Siop lyfrau Cymraeg

Mae siop lyfrau Cymraeg neu ar lafar siop Gymraeg yn cyfeirio at siop sy'n gwerthu llyfrau a nwyddau Cymraeg a Chymreig e.e. cerddoriaeth Gymraeg, cardiau cyfarch Cymraeg, crefftau Cymreig a llyfrau Saesneg ar Gymru. Ddiwedd y 1960au a dechrau'r 70au sefydlwyd nifer ohonynt ar hyd a lled Cymru. Roedd siopau llyfrau Cymraeg yn bod cyn hynny, y rhan fwyaf ohonynt mewn trefi colegol, er nad i gyd, a'r rhan fwyaf yn gwerthu llyfrau Cymraeg yn unig. Ond erbyn diwedd 1960au'r ganrif roedd nwyddau eraill Cymraeg ar gael, er yn brin iawn.

Siop lyfrau Siop y Bobol, Abergwaun

Roedd Sais o'r enw Rooksby [angen ffynhonnell] wedi prynu siop yng Nghaernarfon ac wedi gweld fod galw am gardiau Cymraeg. Roedd e wedi bod yn arwerthwr cardiau i gwmniau yn Lloegr. Aeth atynt a threfnu argraffu'r cardiau Cymraeg yr un pryd a'r rhai Saesneg ac felly yn ei gwneud yn gystadleuol o ran pris. Hefyd roedd cwmniau recordio wedi eu sefydlu - Welsh Teldisc, gan John Edwards, Recordiau Cambrian gan Jo Jones, a Recordiau'r Dryw gan Aneirin Talfan Davies ac Alun Talfan Davies a oedd yn berchen ar Lyfrau'r Dryw.

Rhestr siopau llyfrau Cymraeg cyfoes

  • Awen Meirion - Y Bala[1]
  • Awen Menai - Porthaethwy
  • Awen Teifi - Aberteifi
  • Bys a Bawd - Llanrwst
  • Caban - Pontcanna, Caerdydd
  • Cant a Mil - Caerdydd
  • Cwpwrdd Cornel - Llangefni
  • Elfair - Rhuthun
  • Llên Llŷn - Pwllheli
  • Palas Print - Caernarfon
  • Palas Print Pendre (Siop Pendre gynt) - Bangor
  • Siop Clwyd - Dinbych
  • Siop Cwlwm - Croesoswallt
  • Siop D.J. - Abergwaun
  • Siop Eifionydd - Porthmadog
  • Siop Inc – Aberystwyth
  • Siop Lyfrau Lewis - Llandudno
  • Siop Lyfrau'r Hen Bost - Blaenau Ffestiniog
  • Siop Lyfrau'r Senedd-Dy – Machynlleth
  • Siop Na-nôg - Caernarfon
  • Siop Sian - Crymych
  • Siop y Castell - Aberteifi
  • Siop y Cennen - Rhydaman
  • Siop y Felin - Yr Eglwys Newydd, Caerdydd
  • Siop y Pentan Caerfyrddin
  • Siop y Pentan Caernarfon
  • Siop y Pethe - Aberystwyth
  • Siop y Siswrn - Y Wyddgrug
  • Siop Tŷ Tawe - Abertawe

Rhestr o siopau Cymraeg nad ydynt bellach ar gael

  • Siop y Bont - Pontypridd[2][3]
  • Siop y Morfa - Y Rhyl
  • Siop y Siswrn - Wrecsam[4]
  • Siop y Triban - Caerdydd
  • Siop y Werin - Llanelli
  • Tŷ John Penry - Abertawe

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolenni allanol