn ei drosglwyddo'n ôl i'r teulu. 'Does ganddyn nhw ddim owns o hawl dros y lle!"[1][2] ni wnaeth Llywodraeth y DU ymateb i'w gais.

Mae Gweriniaeth Iwerddon wedi gwrthod hawl Prydain dros yr ynys, gan fynegi, "which would be the basis for a claim to a 12-mile territorial sea".[3]

Mewn diwylliant

Canodd yr Wolfe Tones gân yn 1975 am yr ynys: Rock on, Rockall, a gyfansoddwyd gan B. Warfield.[4][5]

Oh the Empire it is finished
No foreign lands to seize
So the greedy eye of England
Is stirring towards the seas
Two hundred miles from Donegal
There's a place that's called Rockall
And the groping hands of Whitehall
Are grabbing at it's walls.

Corws:

Oh rock on Rockall you'll never fall
For Britain's greedy hands
Oh you'll meet the same resistance
Like you did in many lands.
May the Seagulls rise and pluck your eyes
And the water crush your shell
And the natural gas will burn your ass
And blow you all to hell.[6]

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am y Deyrnas Unedig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato