Siglen felen

rhywogaeth o adar
Siglen felen
Motacilla flava

,

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas:Animalia
Ffylwm:Chordata
Dosbarth:Aves
Urdd:Passeriformes
Teulu:Motacillidae
Genws:Motacilla[*]
Rhywogaeth:Motacilla flava
Enw deuenwol
Motacilla flava
Dosbarthiad y rhywogaeth
Cuculus canorus canorus + Motacilla flava

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Siglen felen (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: siglennod melynion) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Motacilla flava; yr enw Saesneg arno yw Yellow wagtail. Mae'n perthyn i deulu'r Siglennod (Lladin: Motacillidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain, ond nid yng Nghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn M. flava, sef enw'r rhywogaeth.[2]

Yn y rhannau lle mae'r gaeafau'n oer mae'r Siglen Felen yn aderyn mudol, sy'n mudo o Affrica a de Asia i aeafu. Yng ngorllewin Ewrop nid yw'n symud ymhell. Mae'n aderyn o 15 – 16 cm o hyd, gyda chynffon sy'n fyrrach na'r siglennod eraill a geir yn Ewrop, er enghraifft y Siglen Lwyd. Ceir cryn amrywiaeth yn yr is-rywogaethau, yn enwedig yn lliw y pen, ond yn gyffredionol mae'r aderyn yn wyrdd-frown ar y cefn ac yn felyn ar y bol.

Is-rywogaethau

Ar un adeg roedd y M. f. flavissima yn aderyn gweddol gyffredin yng Nghymru, yn enwedig yn y dwyrain, ond bellach ychydig sy'n nythu yma. Gwelir nifer o'r is-rywogaethau eraill o dro i dro yn ystod y tymor mudo, yn enwedig M. f. flava (Siglen Benlas).

Teulu

Mae'r siglen felen yn perthyn i deulu'r Siglennod (Lladin: Motacillidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaethenw tacsondelwedd
Aderyn hirewin AbysiniaMacronyx flavicollis
Aderyn hirewin FüllebornMacronyx fuelleborni
Aderyn hirewin GrimwoodMacronyx grimwoodi
Aderyn hirewin PanganiMacronyx aurantiigula
Aderyn hirewin gwridogMacronyx ameliae
Aderyn hirewin gyddf-felynMacronyx croceus
Aderyn hirewin y PenrhynMacronyx capensis
Corhedydd euraidTmetothylacus tenellus
Macronyx sharpeiMacronyx sharpei
Siglen goedwigDendronanthus indicus
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Safonwyd yr enw Siglen felen gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.