Tredegar

Tref a chymuned ym mwrdeistref sirol Blaenau Gwent, Cymru, yw Tredegar.[1][2] Saif yn Nyffryn Sirhywi. Mae Caerdydd 33.2 km i ffwrdd o Tredegar ac mae Llundain yn 218.7 km. Y ddinas agosaf ydy Casnewydd sy'n 27 km i ffwrdd.

Tredegar
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth15,103 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBlaenau Gwent Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd3,167.56 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.7776°N 3.2407°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000758 Edit this on Wikidata
Cod OSSO145095 Edit this on Wikidata
Cod postNP22 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auAlun Davies (Llafur Cymru)
AS/auNick Smith (Llafur)
Map
Am leoedd eraill yn dwyn yr enw, gweler Tredegar (gwahaniaethu)

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Alun Davies (Llafur Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Nick Smith (Llafur).[3][4]

Hanes

Wedi'i leoli o fewn ffiniau hanesyddol yr hen Sir Fynwy, fe ddaeth yn ganolfan gynnar y Chwyldro Diwydiannol yn Ne Cymru. Ym 1778, adeiladwyd ffwrnais haearn yn Sirhywi gan Thomas Atkinson a William Barrow a ddaeth i'r ardal o Lundain.[5] Roedd angen tanwydd ar gyfer y ffwrnais, felly cyflogwyd dynion i gloddio glo ym Mryn Bach a Nant-y-bwch. Dyma'r mwyngloddio cyntaf, ar raddfa fach, yn yr ardal.

Methodd y ffwrnais yn 1794. Yn 1797, adeiladodd Samuel Homfray, gyda'i bartneriaid Richard Fothergill a Monkhouse Matthew, ffwrnais newydd, gan brydlesu'r tir o Stâd Tredegar yng Nghasnewydd.[6] Creodd hyn Waith Haearn Sirhywi a oedd yn y pendraw i ddod yn Waith Haearn Tredegar, a enwyd er anrhydedd Ystâd Tŷ Tredegar yn Nhredegar a Pharc Tredegar yng Nghasnewydd yn ne'r sir. Mae Adrian Vaughn, yn ei lyfr Grub, Dŵr a Relief (1985) yn crybwyll mai yn 1832 y cymerodd John Gooch swydd reolwr yng ngweithfeydd haearn Tredegar.

Bu sawl o epidemig colera yn y dref yn ystod y 19g a chrëwyd mynwent benodedig ar gyfer y rhai a fu farw o golera yng Nghefn Golau.[7]

Pensaernïaeth

Tŷ Bedwellty

Mae Tŷ Bedwellty a'i ardd yn adeilad rhestredig Gradd 2. Yn wreiddiol, roedd yr adeilad yn "fwthyn to gwellt isel", ac fe gafodd yr hen dŷ ei adnewyddu ym 1809. Fe adeiladwyd yr adeilad presennol ym 1818 fel tŷ i Samuel Homfray, a oedd yn brif gyflogwr yr ardal am y rhan fwyaf o'r 19g, trwy ei weithiau glo a haearn.

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[8][9][10][11]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Tredegar (pob oed) (15,103)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Tredegar) (1,212)
  
8.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Tredegar) (13855)
  
91.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Tredegar) (3,137)
  
46.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cloc y Dref

Un o brif nodweddion Tredegar yw Cloc y Dref, sydd yn dominyddu ochr ddeheuol canol y dref. Syniad Mrs. R P Davies, gwraig rheolwr Gwaith Haearn Tredegar, oedd cyflwyno "cloc oleuedig aruchel". Ei phenderfyniad hi oedd i adeiladu'r cloc yng nghylch canol y dref.

Enwogion

Gwybodaeth eraill

Yn ôl Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011, mae 8% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg. Mae 468 o bobl yn gallu siarad Cymraeg, mae 441 yn gallu darllen Cymraeg, ac mae 392 yn gallu ysgrifennu Cymraeg. Yn 2001, roedd 8.8% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg.[12]

Cyfeiriadau

Dolenni allanol