Siop y Pethe

Siop lyfrau Cymraeg yn Aberystwyth yw Siop y Pethe. Mae'n gwerthu nwyddau Cymraeg a Chymreig gan gynnwys llyfrau, cardiau cyfarch, a CDau.

Siop y Pethe
Mathcwmni cyfyngedig, siop lyfrau Cymraeg Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1968 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Delweddau allanol
Siop y Pethe o'r stryd
Siop y Pethe yn yr eira
Y tu mewn i Siop y Pethe

Agorwyd gan Gwilym a Megan Tudur ar gornel Sgwâr Glyn Dŵr yn Aberystwyth ym mis Rhagfyr 1968.[1] Ystyr "y Pethe" yw'r cyfuniad o werthoedd a diddordebau sy'n ymgorffori diwylliant traddodiadol Cymru,[2] ac yn ôl Gwilym roedd yr ymadrodd hwn yn "enw’r cyfnod ar bopeth Cymraeg o bwys" yn ystod y frwydr dros yr iaith yn y 1960au.[3] Agorodd nifer o siopau Cymraeg tebyg ar draws Cymru, ac yn ôl Gwilym Siop y Pethe oedd y siop Gymraeg fodern gyntaf gan iddi werthu recordiau, cardiau a phosteri yn ogystal â llyfrau. Roedd Siop y Pethe hefyd yn lleoliad swyddfa gyntaf Cymdeithas yr Iaith ar ddechrau'r 1970au.[1]

Penderfynodd Gwilym a Megan werthu'r busnes yn 2013 ar ôl 45 mlynedd wrth y llyw, gan roi'r siop ar werth am £445,000. Roedd Gwilym Tudur (bu farw yn 2024) yn awdur ac ei fwriad oedd ail-gydio yn ei yrfa ysgrifennu wedi gwerthu'r siop.[1] Prynwyd y siop gan Aled Rees yn 2015. Ym Mawrth 2024, cyhoeddwyd y byddai'r siop ar y stryd yn cau a'r busnes yn newid i werthu ar-lein yn unig. Roedd hyn yn dilyn cynnydd mewn costau o ran morgais, tanwydd a llai o bobl yn mynychu'r siop.[4]

Cyfeiriadau

Dolenni allanol