Symbolau Olympaidd

Eiconau, baneri a symbylau yw'r Symbolau Olympaidd sy'n cael eu defnyddio gan y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol i hybu'r Gemau Olympaidd. Mae rhai, megis y fflam, ffanfer a thema, yn fwy cyffredin yn ystod y cystadlaethau, ond gellir gweld eraill megis y faner, drwy gydol y flwyddyn.

Symbolau Olympaidd
Mathsymbol Edit this on Wikidata
Yn cynnwysOlympic rings, Olympic torch relay, Olympic Hymn, Olympic Oath Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Arwyddair

Yr arwyddair Olympaidd yw Citius, Altius, Fortius, sy'n Lladin am "Cyflymach, Uwch, Cryfach". Cynigwyd yr arwyddair gan Pierre de Coubertin ar greadigaeth y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol yn 1894. Benthycodd De Coubertin ef gan ei ffrind Henri Didon, offeiriad Dominicaidd a oedd yn frwdfrydig am athletau. Cyflwynwyd yr arwyddair yn 1924 yn y Gemau Olympaidd ym Mharis.[1]

Roedd yr arwyddair hefyd yn deitl i gylchgrawn olympaidd rhwng 1992 a 1997, cyn iddo gael ei ail-enwi yn Journal of Olympic History.

Arwyddair llai swyddogol, ond yn fwy adnabyddus a gyflwynwyd gan De Coubertin, yw "Y peth pwysicaf yw, nid i ennill, ond i gymryd rhan". Fa gafodd De Coubertin yr arwyddair hon o bregeth gan Esgob Pennsylvania, yn ystod Gemau Olympaidd 1908 yn Llundain.

Arwyddlun

Y pum cylch Olympaidd

Mae'r arwyddlun Olympaidd wedi ei gyfansoddi o bum cylch sy'n cyd-gloi (glas, melyn, du, gwyrdd a choch) ar gefndir gwyn. Dyluniwyd yn wreiddiol yn 1913 gan Barwn Pierre de Coubertin, sefydlwr y Gemau Olympaidd Modern. Ar ei gyflwyniad, yn rhifyn Awst 1913 o Revue Olympique dywedodd de Coubertin:

Dewiswyd yr arwyddlun i ddarlunio a chynrychioli Cyngres byd 1914 ...: rhoi'r pum clych sy'n cyd-gloi mewn lliwiau gwahanol - glas, melyn, du, gwyrdd, coch - ar gefndir gwyn y papur. Mae'r pum cylch yn cynrychioli y pum rhan o'r byd sydd wedi eu ennill drosodd i Olympiaeth ac yn barod i dderbyn cystadleuaeth iach.

Yn ei erthygl a'i gyhoeddwyd yn yr "Olympic Revue", cylchgrawn swyddogol y PRhO, ym mis Tachwedd 1992, esboniodd y hanesydd Americanaidd, Robert Barney, y daeth y syniad o'r cylchoedd yn cyd-gloi i Pierre de Coubertin pan oedd ef yn rheoli'r USFSA (Union des sociétés françaises de sports athlétiques) undeb a'i sefydlwyd gan dau gymdeithas chwaraeon Ffrengig, a hyd 1925, oedd yn gyfrifol am gynrychioli'r PRhO yn Ffrainc. Arwyddlun y gymdeithas oedd dau gylch yn cyd-gloi (fel y modrwyau priodas traddodiadol vesica piscis), syniad seiciatrydd o'r Swistir oedd ef yn wreiddiol, Carl Jung, iddo ef, roedd y cylchoedd yn golygu cysondeb a bod dynol.[2]

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Baner

Mae'r arwyddlun, sef yr un cylch yn ymddangos ar y faner Olympaidd:"The Olympic flag [...] has a white background, with five interlaced rings in the centre : blue, yellow, black, green and red [...] This design is symbolic ; it represents the five continents of the world, united by Olympism, while the six colors are those that appear on all the national flags of the world at the present time." (1931) [3]

Defnydd y Faner

Codir y faner Olympaidd yn ystod seremonïau agoriadol pob un o'r Gemau Olympaidd, a gostyngir hi yn ystod y seremoni cau. Defnyddir ail faner ar gyfer y Llw Olympaidd. Cedwir baneri arbennig yn neuaddau dinesig y trefi sy'n trefnu'r Gemau Olympaidd, ac ar ddiwedd y Gemau rheiny, mae Maer y Dref a drefnodd y gemau'n dychwelyd y faner i lywydd y PRhO, sydd yn ei dro'n pasio'r faner ymlaen i faer y ddinas nesaf fydd yn trefnu'r gemau. Adnabyddir yr arfer hwn fel "Seremoni Antwerp", gan mai dyna ble ddechreuodd yr arfer. Mae tri baner ar gyfer y pwrpas, ac yn wahanol i'r faner arferol gan fod ganddi rhidens pum-lliw, ac wedi eu clymu i bolyn y faner gan bum rhuban yr un lliwiau a phum lliw y cylchoedd.

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Masgotiaid

Ers Gemau Olympaidd y Gaeaf 1968 yn Grenoble, Ffrainc mae'r Gemau Olympaidd wedi cael masgot gwahanol ar gyfer pob un o'r gemau, fel arfer anifail sy'n frodorol i'r ardal, neu weithiau, ffigyrau dynol sy'n cynrychioli'r hanes diwylliannol. Y magcot cyntaf o bwys oedd Misha yng Ngemau Olympaidd 1980 yn Moscow. Defnyddiwyd Misha yn helaeth yn ystod y seremonïau agoriadol a chau'r gemau, ac roedd cymeriad cartŵn wedi ei animeiddio ar y teledu ac ymddangosodd ar nifer o nwyddau yn hybu'r gemau. Heddiw, aneli'r y rhan fwyaf o'r nwyddau tuag at bobl ifanc, felly defnyddir masgot, yn hytrach na'r faner Olympaidd neu logos y cymdeithasau.

Rhestr masgotiaid

  • Gemau Olympaidd y Gaeaf 1968, Grenoble
    • Schuss, ffigwr wedi ei steileiddio. Dyluniwyd gan Mme Lafargue
  • Gemau Olympaidd yr Haf 1968,Dinas Mexico
    • Red Jaguar, Paloma]
  • Gemau Olympaidd yr Haf 1972, München
    • Waldi, ci dachshund, sy'n boblogaidd yn Bavaria, yn cynrychioli - Gwrthiant, Cadernid, ac Ystwythder. Dyluniwyd gan Otl Aicher
  • Gemau Olympaidd yr Haf 1976, Montréal
  • Gemau Olympaidd y Gaeaf 1976, Innsbruck
    • Schneemann, dyn eira yn cynrychioli Gemau Symlrwydd
  • Gemau Olympaidd y Gaeaf 1980, Lake Placid
    • Roni (benywaidd), a Ronny (gwrywaidd), racŵn, gydag wynebau tebyg i'r het a'r gogyls a wisgair cystadleuwyr. Enwyd ar ôl y mynyddoedd Adi'ron'dak. Dyluniwyd gan Donald Moss
  • Gemau Olympaidd yr Haf 1980, Moscow
    • Misha, arth fach, dyluniwyd gan Victor Chizhikov
  • Gemau Olympaidd yr Haf 1984, Los Angeles
  • Gemau Olympaidd y Gaeaf 1984, Sarajevo
    • Vučko, blaidd fach, yn symboleiddio awydd dyn i wneud ffrindiau â anifeiliaid. Dyluniwyd gan Joze Trobec
  • Gemau Olympaidd yr Haf 1988, Seoul
    • Hodori a Hosuni, dau deigr, sy'n gyffredin yn chwedlau Corea. Dyluniwyd gan Hyun Kim
    • Eirth, neu "Komduri", pâr o Eirth du Asiaidd oedd masgotiaid Gemau Paralympaidd yr Haf 1988.
  • Gemau Olympaidd y Gaeaf 1988, Calgary
    • Hidy and Howdy, "Yr Eirth Croesawu", dau arth wen yn cynrychioli lletygarwch Gorllewin Canada. Noddodd Zoo Calgary gystadleuaeth i enwi'r eirth. Dyluniwyd gan Sheila Scott
  • Gemau Olympaidd yr Haf 1992, Barcelona
    • Cobi, Ci Defaid Catalan ciwbaidd
    • Petra, merch wedi ei steileiddio, heb freichiau, mascot Gemau Paralympaidd yr Haf 1992.
Dyluniwyd gan Javier Mariscal
  • Gemau Olympaidd y Gaeaf 1992, Albertville
    • Magique, a man-star/snow imp. Dyluniwyd gan Philippe Mairesse.
  • Gemau Olympaidd y Gaeaf 1994, Lillehammer
    • Haakon and Kristin, dau blentyn Norwyaidd yn gwisgo gwisg draddodiadol
  • Gemau Olympaidd yr Haf 1996, Atlanta
    • Izzy, ffigwr abstract
    • Blaze, ffenics lliwgar oedd masgot Gemau Paralympaidd yr Haf 1996.
  • Gemau Olympaidd y Gaeaf 1998, Nagano
    • The Snowlets - Sukki, Nokki, Lekki a Tsukki, pedwar tylluan, un ar gyfer pob blwyddyn rhwng y gemau. Dewiswyd eu henwau gan gynigion y cyhoedd. Gall cyfuno rhan cyntaf eu henwau yn ffonolegol i grau'r gair "Snowlets".
    • Parabbit, cwningen wen gyda un clust coch, ac un gwyrdd, oedd masgot Gemau Paralympaidd y Gaeaf 1998.
  • Gemau Olympaidd yr Haf 2000, Sydney
    • Olly, a kookaburra yn cynrychioli haelgarwydd ac ysbryd Olympaidd. Daw ei enw o'r gair Olympaidd.
    • Syd, platypws yn cynrychioli egni ac amgylchedd Awstralia. Daw ei enw o ddinas Sydney.
    • Millie, echidna yn cynrychioli'r mileniwm.
      Dyluniwyd yr uchod gan Matthew Hatton o Warner Bros.
    • Fatso the Fat-Arsed Wombat, masgot answyddogol.
    • Lizzie, Frill-necked Lizard masgot Gemau Paralympaidd yr Haf 2000[1]. Roedd ei fril yn siâp ynysoedd Awstralia a Tasmania wedi eu cyfuno.
  • Gemau Olympaidd y Gaeaf 2002, Salt Lake City
    • Powder, snowshoe hare yn cynrychioli Cyflymach
    • Copper, coyote yn cynrychioli Uwch
    • Coal, Arth ddu Americanaidd yn cynrychioli Cryfach
    • Otto, dyfrgi, mascot Gemau Paralympaidd y Gaeaf 2002.
  • Gemau Olympaidd yr Haf 2004, Athen
    • Athena and Phevos, brawd a chwaer, dau blwyntyn modern yn steil doliau Groegaidd hynafol.
    • Proteas, ceffyl môr lliwgar streipïog, masgot Gemau Paralympaidd yr Haf 2004
Dyluniwyd gan Spyros Gogos
Darluniwyd gan Pedro Albuquerque
  • Gemau Olympaidd yr Haf 2008, Beijing
    • Fuwa, darluniwyd gan Han Meilin. Gyda'i gilydd maent yn sillafu 北京欢迎你 ("Běijīng huānyíng nǐ"), sy'n golygu "Mae Beijing yn eich croesawu". Mae pum ffigwr:
      • Bèibei, pysgodyn
      • Jīngjing, panda mawr a lotws
      • Huānhuan, Fflam Olympaidd
      • Yingying, antelope Tibetaidd
      • Nīni, gwennol
      • Fu Niu LeLe, buwch aml-liw yn cynrychioli Gemau Paralympaidd yr Haf 2008.
  • Gemau Olympaidd y Gaeaf 2010, Vancouver
    • Miga a Quatchi - Masgotiaid Gemau Olympaidd Vancouver 2010, a Sumi - masgot y Gemau Paralympaidd.
      • Miga - Arth fôr mytholegol, hanner orca a hanner arth kermode.
      • Quatchi - A sasquatch.
      • Sumi - Ysbryd anifail gwarcheidwol gyda adenydd Thunderbird a choesau arth ddu.
    • Mukmuk - Marmot Ynys Vancouver yw Mukmuk, nid yw'n fascot swyddogol ond yn ymddangos ochr yn ochr gyda'r mascot swyddogol. Mae Mukmuk i'w ganfod ar wefan swyddogol gemau Vancouver 2010.
  • Gemau Olympaidd yr Haf 2012, Llundain
    • Wenlock a Mandeville

Cyfeiriadau