Siôr (sant)
Sant Cristnogol yw Siôr (Groeg (iaith): Γεώργιος, Georgios; Lladin: Georgius; hefyd weithiau Siors neu Siorys yn Gymraeg).[1] Dethlir ei ŵyl, Dygwyl Siôr,[2] ar 23 Ebrill (18 Ebrill yn yr Eglwys Goptaidd).[3] Ef yw nawddsant Brasil, Catalwnia, Ethiopia, Georgia, Lloegr, Portiwgal a nifer o lefydd eraill.
Siôr | |
---|---|
Darlun o Sant Siôr yn Llyfr Oriau De Grey (tua 1390), Llyfrgell Genedlaethol Cymru | |
Ganwyd | 275 Kayseri |
Bu farw | Nicomedia, Lod |
Dydd gŵyl | 23 Ebrill |
Mam | Polychronia |
Ni wyddwn llawer am fywyd y ffigwr hanesyddol Siôr, ond er gwaethaf rhai amheuon credir bellach ei fod wedi bodoli. Daw ei enw o'r gair Groeg ar gyfer ffermwr neu werinwr. Roedd yn ferthyr Cristnogol yn y 3g, ac mae'n debyg iddo farw yn yr ardal o gwmpas Diospolis neu Lydda ym Mhalesteina (bellach Lod, Israel), lle mae'r tystiolaeth cynharaf am ei gwlt. Mae'n bosib mai milwr ym myddin Rhufain oedd Siôr, a daeth i fod yn sant milwrol poblogaidd yn yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol. Yn y traddodiad hwnnw anrhydeddir ef fel megalomartyros ("merthyr mawr").[3]
Darluniwyd Siôr fel marchog ar geffyl gwyn yn gorchfygu draig, symbol o ddrygioni. Datblygodd hyn i fod yn chwedl am Siôr yn achub tywysoges oddi wrth y ddraig, a ddaeth yn boblogaidd iawn yng ngwledydd y gorllewin gyda chyhoeddi'r Llith Euraid, casgliad o fucheddau'r seintiau gan Jacobus de Voragine, yn y 13g. Mae'n bosib bod y chwedl am Perseus yn achub Andromeda o grafangau bwystil, mewn lleoliad nid ymhell o Lydda, wedi dylanwadu hefyd ar chwedl Siôr a'r Ddraig.[3]
Cynyddodd poblogrwydd cwlt Siôr yng ngorllewin Ewrop yng nghyfnod y Croesgadau. Mabwysiadodd brenhinoedd Lloegr ef yn y 13g, fel y gwnaeth nifer o bŵerau eraill Ewrop megis Aragón, Fenis, Genova a Phortiwgal, oherwydd ei ddelwedd fel y milwr Cristnogol delfrydol.[3] Sefydlwyd Siôr fel nawddsant teyrnas Lloegr ym 1348, pan sefydlwyd Urdd y Gardas Aur gan Edward III; Siôr oedd nawddsant yr urdd sifalrig hwn.[4] Mae baner Lloegr yn seiliedig ar faner y sant.
Mae tri murlun canoloesol o Siôr wedi goroesi mewn eglwysi yng Nghymru. Mae'r mwyaf o'r rhain, ac un o'r mwyaf yng ngwledydd Prydain, yn Eglwys Cadog Sant, Llancarfan, Bro Morgannwg.[5]
- Baner dinas Barcelona, sy'n cyfuno baner y sant ag arfau Coron Aragón
- Eglwys Sant Siôr yn Lalibela, Ethiopia
- Capel Sant Siôr, Castell Windsor
- Murlun o'r sant yn Eglwys Llancarfan, Bro Morgannwg
- Eglwys Sain Siorys, Bro Morgannwg
Eglwysi cysegredig i Siôr yng Nghymru
- Cwm-parc (Rhondda Cynon Taf) – 1895–1896; Gradd II[6]
- Llandrillo-yn-Rhos (Conwy) – 1913; Gradd II[7]
- Llan Sain Siôr (Conwy) – 1887–1894, ar safle eglwys flaenorol; Gradd II[8]
- Reynoldston (Abertawe) – 1867, ar safle eglwys flaenorol; Gradd II[9]
- Sain Siorys (Bro Morgannwg) – cyn y 14g; Gradd II*[10]
- Tredegar (Blaenau Gwent) – 1835–1836; Gradd II[11]
- Trefor (Gwynedd) – 1879–1881; Gradd II[12]